Digwyddiad Arloesedd Dŵr Cymru Welsh Water
Bydd digwyddiad eleni yn rhaglen diwrnod llawn a fydd yn dod ag uwch gynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru; academia; busnesau bach a chanolig; Cyfoeth Naturiol Cymru, Ofwat, y Cyngor Defnyddwyr Dŵr; yr Arolygiaeth Dŵr Yfed; a chwmnïau dŵr eraill y DU.
Dydd Mercher 3 Ebrill 2019
Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru, Caerdydd, CF10 3ER
Thema: 'Arloesi i gyflawni ein cynlluniau buddsoddi ar gyfer 2020-2050 (AMP7) a thu hwnt'
Rydym hefyd wedi gwahodd ein partneriaid perthynol; cydweithwyr o sector dŵr y DU, cyrff anllywodraethol amgylcheddol a swyddogion cyswllt o awdurdodau dŵr Ewrop er mwyn i ni allu rhannu arferion gorau.
Nod y digwyddiad yw hwyluso rhwydweithio a dialog rhwng sefydliadau sy’n ymwneud â rheoli dŵr ac arddangos prosiectau technoleg, gwyddoniaeth ac ymchwil arfaethedig. Trwy greu fforwm cydweithredol, rydym yn credu y bydd hyn yn cynorthwyo Dŵr Cymru i gyflawni ei weledigaeth weithredol ar gyfer 2050 ac yn helpu eraill i gyflawni eu rhai hwythau.
Rhaglen y Dydd
From 08:30 | Registration and refreshments on arrival | ||
---|---|---|---|
Morning Session | |||
9:30 am |
Opening of the Dŵr Cymru Welsh Water (DCWW) Annual Innovation Conference Chair of the day: Tony Harrington, Director of Environment, Welcome from Dŵr Cymru Welsh Water Chris Jones, CEO |
||
9:45 am |
Keynote Address Lesley Griffiths AM, Minister for Environment, Energy and Rural Affairs, Welsh Government |
||
10:05 am |
Introduction Tony Harrington, Director of Environment, DCWW |
||
10:25 am |
Our Water Services innovation journey to 2050 Dave Taylor, Head of Water Assets, DCWW |
||
10:45 am |
Our Wastewater Services innovation journey to 2050 Steve Wilson, Managing Director Household Customer Services, DCWW |
||
11:05 am |
Innovation in customer service Samantha James, Managing Director Household Customer Services, DCWW |
||
11:25 am | Comfort break | ||
11:40 am |
Improve nothing; reinvent everything Terry A'Hearn, Scottish Environment Protection Agency (SEPA) |
||
12:00 noon |
Cardiff University's Innovation System: Supporting business and industry in Wales Prof Kim Graham, Pro Vice-Chancellor Research, Innovation and Enterprise, Cardiff University |
||
12:20 pm | Q & A Session | ||
12:45 - 1:45 pm | Lunch / Networking / Exhibition stands / IT Experience Zone | ||
Afternoon Session - Return to main auditorium - afternoon briefing | |||
1:45 pm | Schools Innovation Competition presentation | ||
2:00 - 2:45 pm |
How to Innovate Seminar: "Companies don't innovate, people do!" Tina Catling, Morgan Sindall |
||
Session 1 2:50 - 3:35 pm Session 2 3:40 - 4:25 pm |
Workshop Sessions - Choose TWO of the following Workshop 1 - Bridging the skills gap Workshop 2 - 'Know your customer' Workshop 3 - Innovation: a problem-saving tool |
OR Visit Exhibition Stands OR the Innovation Technology Theatre |
|
4:30 pm | Summary & Close - Tony Harrington |
Gweithdy 1: Pontio'r Bwlch Sgiliau - Stiwdio Seligman
Pontio'r Bwlch Sgiliau
I ganiatáu i ni fod yn gwmni dŵr gwirioneddol gydnerth a chynaliadwy er budd cenedlaethau'r dyfodol, yn ogystal â bod yn gyflogwr o ddewis, mae angen i ni hysbysu pobl ifanc a rhoi’r sgiliau gofynnol iddyn nhw. Bydd y gweithdy hwn yn dangos pwysigrwydd arloesi a phynciau STEM mewn ysgolion a sut y gellir defnyddio'r dysgu hwn yn y gweithlu.
Wedi'i hwyluso gan: Claire Roberts, Annette Mason a Richard Clement
Sesiwn 1: 2:50 - 3:35pm
Sesiwn 2: 3:40 - 4:25pm
Ystafell - Stiwdio Seligman
Gweithdy 2: Adnabod eich Cwsmer - Stiwdio Simon Gibson
Adnabod eich Cwsmer
Mae disgwyliadau cwsmeriaid yn esblygu'n barhaus, ac mae personoli yn allweddol i'r ddarpariaeth o wasanaeth ardderchog. Bydd y gweithdy hwn yn archwilio sut y mae angen i ni addasu i fodloni'r disgwyliadau hyn a datblygu ffydd gyda'n cwsmeriaid amrywiol.
Wedi'i hwyluso gan: Kit Wilson a Peter O'Hanlon
Sesiwn 1: 2:50 - 3:35pm
Sesiwn 2: 3:40 - 4:25pm
Ystafell - Stiwdio Simon Gibson
Gweithdy 3: Arloesi - dull o ddatrys problemau
Arloesi: dull o ddatrys problemau
Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn llywio'r rhai sy'n cymryd rhan trwy ddull dethol i gynhyrchu syniadau y gellir eu defnyddio i ddatblygu atebion arloesol i broblemau trefniadol. Bydd y gweithdy ‘dysgu trwy wneud’ hwn hefyd yn tywys y rhai sy'n cymryd rhan drwy'r ddamcaniaeth sylfaenol yn y 'dull ORID’ (Gwrthrychol, Myfyriol, Deongliadol, Penderfyniadol) a gaiff ei ddefnyddio.
Wedi'i hwyluso gan: Paul Gaskin, Sharon Ellwood a Gary Walpole
Sesiwn 1: 2:50 - 3:35pm
Sesiwn 2: 3:40 - 4:25pm
Gweithdy 3a ystafell - Stiwdio Rowe-Beddoe
Gweithdy 3b ystafell - Stiwdio Shirley Bassey
Arddangosfa: Y Theatr Technoleg Arloesi
Y Theatr Technoleg Arloesi
Yn Dŵr Cymru, rydym ni bob amser yn ceisio dod o hyd i ffyrdd newydd a gwahanol o weithio'n fwy clyfar, gan ddefnyddio a gweithio mewn cytgord â thechnoleg newydd. Bydd y Theatr Technoleg Arloesi yn darparu sawl poethfan rhyngweithiol lle mae ein partneriaid yn defnyddio eu technoleg i roi blas i Dŵr Cymru o sut y gall gwahanol ffyrdd o weithio ein helpu i wasanaethu ein cwsmeriaid yn well trwy fynd i'r afael â phroblemau trefniadol.
Arddangosfa: Rhodfa Mapiau Taith
Rhodfa Mapiau Taith
Er mwyn ymateb i'n heriau a manteisio ar gyfleoedd sy'n gysylltiedig â thueddiadau yn y dyfodol, rydym wedi datblygu 18 o ymatebion strategol yn rhan o'n strategaeth “Dŵr Cymru 2050”. Rydym wedi troi'r ymatebion strategol hyn yn Fapiau Taith. Mae pob map yn gorwedd yn un o'r meysydd canlynol o'n busnes - Dŵr Yfed; Cwsmer a Chymunedau; a'r Amgylchedd. Bydd cynrychiolwyr yn gallu gweld sut yr ydym yn bwriadu defnyddio arloesedd i fynd i'r afael â'n heriau yn y dyfodol er budd ein cwsmeriaid.
Arddangosfa: Arddangosfeydd arloesol
Arddangosfeydd arloesol
Ardal ryngweithiol yn arddangos technolegau arloesol a fydd yn allweddol yn ymatebion strategol Dŵr Cymru i heriau 2020-2025 (“AMP7”) a thu hwnt.
Wedi'i hwyluso gan: Isle Utilities