Prydferthwch sy’n Lladd

Gall nofio heb awdurdod mewn cronfa ddŵr eich lladd

Gall nofio heb awdurdod eich lladd


Ar yr wyneb, mae cronfeydd dŵr yn brydferth. Ond mae peryglon cudd yn llechu dan yr wyneb, ac mae nofio heb awdurdod yn gallu’ch lladd.

Mae ystadegau gan Ddiogelwch y Dŵr Cymru'n amcangyfrif bod 45 o bobl yng Nghymru'n marw trwy foddi mewn dyfroedd arfordirol a mewndirol bob blwyddyn. Ond eto, mae nifer fawr o bobl yn dal i fentro'u bywydau, ac yn wir mae rhai wedi colli eu bywydau trwy fynd i mewn i'n cronfeydd heb awdurdod.

Peidiwch â mentro'ch bywyd na bywyd neb arall. Ni chaniateir nofio heb awdurdod byth.

Prydferthwch sy’n lladd

Ydych chi'n gwybod digon am y peryglon marwol sy'n llechu dan brydferthwch yr wyneb?

  • Mae strwythurau concrit neu fetel sy’n gudd o dan wyneb y dŵr yn gallu dechrau gweithio heb rybudd.
  • Mae hyd yn oed y nofwyr cryfaf yn gallu mynd i drafferthion mawr yn y cerrynt iasoer.
  • Oherwydd lleoliad anghysbell llawer o'n cronfeydd, mae'r tebygolrwydd o gael eich achub yn is hefyd, ac yn aml nid oes unrhyw wasanaeth ffôn symudol.

Wyddech chi fod… un metr sgwâr o ddŵr gyfwerth ag un dunnell o bwysedd? Mewn cronfa ddŵr, gall hyd yn oed y nofwyr cryfaf eu ffeindio'u hunain yn methu â symud na nofio.

Eich cadw chi'n ddiogel

Mae gofalwyr Dŵr Cymru'n patrolio ac yn plismona ein cronfeydd dŵr er diogelwch y cyhoedd, ac fe welwch chi ragor ohonom allan o gwmpas y lle dros fisoedd yr haf.

Os ffeindiwch chi'ch hun mewn trafferthion yn y dŵr, mae'n bosibl y bydd angen i'n gofalwyr a'r gwasanaethau brys geisio'ch achub; gan beryglu eu bywydau eu hunain.

Parchwch ein gofalwyr a dilynwch eu cynghorion diogelwch. Dy’n ni ddim yma i ddifetha'ch hwyl - ry'n ni yma i'ch cadw chi'n ddiogel.

Stori Reuben.

"Mae Reuben wedi mynd nawr am gyhyd ag yr oedd e'n fyw."

Dyma eiriau Maxine, mam Reuben Morgan a fu farw ar ôl dioddef sioc dŵr oer yng nghronfa ddŵr Pontsticill yn 2006 . Mae 2021 yn nodi pymtheg mlynedd ers marwolaeth drasig Reuben ac mae ei deulu'n dal i alaru heddiw. Mae Maxine wedi bod yn cydweithio'n agos â ni dros y pymtheg mlynedd diwethaf, gan ein helpu ni i godi ymwybyddiaeth am y peryglon a cheisio atal yr un peth rhag digwydd eto.

Roedd Reuben yn gwersylla gyda'i ffrindiau pan benderfynodd pump ohonynt ddianc rhag y gwres trwy nofio ar draws y gronfa. Er i’w ffrindiau gyrraedd y lan arall, diflannodd Reuben o dan y dŵr dair gwaith, a ddaeth e byth i'r wyneb eto. Bu'r plymwyr yn chwilio am dri diwrnod cyn ffeindio'i gorff.

Mae effaith straeon trasig fel un Reuben yn ofnadwy. Mae ei deulu, ei ffrindiau a'r gwasanaethau brys oll yn byw gyda'r goblygiadau.

Mae colli un bywyd yn un yn ormod.

Ffeindiwch le diogel i nofio.

Ry’n ni'n gwybod bod mwynhau'r dŵr yn ddiogel yn gallu bod yn fanteisiol dros ben i iechyd meddwl a chorfforol pobl. Rydyn ni'n gweithio'n galed i ddarparu ffyrdd i bobl ailgysylltu â'r dŵr yn ddiogel. Mae nifer fechan o'n hatyniadau ymwelwyr yn dechrau cynnig sesiynau nofio dŵr agored achrededig, diogel a dan oruchwyliaeth mewn partneriaeth â Nofio Cymru.

Mae llwyth o waith wedi mynd i sicrhau bod y sesiynau hyn yn cael eu goruchwylio a'u bod yn ddiogel, ac rydyn ni wedi codi arwyddion clir ar ein safleoedd i atgoffa'r ymwelwyr bod gwaharddiad llwyr ar nofio heb awdurdod. Mae hi'n hanfodol fod pobl yn deall bod mynd i'r dŵr heb awdurdod yn beryglus iawn a'i fod yn gallu lladd.