Ein gwaith ym Mharc Hailey
Fel arfer, mae ein rhwydwaith yn dibynnu ar ddisgyrchiant i gludo gwastraff i ffwrdd o gartrefi a busnesau i’n carthffosydd. Ond mewn ardaloedd tir isel - fel Parc Hailey - mae angen i ni bwmpio’r dŵr gwastraff i fyny i’r rhwydwaith. Dyna pam fod ein cynlluniau’n cynnwys adeiladu gorsaf bwmpio carthffosiaeth fach newydd ym Mharc Hailey a chyflawni gwelliannau i’n rhwydwaith gwastraff er mwyn sicrhau bod y dŵr gwastraff yn cael ei bwmpio’n ddiogel i Weithfeydd Trin Dŵr Gwastraff Caerdydd.
Ym mis Medi 2022, cawsom ganiatâd cynllunio i adeiladu gorsaf bwmpio ym Mharc Hailey. Mae’r caniatâd perthnasol yn dal i fod mewn grym yn dilyn canlyniad yr Adolygiad Barnwrol yn gynharach elen, a dechreuodd y gwaith cynnull ym mis Medi 2023.
Am yr orsaf bwmpio
Byddwn ni’n gosod yr orsaf bwmpio ger Ffordd Tŷ Mawr. Rydyn ni am eich sicrhau chi taw’r tri chiosg hyd at 2.5 metr o uchder ac ambell i bibell fechan yn agos at y ddaear fydd yr unig asedau a fydd i’w gweld ar ben y tir. Bydd y pympiau eu hunain o leiaf 20 metr o dan y ddaear gyda gorchudd concrit ar lefel y ddaear, felly ni fydd y trigolion yn gallu eu gweld nhw, ac ni ddylai unrhyw sŵn na drewdod godi o’r ardal.
Bydd ffens werdd tua 2.4 metr o uchder yn amgylchynu’r safle, a chaiff ei ddylunio i asio i’r dirwedd, fel y gwelir dros y ddalen. Rydyn ni wedi bod yn cydweithio’n agos ag ecolegwyr i gynllunio a dylunio rhaglen ailblannu gynhwysfawr â’r nod o hybu bioamrywiaeth yn yr amgylchedd lleol.
Traffig y gwaith
Bydd traffig gwaith yn mynd a dod i’r safle’n gyson. Bydd faint o draffig yn amrywio yn dibynnu ar y gweithgareddau adeiladu ar y pryd, ond fe wnawn ein gorau i darfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned lle bynnag y bo modd. Bydd yr holl draffig adeiladu yn teithio ar hyd Heol y Parc, Heol Felindre a Heol Tŷ Mawr.
Ein safle gwaith
Byddwn ni’n gosod ein safle gwaith yn yr ardal lle byddwn ni’n adeiladu’r orsaf bwmpio. Yn ogystal â storio’r holl beiriannau a deunyddiau ar gyfer y prosiect, bydd hyn yn cynnwys cyfleusterau lles ar gyfer ein contractwyr yn ystod y gwaith, ac felly byddant yn edrych yn fwy o lawer na maint yr orsaf bwmpio orffenedig.
Rydyn ni wedi bod yn cydweithio’n agos â Chyngor Caerdydd er mwyn cadw’r parc yn lle diogel i bobl ei fwynhau yn ystod ein gwaith. Ni fydd yr orsaf bwmpio orffenedig yn effeithio dim ar ddarpariaeth y ddau gae rygbi. Ond er diogelwch y cyhoedd, bydd yna gyfyngiadau ar ddefnyddio un o’r caeau yn ystod y gwaith adeiladu.
Sefydlwyd ein safle ym mis Medi 2023 ac ym mis Hydref 2023, dechreuodd gwaith ym Mharc Hailey i adeiladu’r piblinell y garthffos newydd rhwng De Braose Close (Danescourt) a Pharc Hailey. Yn anffodus, mae amgylchiadau na allem fod wedi eu rhagweld wedi achosi oedi gyda datblygiad y gwaith. Daeth dŵr i mewn i waelod y siafft ym Mharc Hailey gan achosi llifogydd sylweddol a difrod i’r peiriant twnelu (TBM).
Yn dilyn ymchwiliad manwl gyda’n contractwr twnelu, cadarnhawyd na ellir trwsio’r difrod i’r TBM yn ei leoliad presennol. Am hynny, bydd angen tynnu’r peiriant o’r twnnel a’r siafft a’i atgyweirio oddi ar y safle.
Ar hyn o bryd, rydyn ni’n disgwyl i’r gwaith ailgychwyn ym mis Ionawr 2026, a byddwn ni’n rhannu amserlen newydd pan fydd y gwaith wedi dechrau.