Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru


Fel cwmni dielw, mae ein cwsmeriaid yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud. Dyna pam y gwnaethom lansio Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru yn 2017. Ers lansio’r gronfa, rydym yn falch o fod wedi rhoi dros £500,000 i gefnogi cannoedd o fentrau cymunedol lleol.

Rydym yn gwybod y gall ein gwaith weithiau darfu ar y cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt ac rydym yn dymuno rhoi’r cyfle i’n cwsmeriaid a grwpiau lleol wneud gwahaniaeth yn y cymunedau y maent yn byw ynddynt, trwy gynnig cyllid tuag at brosiect cymunedol o’u dewis. Gall grwpiau cymunedol wneud cais am grant o hyd at £5,000 tuag at eu prosiect.

Sut i wneud cais?

Dyma ddyddiadau ar gyfer y panel gan gynnwys dyddiad cyflwyno cais a dyddiad y dylech ddisgwyl clywed y canlyniad.

  • 1 Medi 2024 - 31 Hydref 2024
  • 1 Ionawr 2025 - 28 Chwefror 2025
  • 1 Mai 2025 - 30 Mehefin 2025
  • 1 Medi 2025 - 31 Hydref 2025

Bydd y panel cymunedol yn cyfarfod i benderfynu ar brosiectau llwyddiannus o fewn pythefnos ar ôl y dyddiad cau a bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am y canlyniad erbyn diwedd y mis ar ôl i’r holl ddogfennau perthnasol gael eu derbyn a’u trefnu.

Mae enghreifftiau o brosiectau a allai dderbyn cyllid yn cynnwys:

  • Gwelliannau i’r amgylchedd neu fentrau cymunedol lleol sy’n hybu amcanion iechyd, llesiant ac amgylcheddol.
  • Gweithgareddau a gyflawnir gan grwpiau cymunedol cofrestredig – ag amcanion iechyd, llesiant, cymorth costau byw ac amgylcheddol yn benodol.
  • Gwella a chefnogi gweithgarwch addysg lleol, er enghraifft buddion effeithlonrwydd dŵr, amgylcheddol ac arloesi.

Rhoddir blaenoriaeth i’r prosiectau hynny lle mae Dŵr Cymru yn gweithio, neu wedi bod yn gweithio.

Enghreifftiau o elusennau sy’n gymwys i wneud cais:

  • Ymddiriedolaethau Elusennol - Elusen Gofrestredig
  • Cymdeithasau tai, clybiau chwaraeon, mentrau cydweithredol
  • Cymdeithasau Cyfeillgar – clybiau gweithwyr, cymdeithasau llesiannol
  • Cymdeithas Anghorfforedig - Grwpiau hunangymorth, sefydliadau bach
  • Elusennau a Eithrir – y Sgowtiaid/y Geidiaid/yr Afancod/y Brownis
  • Darparwyr gwasanaeth Sector Gwirfoddol - Canolfannau Gwirfoddolwyr
  • Ysgolion

Sylwer – Nid yw hon yn rhestr drwyadl

Yr hyn na allwn ei ariannu:

  • Ariannu staff – oni bai bod y cyllid ar gyfer hyfforddi staff presennol i wella ansawdd yr hyn y gall y grŵp ei gyflawni.
  • Cyllid amlflwyddyn
  • Elusennau anghofrestredig
  • Arianwyr neu ddarparwyr grantiau eraill
  • Cyllid diffyg
  • Gweithgareddau pleidiau gwleidyddol
  • Grwpiau penodol grefyddol
  • Digwyddiadau, cynadleddau nawdd

Sylwer – Nid yw hon yn rhestr drwyadl

Sut mae’n gweithio

  • Bydd partïon â diddordeb yn cwblhau ffurflen gais ar-lein sydd ar gael ar wefan Dŵr Cymru. Bydd copi o’r telerau ac amodau ar gyfer y cyllid hwn ar gael ar y wefan ac mae’n rhaid i ymgeiswyr ddarllen y rheini cyn ymgeisio gan y bydd dyfarnu cyllid yn cael ei lywodraethu gan y telerau ac amodau hynny.
  • Bydd y panel cymunedol yn ystyried y cais ac yn gwneud penderfyniad ar ba un a yw’r cais yn llwyddiannus ai peidio.
  • Os yw’r cais yn llwyddiannus, bydd cyswllt y prosiect yn cael ei hysbysu ar ôl cyfarfod y panel cymunedol a fydd yn cael ei gynnal 3 gwaith yn ystod y flwyddyn.
  • Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau a llofnodi llythyr o Gytundeb a bod yn gyfrifol am ddarparu’r prosiect.
  • Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gael gafael ar yr holl ganiatâd a chydsyniadau ac yn gyfrifol yn gyfreithiol am yr holl risgiau sy’n gysylltiedig â’r prosiect.
  • Mae dyfarniadau cyllid yn amodol ar gymryd rhan mewn deunyddiau cyhoeddusrwydd Dŵr Cymru.

Sylwer: Mae’r penderfyniad i ddyfarnu cyllid yn gyfan gwbl yn ôl disgresiwn y panel cymunedol.

Ni fydd Dŵr Cymru yn chwarae unrhyw ran mewn trefnu digwyddiad na’n rheoli unrhyw risgiau dan sylw. Bydd angen i grwpiau cymunedol gynnal eu hasesiad eu hunain o risg o ran unrhyw weithgaredd / digwyddiad yr ymgymerir ag ef.

Ar ôl i’r gronfa flynyddol a ddyrennir gael ei gwario, bydd y gronfa yn cau tan y flwyddyn ariannol ddilynol.

1. Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru

Diolch am eich diddordeb yn y gronfa. Cyn i chi wneud cais, a ydych chi’n chwilio am nawdd gennym ni?

2. Dewiswch un o’r opsiynau isod

Diolch am eich diddordeb yn ein Cronfa Gymunedol. Gan nad ydym yn cefnogi nawdd, ni allwn fwrw ymlaen â’ch cais. 

Mae enghreifftiau o brosiectau a allai dderbyn cyllid yn cynnwys:

  • Gwelliannau yn yr amgylchedd neu fentrau cymunedol lleol i hybu iechyd, llesiant ac amcanion amgylcheddol.
  • Gweithgareddau gan grwpiau cymunedol cofrestredig – yn benodol ym meysydd iechyd, llesiant, cymorth gyda chostau byw ac amgylcheddol.  
  • Gwella a chynorthwyo gweithgarwch addysg lleol, er enghraifft buddion o ran effeithlonrwydd dŵr, yr amgylchedd ac arloesi.

2. Dewiswch un o’r opsiynau isod

A ydych chi’n bwriadu cynnwys unrhyw un o’r isod?

  • Ariannu staff – oni bai bod y cyllid ar gyfer hyfforddi staff presennol i wella ansawdd yr hyn y gall y grŵp ei gyflawni.
  • Cyllid amlflwyddyn
  • Elusennau anghofrestredig
  • Arianwyr neu ddarparwyr grantiau eraill
  • Cyllid diffyg
  • Gweithgareddau pleidiau gwleidyddol
  • Grwpiau penodol grefyddol
  • Digwyddiadau, cynadleddau nawdd
  • Cyflenwadau / cysylltiadau dŵr

3. Dewiswch un o’r opsiynau isod

Diolch am eich diddordeb yn ein Cronfa Gymunedol. Yn anffodus, ni allwn fwrw ymlaen a’ch cais. 

Mae enghreifftiau o brosiectau a allai dderbyn cyllid yn cynnwys:

  • Gwelliannau yn yr amgylchedd neu fentrau cymunedol lleol i hybu iechyd, llesiant ac amcanion amgylcheddol.
  • Gweithgareddau gan grwpiau cymunedol cofrestredig – yn benodol ym meysydd iechyd, llesiant, cymorth gyda chostau byw ac amgylcheddol.
  • Gwella a chynorthwyo gweithgarwch addysg lleol, er enghraifft buddion o ran effeithlonrwydd dŵr, yr amgylchedd ac arloesi.

3. Dewiswch un o’r opsiynau isod

Cwestinau Cyffredin

Prosiectau rydym wedi eu cefnogi yn ein cymunedau hyd yma

Dyma rai enghreifftiau o brojectau sydd wedi bod yn llwyddiannus drwy ein cronfa gymunedol a'n partneriaethau gwirfoddoli.

Canfod mwy