Llyfrgell a Chanolfan Weithgareddau Dinas Powys yn cael arian gan Dŵr Cymru


25 Awst 2021

Cafodd Llyfrgell a Chanolfan Weithgareddau Dinas Powys rodd o £500 o Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru. Roedd yn rhan o fuddsoddiad y cwmni nid-er-elw o £50 miliwn er mwyn creu uned newydd i gynhyrchu ynni yng Ngwaith Trin Dŵr Gwastraff Rhostir Cog.

Gwirfoddolwyr fu’n rheoli ac yn rhedeg llyfrgell gymunedol Dinas Powys ers 2016 pan fu bygythiad i ddyfodol y llyfrgell oherwydd toriadau ariannol. Ers hynny, aeth y tîm o nerth i nerth ac erbyn hyn mae dros 60 o wirfoddolwyr yn helpu i gynnal gwasanaethau craidd y ganolfan. Gyda’r arian, roedd modd i’r llyfrgell brynu offer newydd ar gyfer pobl yr ardal, yn cynnwys byrddau, cadeiriau a bagiau ffa i’r plant.

Dywedodd Clare Richardson, Trysorydd Llyfrgell a Chanolfan Weithgareddau Dinas Powys: "Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Dŵr Cymru am yr arian. Rydym wedi’i ddefnyddio i brynu byrddau, cadeiriau a bagiau ffa newydd i’r plant. Bydd hyn yn help mawr i wneud y llyfrgell yn fwy deniadol a chroesawus i’n hymwelwyr ifanc.”

Mae Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru yn gyfle i gymunedau hybu ymdrechion i godi arian at achosion da yn eu hardal nhw. Os ydych chi’n byw mewn ardal lle mae’r cwmni’n gweithio – a’ch bod yn codi arian at brosiectau er budd y gymuned – gallech gael gwerth hyd at £1,000 gan Dŵr Cymru. Os hoffech ragor o wybodaeth, ewch i www.dwrcymru.com/Cronfa-Gymunedol.

Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Ymgysylltu Cymunedol gyda Dŵr Cymru: “Mae’n bleser gan Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru gefnogi Llyfrgell a Chanolfan Weithgareddau Dinas Powys. A ninnau’n gwmni nid-er-elw, ein cwsmeriaid sydd wrth galon ein holl waith ac mae’r Gronfa’n ein galluogi i roi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau rydym yn buddsoddi ynddyn nhw.”