Ar ôl deunaw mis o waith i uwchraddio'r rhwydwaith dŵr gwastraff yn Llanandras, mae Dŵr Cymru'n cynnig cyfle i grwpiau cymunedol lleol dderbyn £250 i roi rhywbeth nôl i'r cymunedau lle bu'r gwaith arloesol yma'n digwydd.
Ers Rhagfyr 2020, mae'r cwmni nid-er-elw wedi bod yn buddsoddi dros £8 miliwn mewn gwaith i uwchraddio'r rhwydwaith dŵr gwastraff yn Llanandras. Mae'r gwaith sy'n cael ei gyflawni gan y cwmni cyfleustod nid-er-elw wedi helpu i wella ansawdd y dŵr sy'n cael ei ryddhau i'r amgylchedd. Bydd hyn yn ei dro yn gwella ansawdd y dŵr yn nant Norton ac afon Llugwy, ac yn sicrhau bod cwsmeriaid yn parhau i dderbyn gwasanaethau dŵr gwastraff o'r safon uchaf am ddegawdau i ddod.
Nawr mae'r cwmni dŵr nid-er-elw'n annog sefydliadau nid-er-elw yn ardal Llanandras lle mae'r gwaith wedi bod yn digwydd, gan gynnwys grwpiau cymunedol lleol, elusennau ac ysgolion, i wneud cais am gyfle i dderbyn rhodd o £250 fel ffordd o ddiolch i’r gymuned am eu hamynedd.
Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Cysylltiadau Cymunedol Dŵr Cymru: "Fel ffordd o ddiolch i'r gymuned am eu hamynedd wrth i ni uwchraddio'r rhwydwaith dŵr gwastraff, rydyn ni'n cynnig cyfle i bedwar grŵp cymunedol dderbyn rhodd o £250. Cwmni cymdeithasol gyfrifol ydyn ni, ac rydyn ni'n awyddus bob amser i gynorthwyo cymunedau lleol, a’n ffordd ni o roi rhywbeth nôl er bydd yr ardal leol yn Llanandras yw darparu cyllid i gynorthwyo'r gwaith rhagorol y mae'r sefydliadau hyn yn ei wneud."
I fod yn gymwys i gael cyllid, rhaid i'r grwpiau fod yn ardaloedd Norton a Llanandras, a bydd ein prosiect buddsoddi wedi effeithio arnynt. Gallant ymgeisio am gyllid i'w cynorthwyo i ddatblygu, lansio neu gyflawni prosiect cymunedol y byddan nhw’n ei gyflawni ac yn ei reoli.
I gael rhagor o fanylion am y cyfle hwn a sut i gyflwyno cais, ewch i www.dwrcymru.com/Norton-Presteigne.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm on 5pm dydd Gwener, 24 Mehefin 2022.