Ein gwaith yn Danescourt


Rydyn ni’n cyflawni’r gwaith yma i hwyluso twf yng Nghaerdydd, gan gydweithio’n agos â’r awdurdod lleol a’r datblygwr i sicrhau bod gan rwydwaith dŵr gwastraff Caerdydd ddigon o gapasiti i barhau i wasanaethu’r gymuned ehangach wrth i’r datblygiad symud yn ei flaen. Rydyn ni wedi canfod bod digon o gapasiti gan y rhwydwaith dŵr gwastraff yn Ystum Taf i drosglwyddo rhywfaint o’r llif i mewn i’r rhwydwaith yna i’w gludo ymlaen wedyn i Weithfeydd Trin Dŵr Gwastraff Caerdydd lle caiff ei drin.

Rydyn ni wedi edrych ar amryw o atebion i wneud hyn. Lle bo modd a lle bo digon o gapasiti, bydd rhai o’r eiddo newydd yn cysylltu â’n carthffosydd cyfredol. Lle nad yw hyn yn bosibl, yr unig ateb hyfyw yw trosglwyddo llif y dŵr gwastraff i un o’n prif garthffosydd cyfredol er mwyn cludo’r llif i Weithfeydd Trin Dŵr Gwastraff Caerdydd.

Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i ni groesi afon Taf a’r rheilffordd sy’n rhedeg rhwng Caerdydd a Radyr, ac rydyn ni’n cydweithio’n agos â Chyfoeth Naturiol Cymru a Thrafnidiaeth Cymru yn hyn o beth. Yr ardal y tu ôl i De Braose Close yw’r lleoliad mwyaf addas ac ymarferol i wneud hyn gan ddefnyddio’r technegau peirianneg sifil sy’n angenrheidiol. Dechreuodd y gwaith ym mis Medi 2023.

Ein hardal waith

Cyflawnir ein gwaith y tu ôl i Glos De Braose wrth ymyl afon Taf a’r rheilffordd. Bydd gennym safle gwaith dros dro yn ystod y cyfnod hwn, a dangosir hyn ar y map isod.

Dyma amlinelliad o’r gwaith y mae angen ei wneud a phryd, ond dylid nodi y gallai hyn newid yn dibynnu ar ffactorau fel y tywydd.

Mae’r cyfnod adfer yn cynnwys gweithgareddau fel dadgomisiynu ein safle gwaith a phlannu coed, prysgwydd a hadau blodau gwyllt, ond bydd pa mor hir y mae hyn yn ei gymryd yn dibynnu ar amodau’r tywydd ar y pryd am y bydd angen rhoi’r cyfle gorau i’r llystyfiant dyfu.

Traffig y gwaith

Bydd traffig gwaith yn mynd a dod i’r safle’n gyson. Bydd faint o draffig sy’n mynd a dod yn amrywio yn dibynnu ar y gweithgareddau adeiladu ar y pryd, ond fe wnawn ein gorau i darfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned lle bynnag y bo modd. Bydd yr holl draffig gwaith yn defnyddio Danescourt Way, Timothy Rees Close a De Braose Close.

Y Trac Mynediad

Rydyn ni wedi cyflawni ychydig o waith ymchwilio yn yr ardal hon eisoes i edrych ar amodau’r tir a chadarnhau a fyddai’n addas i ni gyflawni ein gwaith yma ai peidio. I wneud hyn yn ddiogel, rydyn ni wedi adeiladu trac cerrig o ben Clos De Braose i’r ardal waith. Cymerodd y trac dair wythnos i’w adeiladu, felly er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar y trigolion a’r amgylchedd lleol, rydyn ni wedi gadael y trac yma yn ei le yn barod ar gyfer ein gwaith.

Roeddem ni wedi bwriadu gwneud y trac mynediad yn un parhaol. Ond ar ôl ymgynghori â’r gymuned leol, rydyn ni wedi penderfynu dileu’r trac a byddwn ni’n adfer yr ardal i’w gyflwr gwreiddiol ar ôl i ni gwblhau ein gwaith. Fodd bynnag, os oes angen i’n tîm gweithredol gyflawni gwaith cynnal a chadw neu gyrchu ein hasedau os bydd digwyddiad, byddwn ni’n dilyn y gweithdrefnau angenrheidiol yn unol â Deddf y Diwydiant Dŵr 1991.