Danescourt a Pharc Hailey – Caerdydd


Fel y cwmni dŵr a dŵr gwastraff lleol, mae dyletswydd arnom i gynorthwyo datblygiadau tai newydd wrth sicrhau nad ydynt yn effeithio ar y gwasanaethau a ddarparwn ar gyfer ein cwsmeriaid cyfredol.

Dyna pam ein bod gwneud gwelliannau i’r ffordd mae’r system dŵr gwastraff yn gweithio yn ardaloedd Danescourt ac Ystum Taf yng Nghaerdydd. Bydd y gwaith yma’n sicrhau y gallwn reoli’r llif ychwanegol o garthffosiaeth a ddisgwylir wrth i ddatblygiad tai Plasdŵr dyfu, ac yn amddiffyn yr amgylchedd lleol wrth ddarparu gwasanaeth dŵr gwastraff o’r safon uchaf ar eich cyfer am flynyddoedd i ddod.

Roeddem yn bwriadu dechrau ein gwaith ym Mharc Hailey a Danescourt mis yma (Chwefror 2023). Fodd bynnag, oherwydd nifer o faterion heb eu datrys ac agosrwydd y tymor nythu adar, rydym nawr yn bwriadu dechrau ar y gwaith fis Medi. Byddwn yn parhau â'n paratoadau ac yn adolygu'r amserlen adeiladu. Cyn gynted ag y bydd dyddiad cychwyn newydd wedi'i gadarnhau byddwn yn rhoi gwybod i drigolion lleol a rhanddeiliaid.

Beth ydyn ni’n ei wneud a pham?

Rydyn ni wedi bod yn cydweithio’n agos â’r awdurdod lleol a’r datblygwr er mwyn sicrhau bod gan y rhwydwaith garthffosiaeth ddigon o gapasiti i ddelio â’r llif ychwanegol a ddaw o ddatblygiad tai Plasdŵr.

Bydd rhai o’r cartrefi newydd yn cysylltu â’n rhwydwaith o garthffosydd sy’n bodoli eisoes yn yr ardal leol lle bo digon o gapasiti ar gyfer hynny. Lle nad yw hynny’n bosibl, bydd angen i ni drosglwyddo’r llif i un o’n prif garthffosydd cyfredol er mwyn cludo’r gwastraff i Waith Trin Dŵr Gwastraff Caerdydd. Er mwyn gwneud hynny, mae angen i ni gysylltu pibell garthffosiaeth sy’n rhedeg o Danescourt i bwynt cyswllt yr ochr draw i afon Taf.

Gorsaf bwmpio Parc Hailey

Fel arfer, mae ein rhwydwaith yn dibynnu ar ddisgyrchiant i’r gwastraff lifo o gartrefi a busnesau i’n carthffosydd. Ond mewn ardaloedd tir isel – fel Parc Hailey – mae angen pwmpio’r dŵr gwastraff i fyny i’r rhwydwaith.

Trwy gydweithio’n agos â’n dylunwyr a’r awdurdod lleol, cytunwyd taw’r ateb gorau i reoli’r llif ychwanegol fyddai adeiladu gorsaf bwmpio bychan ym Mharc Hailey i gysylltu’r bibell garthffosiaeth â hi. Cyflwynwyd cais cynllunio ar gyfer yr orsaf bwpio yn Hydref 2021 a rhoddwyd caniatâd ym mis Medi 2022.

Caiff yr orsaf bwmpio ei hadeiladu ger Ffordd Tŷ Mawr, fel y mae’r map uchod yn ei ddangos. Bydd yr orsaf tua 24 metr o hyd a 21 metr o led. Bydd tri ciosg, dim mwy na 2.5 metr o uchder, uwchben y ddaear. Bydd y pympiau eu hunain 20 metr o dan y ddaear â chlawr concrit ar lefel y ddaear, felly ni fydd modd i’r trigolion eu gweld, ac ni ddylai fod unrhyw sŵn na drewdod yn codi o’r ardal. Bydd y lleoliad hwn yn caniatáu i ni ddefnyddio rhwydwaith carthffosiaeth cyfredol Caerdydd wrth gadw ein hôl troed carbon yn isel ac osgoi’r risg o darfu’n sylweddol ar nifer o lwybrau teithio allweddol ar draws Caerdydd.

Bydd yna ffens werdd tua 2.4 metr o daldra’n amgylchynu’r safle, a’r bwriad yw iddi asio i’r dirwedd sydd wedi cael ei chynllunio’n bwrpasol i guddio’r safle, fel y gwelwch dros y ddalen. Rydyn ni wedi bod yn cydweithio’n agos ag ecolegwyr i gynllunio a dylunio rhaglen ailblannu gynhwysfawr â’r nod o hybu bioamrywiaeth yn yr amgylchedd lleol.

Y ffocws dros yr ychydig wythnosau cyntaf fydd gosod ein safle gwaith a gaiff ei sefydlu o gwmpas yr ardal lle byddwn ni’n adeiladu’r orsaf bwmpio. Bydd hyn yn edrych yn sylweddol yn ystod y gwaith adeiladu, ond ar ôl cwblhau’r gwaith, bydd yr orsaf bwmpio’n llai o lawer - gweler y mapiau isod.

Wrth osod y safle gwaith, bydd angen i ni glirio llystyfiant ac addasu rhai o’r llwybrau cerdded a’r gatiau mynediad er mwyn sicrhau y gall defnyddwyr y parc barhau i fynd a dod yn ddiogel.

Yn ystod y chwech wythnos cyntaf, byddwn ni’n gosod safle gwaith dros dro gyferbyn â’r prif safle er mwyn paratoi ar gyfer y gwaith. Trwy gydol y prosiect, bydd modd i bobl fynd a dod i’r parc, ond mae’n bosibl y bydd yna ambell i wyriad, a bydd arwyddion clir i ddangos y rheiny.

Bydd y prosiect yn cymryd tua 18 mis i’w gwblhau. Ond gallai rhannau o’r gwaith ailblannu cymryd mwy o amser na hynny am y bydd yn dibynnu ar amodau’r tywydd ar y pryd.

Ar ddechrau’r prosiect, fe sylwch chi fod cerbydau mawr yn cludo offer yn ôl ac ymlaen i’r safle. Ond pan fyddwn ni wedi gosod y safle a dechrau’r gwaith, ni fydd hynny’n digwydd mor aml. Bydd yr holl draffig gwaith yn teithio trwy’r Eglwys Newydd, ar hyd Ffordd Felindre a Ffordd Tŷ Mawr - fel y mae’r map isod yn ei ddangos.

Clos De Braose, Danescourt

Mae angen i ni groesi’r rheilffordd sy’n rhedeg rhwng Caerdydd a Radyr ac afon Taf, a’r unig leoliad addas i wneud hyn gan ddefnyddio’r technegau Peirianneg Sifil fydd eu hangen yw’r ardal y tu ôl i Glos De Braose.

Wrth i ni gyflawni ein hymchwiliadau yn yr ardal, adeiladwyd trac cerrig o ben Clos De Braose i ardal y gwaith. Cymerodd y gwaith i adeiladu’r trac mynediad rhyw dair wythnos, felly mewn ymdrech i darfu cyn lleied â phosibl ar drigolion lleol a’r amgylchedd lleol, gadawyd y trac yn ei le yn barod ar gyfer ein gwaith.

Bydd ein gwaith ar ben Clos De Braose yn dechrau yn Chwefror 2023. Byddwn ni’n ysgrifennu at drigolion yr ardal yn nes at yr amser i roi gwybod iddynt beth y gallant ei ddisgwyl.

Cronfa Gymunedol o £10,000

Er mwyn diolch i’r gymuned, byddwn ni’n lansio cronfa gymunedol o £10,000 yn Ionawr 2023. Bydd y grant ar gael i grwpiau neu sefydliadau cymunedol lleol fel ffordd o ddiolch iddynt am eu hamynedd wrth i ni gyflawni ein gwaith.

I ymgeisio, bydd angen i grwpiau glicio yma a chyflwyno ffurflen gais i’r Gronfa Gymunedol. Yng ngham cyntaf y cais, bydd gofyn i chi ddewis y categori sydd fwyaf addas i’ch cais. Dewiswch "Cymorth i brosiectau" a dyfynnu’r cyfeirnod "Llandaf".  

Tîm prosiect Dŵr Cymru yn yr ardal sy’n ariannu hyn ac mae hi’n wahanol i’r cyllid sydd ar gael trwy Gronfa Gymunedol y cwmni.