Y Dref Werdd yn diogelu £250 o'r Gronfa Gymunedol


8 Mawrth 2022

Mae'r prosiect amgylcheddol cymunedol, Y Dref Werdd, wedi diogelu gwerth £250 o gyllid gan Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru. Mae'r grŵp ym Mro Ffestiniog yn gweithio'n galed dros yr amgylchedd a'r gymuned yn lleol.

Ffurfiwyd y grŵp yn ddiweddar a phenderfynodd wella llesiant pobl a’r gymuned leol trwy fynd allan i'r awyr agored i wneud gwahaniaeth. Trwy hynny, ffurfiodd y grŵp y prosiect presgripsiwn gwyrdd, Dod yn ôl at dy Goed. Defnyddir y rhodd yma i brynu offer i gynnal gweithgareddau awyr agored fel cyfeiriannu, naddu, creu cerddoriaeth, chwilota, coginio yn yr awyr agored a chelfyddyd naturiol. Y nod yn hyn o beth yw cymell y gymuned leol i gwrdd yn yr awyr agored a rhannu straeon a sgiliau dros baned wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau.

Dywedodd Non Roberts, Cydlynydd Y Dref Werdd: "Wedi wynebu heriau'r cyfnodau clo a’r cyfyngiadau yn 2020/21, roedd gallu sefydlu a rhedeg ein cynllun presgripsiwn gwyrdd, 'Dod yn ôl at dy Goed' yn brofiad braf iawn.

"Roedd cael pobl i dreulio amser allan ym myd natur a chreu cysylltiadau unwaith eto yn beth anhygoel.

"Diolch i Ddŵr Cymru am eu rhodd hael a wnaeth ein galluogi i gadw pawb yn gynnes gyda phaneidiau a chawl dros y tân, a’n darparu â deunydd crefftau er mwyn cael bod yn greadigol yn ein sesiynau. Diolch yn fawr!"

Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Cysylltiadau Cymunedol Dŵr Cymru: "Mae Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru'n hapus i gynorthwyo cymuned leol Bro Ffestiniog. Dyw hi erioed wedi bod yn bwysicach dod at ein gilydd pan fo hynny'n ddiogel a chael mwynhau'r awyr agored. Fel sefydliad nid-er-elw, cwsmeriaid sydd wrth galon popeth a wnawn, ac mae'r cyllid yma'n rhoi cyfle i ni roi rhywbeth nôl i'r cymunedau rydym yn buddsoddi ynddynt."

Mae Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru'n gyfle i gymunedau hybu ymdrechion i godi arian at achosion da yn eu hardaloedd. Os ydych chi'n byw mewn ardal lle mae gwaith yn cael ei wneud – ac yn codi arian ar gyfer prosiect er budd y gymuned – gallech gael gwerth £1,000 o gyllid gan Ddŵr Cymru. Am fwy o fanylion, cliciwch yma.