Cynhadledd TarddLe18


Cynhaliwyd TarddLe18 ar 22 mis Mawrth (diwrnod dŵr y byd); Cynhadledd Dŵr Cymru a edrychodd ar wyddorau dalgylchoedd a dyfodol rheoli tiroedd ar sail tystiolaeth ar gyfer ansawdd dŵr yng Nghymru.

Gwyddorau dalgylch a dyfodol rheoli tir ar sail tystiolaeth er lles ansawdd dŵr yng Nghymru

Rheoli dalgylchoedd yn effeithiol yw 'amddiffynfa gyntaf' Dŵr Cymru er mwyn sicrhau bod ansawdd ein dŵr crai o safon sy'n ddisgwyliedig, yn gyson ac yn hydrin. Mewn ymdrech i ddeall sut y mae'r tir o amgylch ein ffynonellau dŵr yfed yn effeithio ar ddŵr crai, a sut mae dŵr yn ymddwyn yn ein hafonydd, ein cronfeydd a'n dyfroedd daear, rydyn ni'n defnyddio'r technegau ymchwil diweddaraf ac yn treialu atebion a thechnolegau newydd er mwyn amddiffyn ein ffynonellau dŵr.

Eleni, edrychodd cynhadledd TarddLe18 sut mae gwyddorau dalgylchoedd, rheoli tir ar sail tystiolaeth a dysgu gan wledydd eraill yn gallu amddiffyn ansawdd dŵr yng Nghymru rhag y dyfodol.

Cyfle i ddysgu gan wledydd eraill

Roeddwn ni wrth ein bodd i ddweud yr oedd cynrychiolwyr o Swyddfa Cyflenwi Dŵr Efrog Newydd, sef Cyngor Amaeth Watershed, a Chorfforaeth Catskill Watershed yn bresennol i draddodi'r brif ddarlith ar 20 Mlynedd o Reoli Dalgylchoedd yng Ngwahanfa Ddŵr Catskill, Efrog Newydd.

Esboniodd eu cyflwyniad sut mae sefydliadau’n cydweithio i ddarparu dros filiwn galwyn o ddŵr yfed (y rhan fwyaf ohono heb ei hidlo) ar gyfer dros 9 miliwn o bobl yn Nhalaith Efrog Newydd a Dinas Efrog Newydd, yn ogystal â thrin 1.3 biliwn galwyn o ddŵr gwastraff trwy 14 o weithfeydd trin dŵr gwastraff bob dydd.

Rheoli dalgylchoedd ar sail tystiolaeth

Yn ystod y dydd, dangoson ni sut y mae ein dull o fynd ati i reoli dalgylchoedd ar sail tystiolaeth yn sbarduno gwelliannau o ran ansawdd dŵr crai, yn rhannu ein cynlluniau PR19 i ddatblygu’r Gwyddorau Dalgylch ymhellach, ac yn clustnodi'r gwerthoedd a'r buddiannau rydym yn eu rhannu, a chyfleoedd i gydweithio yn y dyfodol.

Cyflwyniadau

Mae cyflwyniadau ar gael yma: