Dathlu 20 mlynedd o Glas Cymru
Yn 2021, rydyn ni’n dathlu ugain mlynedd ers i Glas Cymru gaffael Dŵr Cymru, fel taw ni oedd y cwmni cyfleustod nid-er-elw cyntaf yn Nghymru a Lloegr – a’r unig un hyd heddiw hefyd.
Mae ein model nid-er-elw unigryw’n golygu y gallwn wneud pethau mewn ffordd sydd ychydig bach yn wahanol, a dyna'r union beth rydyn ni wedi gweithio'n galed i'w wneud dros y ddau ddegawd diwethaf, gan roi anghenion ein cwsmeriaid yn gyntaf bob tro. Yma gallwch gael rhagor o wybodaeth am beth sydd wedi cael ei wneud hyd yn hyn, a'n cynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol.
Fel ein cwsmeriaid gwerthfawr, rydyn ni am i chi fod yn rhan o'r dathliadau yma hefyd. Ewch i waelod y dudalen i weld sut y gallwch chi chwarae rhan yn ein cystadleuaeth '20 am 20'!
Rydyn ni wedi bod yn gwneud pethau mewn ffordd wahanol ers 2001 pan ffurfiwyd Glas Cymru fel cwmni yn unswydd i fod yn berchennog ar Ddŵr Cymru, ei reoli a'i ariannu. Mae hyn yn ein gwneud ni'n unigryw yn niwydiant cyfleustodau'r DU fel cwmni preifat heb unrhyw gyfranddeiliaid, ac mae'n golygu bod unrhyw elw a wnawn fel busnes yn cael ei ailfuddsoddi. Rydyn ni'n ailfuddsoddi trwy rhaglen helaeth o weithgareddau sydd wedi ei dylunio er budd ein tair miliwn o gwsmeriaid a'r amgylchedd gwerthfawr sydd yn ein gofal.
Yn ystod y ddau ddegawd ers i ni lansio ein model gweithredu nid-er-elw unigryw, rydyn ni wedi...
- Buddsoddi £6bn er mwyn gwella ansawdd dŵr yfed, amddiffyn yr amgylchedd ac mewn gwasanaethau cwsmeriaid
- Dychwelyd £440m i gwsmeriaid ar ffurf 'buddrannau cwsmeriaid'
- Darparu gwerth £10 miliwn o gymorth ar gyfer grwpiau o gwsmeriaid sydd dan anfantais
- Cadw biliau cwsmeriaid yn is na chyfradd chwyddiant y Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) bob blwyddyn ers 2010; record na welwyd erioed o'r blaen yn y diwydiant.
- Buddsoddi dros £1 biliwn mewn systemau dŵr gwastraff i helpu Cymru i gyflawni traean o holl draethau 'Banner Las' y DU, er taw cwta 15% o'r arfordir sydd yng Nghymru
Mae gennym un llygad ar y dyfodol bob amser hefyd, ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i barhau i wneud pethau mewn ffordd wahanol. Er enghraifft:
- Mae ein gweledigaeth hirdymor, 'Dŵr Cymru 2050' yn clustnodi 18 o ymatebion strategol i'n galluogi i fod yn wasanaeth dŵr o safon wirioneddol ryngwladol sy'n wydn ac yn gynaliadwy er budd cenedlaethau'r dyfodol
- Rydyn ni ar y trywydd iawn i fod yn hollol garbon niwtral erbyn 2040, a 100% yn hunangynhaliol o ran ynni erbyn 2050
- Ynghyd â gostyngiad o 5% yn eu biliau dros y pum mlynedd nesaf, gall cwsmeriaid fanteisio ar wasanaeth mwy personol, a bydd rhagor o gymorth ar gael i'r rhai sydd mewn amgylchiadau bregus ac sydd wedi cofrestru i gael gwasanaethau blaenoriaeth erbyn 2025
20 am 20
Er taw ni sy'n dathlu pen-blwydd, am ein bod ni'n hoffi gwneud pethau mewn ffordd sydd ychydig bach yn wahanol, rydyn ni am i chi gael yr anrhegion! Rydyn ni'n dathlu dau ddegawd o wneud pethau mewn ffordd wahanol trwy ein model nid-er-elw trwy gynnal 'Cystadleuaeth 20 am 20' bob dydd rhwng 10 ac 14 Mai. Rydyn ni'n chwilio am 100 o enillwyr mewn pum categori a byddwn ni'n...
- Cyfrannu £500 at 20 o grwpiau cymunedol
- Rhoi cynhyrchion arbed dŵr i 20 o gartrefi a busnesau
- Anfon pecyn gwyddor dŵr at 20 o ysgolion
- Dosbarthu 20 o docynnau rhodd i'w gwario yn ein canolfannau ymwelwyr
- Dosbarthu 20 o boteli dŵr Dŵr Cymru
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol a chadwch lygad yn agored yn ystod wythnos ein pen-blwydd am fanylion pellach!