A ydych chi'n Ymwybodol o Goredau?


Mae coredau i’w gweld ar lawer o afonydd ar draws ardal weithredu Dŵr Cymru, bydd rhai ohonynt yn perthyn i Dŵr Cymru, a bydd eraill efallai’n eiddo i'r awdurdod lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd neu gwmnïau preifat neu unigolion.

Nodweddion artiffisial tebyg i argaeau yw coredau, wedi'u hadeiladu mewn afonydd. Eu nod yw rheoli a/neu fonitro llif y dŵr yn yr afon. Yn y diwydiant dŵr, gellir eu defnyddio i helpu i sicrhau bod lefelau digonol o ddŵr ar gael i ganiatáu tynnu dŵr a/neu i helpu i ddiogelu ein hasedau (fel pibellau dŵr neu garthffosydd) lle mae angen iddynt groesi'r afon.

Gall coredau edrych yn ddiniwed neu gallant gael eu hystyried yn hwyl hyd yn oed, neu'n her i’w llywio gyda chanŵ, padlfwrdd neu fath arall o gwch. Fodd bynnag, gallant achosi perygl sylweddol, a all, o dan yr amgylchiadau cywir, achosi niwed sylweddol neu farwolaeth. Os ydych yn bwriadu nofio, padlo neu ymgymryd ag unrhyw weithgareddau yn agos at gored, gofalwch eich bod yn ymwybodol o'r risgiau posibl fel y gallwch wneud y penderfyniadau gorau o ran y gweithgaredd yr ydych chi’n ei drefnu.

Ystyriwch:

  • Ddysgu am goredau a'r peryglon y gallant eu hachosi. Mae gwefan gyfeirio dda ar gael isod.
  • A oes unrhyw arwyddion rhybudd? Cymerwch sylw o’r hyn y maen nhw'n ei ddweud a dilynwch eu cyfarwyddiadau.
  • Peidiwch â mynd yn rhy agos at y gored, o dan rai amodau gallant greu nodwedd sy’n cydio ynoch a all eich caethiwo chi ac unrhyw gyfarpar. Efallai na fyddwch yn gallu padlo/nofio i ffwrdd. Gall hyn fod yn debyg i fynd yn sownd mewn peiriant golchi.
  • Gall y strwythur greu cerrynt cryf gan guddio gwrthrychau a chreu ardaloedd o ddŵr dwfn. Efallai na fydd y rhain yn amlwg o wyneb yr afon. Efallai y bydd ardaloedd o ddŵr oer dwfn.
  • Peidiwch â cherdded ar wyneb y gored. Bydd wedi ei wneud o ddeunyddiau caled ac mae'n debygol o fod yn llithrig.
  • Byddwch yn ymwybodol o lefelau'r afon a sut mae'r rhain yn effeithio ar yr amodau ar y gored. Mae hyn yn arbennig o bwysig os yw'r gored mewn ardal lanw, gan y bydd lefelau’r afon ac uchder y llanw yn effeithio ar yr amodau ar y gored. Nid yw pob cored yn beryglus, ond mae rhai yn beryglus weithiau neu ar bob adeg.
  • Os oes gennych unrhyw amheuon, dewch allan a cherddwch o amgylch y gored gydag unrhyw gyfarpar.

Mae Dŵr Cymru wrthi’n adolygu eu coredau ar hyn o bryd, ac yn cynhyrchu gwybodaeth diogelwch y cyhoedd yn ôl y gofyn. Wrth i'r gwaith hwn gael ei gwblhau, bydd gwybodaeth yn cael ei chyhoeddi yma:

Generic Document Thumbnail

Haverfordwest Weir

PDF, 501.2kB

Health and safety public notice for Haverfordwest Town Weir.