Prosiect Cymunedol Brynbuga
Rydyn ni’n gwybod bod cwsmeriaid am i ni wneud rhagor, yn arbennig er mwyn helpu i amddiffyn ansawdd ein hafonydd fel afon Wysg. Dyna pam ein bod ni wedi bod yn buddsoddi yn ein rhwydwaith dŵr gwastraff ym Mrynbuga er mwyn gwella sut mae ein hasedau – fel Gorlifoedd Storm – yn gweithredu.
Ar y dudalen hon gallwch ddysgu rhagor am ein buddsoddiad o £10 miliwn dros y tair blynedd diwethaf, a rhannu adborth ar ein gwaith a’n gwaith cyfathrebu.
Beth ydyn ni wedi bod yn ei wneud?
Dechreuodd ein gwaith ym mis Mehefin 2022, a chafodd ei gyflawni gam wrth gam, gan wneud gwelliannau parhaus bob blwyddyn.
Roedd rhan gyntaf ein gwaith yn cynnwys cyflawni gwaith uwchraddio ar yr Orsaf Bwmpio Carthion ger y Clwb Athletau. Roedd y gwaith yma’n cynnwys gosod siambr sgrinio sy’n tynnu’r holl wastraff trwm - fel clytiau, weips a phethau mawr eraill – o’r dŵr gwastraff sy’n dod i mewn i’r orsaf bwmpio.
Mae ein rhwydwaith carthffosiaeth yn dibynnu ar rym disgyrchiant i gludo gwastraff i ffwrdd o gartrefi a busnesau. Lle nad oes modd gwneud hyn, bydd yr Orsaf Bwmpio Carthion yn helpu i bwmpio’r gwastraff i’r gweithfeydd trin dŵr gwastraff lleol er mwyn iddo gael ei drin yn ddiogel. Yn rhan o’n gwaith buddsoddi, rydyn ni wedi gwneud gwelliannau i’r rhwydwaith sy’n rhedeg rhwng yr orsaf bwmpio carthion a’r gweithfeydd trin dŵr gwastraff. Roedd hyn yn cynnwys gosod pympiau a phibellau newydd sbon yn yr Orsaf Pwmpio Carthion, a fydd yn darparu mwy o gapasiti i wastraff gael ei gludo i’r gweithfeydd i gael ei drin.
Trwy drosglwyddo mwy o wastraff i’r gweithfeydd trin dŵr gwastraff, roedd angen i ni sicrhau bod digon o gapasiti i drin y gwastraff ychwanegol ar y safle. Gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, rydyn ni wedi bod yn brysur yn uwchraddio’r safle, gan osod asedau a thanciau storio newydd sbon i gynyddu ei gapasiti i ddal a thrin y dŵr gwastraff sy’n dod i mewn iddo, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i’r amgylchedd.
Diolch
Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r gymuned am eu hamynedd wrth i ni gyflawni’r gwaith yma. Rydyn ni’m gwybod bod gwaith o’r math yma’n gallu bod yn anghyfleus ar adegau, felly rydyn ni wir yn gwerthfawrogi eich amynedd a’ch cydweithrediad.
Yn Eich Ardal
Y cymorth sydd ar gael i chi
Weithiau, mae angen ychydig bach o gymorth ychwanegol ar ein cwsmeriaid. Dim ots a ydych chi’n chwilio am ffordd o arbed arian ar eich biliau misol, am drwsio toiled sy’n gollwng neu gofrestru ar ein cofrestr gwasanaethau blaenoriaeth, r’yn ni yma i helpu. Mae manylion rhai o’r gwasanaethau sydd ar gael i chi isod.