Dŵr Cymru'n cyfrannu dros £11,000 at brosiectau cymunedol yng Nghwm Rhymni
18 Chwefror 2022
Mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi cyfrannu dros £11,000 at fanciau bwyd a grwpiau cymunedol ar draws Cwm Rhymni ers iddo ddechrau ei brosiect buddsoddi gwerth miliynau yn yr ardal.
Daw'r cyllid yma o gyfraniadau gan y dim prosiect a Chronfa Gymunedol y cwmni nid-er-elw, sy'n helpu i hybu ymdrechion cymunedau i godi arian at achosion da yn eu hardal. Mae'r cyllid wedi helpu amrywiaeth eang o weithgareddau cymunedol fel grwpiau chwaraeon, prosiectau amgylcheddol, prosiectau datblygu a grwpiau cerddorol.
Un o'r grwpiau llwyddiannus yw Grŵp Pêl-droed Cerdded Cwm Rhymni Uchaf, sydd eisoes wedi gweld gwelliannau yn iechyd corfforol a meddyliol y rhai sy'n cymryd rhan.
Mae Ryan Jones, sy'n aelod o brosiect Game On CRT, yn croesawu'r grant gan ddweud bod "Y grant wir wedi helpu'r grŵp i fynd â phêl-droed cerdded i lefel hollol newydd yng Nghwm Rhymni."
Dywedodd Phill Williams, Ysgrifennydd Grŵp Pêl-droed Cerdded Cwm Rhymni Uchaf: "Sefydlwyd Grŵp Pêl-droed Cerdded Cwm Rhymni Uchaf i wella iechyd meddwl a chorfforol pobl Cwm Rhymni Uchaf. Mae'r grŵp yn agored i unrhyw un, dim ots am eu hoedran, rhyw, cyfeiriadaeth rywiol neu anabledd, ac mae'n ffordd wych o gynnwys pawb yn y gymuned. Rydyn ni'n hynod o ddiolchgar am y cyllid a gawsom gan Ddŵr Cymru Welsh Water. Diolch i'r rhodd yma, bu modd i ni brynu cit newydd ar gyfer y tîm a gallwn barhau i ddatblygu a chyfoethogi'r prosiect yma ar gyfer cymuned Cwm Rhymni."
Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Cysylltu Cymunedau Dŵr Cymru: "Mae Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru'n falch o gefnogi amrywiaeth eang o brosiectau cymunedol ar draws Cwm Rhymni. Fel sefydliad nid-er-elw, cwsmeriaid sydd wrth galon popeth a wnawn, ac mae'r cyllid yma'n caniatáu i ni roi rhywbeth nôl i'r cymunedau rydym yn buddsoddi ynddynt."
Mae Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru rhoi cyfle i gymunedau hybu ymdrechion i godi arian at achosion da yn eu hardal. Os ydych chi'n byw mewn ardal lle mae gwaith yn cael ei wneud – ac yn codi arian ar gyfer prosiectau er budd y gymuned – gallech chi gael gwerth £1,000 o gyllid gan Ddŵr Cymru. I gael rhagor o fanylion cliciwch yma.