Yn rhan o ymrwymiad Dŵr Cymru Welsh Water i roi rhywbeth nôl i'r gymuned yn yr oes ansicr yma, mae pump elusen wedi derbyn £1000 yr un o gronfa gymunedol y cwmni nid-er-elw.
Yn rhan o wythnos gymunedol y cwmni'n gynharach eleni, pan gymerodd cydweithwyr ran mewn gweithgareddau gwirfoddol ar draws ein hardal weithredu, gofynnwyd i gydweithwyr enwebu elusennau lleol i'w cefnogi yn eu milltir sgwâr. Un o'r elusennau llwyddiannus oes Cwtch Baby Bank, sef banc offer babanod cyntaf Cymru. Mae’r elusen yn paratoi ac yn dosbarthu pecynnau o offer hanfodol ar gyfer babanod. Maent yn ailddosbarthu eitemau ail law i deuluoedd sydd mewn angen, sy’n cael eu cyfeirio atynt trwy amryw o asiantaethau cymorth.
Mae'r gronfa wedi cynorthwyo'r elusen i brynu basgedi Moses, a gaiff eu llenwi ag amrywiaeth o eitemau hanfodol sy'n cael eu cyfrannu neu eu prynu, er mwyn helpu'r teuluoedd mwyaf bregus dros gyfnod y gaeaf.
Dywedodd Clare Bird, Rheolwr Canolfan Ddosbarthu Cwtch Baby Bank:
"Mae Hilary Johnston, sylfaenydd yr elusen, wedi gwneud gwaith bendigedig wrth sefydlu'r elusen a'i rhedeg dros y 5 mlynedd diwethaf, gan ddarparu hanfodion ar gyfer nifer fawr o deuluoedd bregus.
"Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth, ac mae'n gwneud cymaint o wahaniaeth i ni ar adeg pan fo codi arian wedi bod mor anodd."
Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Cysylltiadau Cymunedol Dŵr Cymru:
"Cwmni cymdeithasol-gyfrifol ydym ni - dyma beth mae cwsmeriaid a chydweithwyr yn ei ddisgwyl gennym. Rydyn ni bob amser yn chwilio am gyfleoedd i gynorthwyo cymunedau lleol a rhoi rhywbeth nôl iddynt, ac rydyn ni'n awyddus i gynnwys ein cydweithwyr yn y penderfyniadau yma. Rydyn ni wrth ein boddau i weld sut mae cymunedau ar draws ein hardal weithredu'n elwa ar ein cyllid.
"Rydyn ni eisoes yn chwarae rôl allweddol yn ein cymunedau trwy ddarparu'r gwasanaethau mwyaf hanfodol ar eu cyfer - dŵr glân, a thrin a chael gwared ar ddŵr gwastraff yn ddiogel, ac mae'n bleser gennym gefnogi grwpiau lleol fel hyn."
Mae Dŵr Cymru'n cynnig cyfle i'r cymunedau lleol y maent yn buddsoddi ynddynt gyflwyno ceisiadau i'w Cronfa Gymunedol hefyd. Dyma gyfle i hybu'ch ymdrechion i godi arian at achosion da yn eich ardal chi. Os ydych chi'n byw mewn ardal lle mae gwaith yn cael ei wneud – ac yn codi arian ar gyfer prosiectau er budd y gymuned – gallech chi gael gwerth £1,000 o gyllid gan Ddŵr Cymru. I gael rhagor o fanylion ewch i www.dwrcymru.com/Cronfa-Gymunedol.