Dŵr Cymru i fuddsoddi £3.4 miliwn i hybu rhwydwaith dŵr Aberystwyth gan ddefnyddio technoleg arloesol
24 Mawrth 2022
Mae buddsoddiad Dŵr Cymru Welsh Water o £3.4 miliwn i uwchraddio'r rhwydwaith dŵr yn Aberystwyth yn datblygu'n dda ac mae’r gwaith ar y trywydd iawn i gael ei gwblhau erbyn Gorffennaf 2022.
Bydd buddsoddiad y cwmni nid-er-elw’n gweld gwelliannau i'r rhwydwaith dŵr a fydd yn ei gynorthwyo i barhau i ddarparu cyflenwadau diogel a dibynadwy o ddŵr yfed glân ar gyfer cartrefi, ysgolion, busnesau a chwsmeriaid yn yr ardal am ddegawdau i ddod.
Mae'r gwaith eisoes wedi gweld buddsoddiad o £1.6 miliwn yng Ngweithfeydd Trin Dŵr Cefn Llan, a bwriedir cyflawni gwaith uwchraddio pellach ar gost o £1.8 miliwn yn yr ardal.
Gan weithio gyda'n contractwyr partner, Morrisons Utilities, bydd Dŵr Cymru'n disodli 353 metr o brif bibellau dŵr ac yn glanhau 26km arall. Mae hynny hyd bron i 250 o gaeau pêl droed!
Yn ogystal, bydd y cwmni dŵr yn defnyddio technoleg arloesol ar rannau o'r prosiect er mwyn disodli a glanhau rhannau o'r brif bibell ddŵr heb orfod cloddio yn y ffordd. Bydd y dechneg hon yn helpu i darfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned ac yn caniatáu i'r cwmni gyflawni'r gwaith yn gynt o lawer o gymharu â dulliau mwy traddodiadol.
Dywedodd Rheolwr Prosiect Dŵr Cymru, Jonathan Davies: "Mae ein gwaith yn Aberystwyth wedi bod yn datblygu'n dda ers mis Chwefror.
"Rydyn ni wedi bod yn gweithio'n galed i darfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned ac i sicrhau'r canlyniadau gorau ar gyfer ein cwsmeriaid.
"Rydyn ni'n gwerthfawrogi bod gwaith o'r math yma'n gallu achosi anghyfleustra, ond fe wnawn ni bopeth y gallwn ni i darfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned, a hoffem ddiolch i bobl am eu hamynedd wrth i ni gyflawni'r gwaith hanfodol yma."
Bu'r prosiect yn rhan o fuddsoddiad ar gost o filiynau o bunnoedd gan y cwmni nid-er-elw er mwyn gwella gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid a helpu i amddiffyn yr amgylchedd. Rhwng 2020 a 2025, bydd y cwmni'n buddsoddi £1.8 biliwn pellach ar draws y wlad.
Mae Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru'n gyfle i hybu ymdrechion cymunedol i godi arian at achosion da. Os ydych chi'n byw mewn ardal lle mae gwaith yn cael ei wneud – ac yn codi arian ar gyfer prosiect er budd y gymuned – gallech gael gwerth £1,000 o gyllid gan Ddŵr Cymru. I gael rhagor o fanylion ewch i www.dwrcymru.com/Community-Fund
I gael rhagor o fanylion ewch i www.dwrcymru.com.