Gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff yn Sain Nicolas, Bro Morgannwg


Rydyn ni’n gwybod bod ein cwsmeriaid yn disgwyl lefel uchel o ddibynadwyedd wrth i ni drin eu dŵr gwastraff. Dyna pam ein bod ni’n uwchraddio ein Gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff yn Sain Nicolas er mwyn sicrhau y gallwn barhau i gynnal y safonau uchel y mae ein cwsmeriaid yn eu disgwyl.

Nodwyd fod angen i ni gyflawni gwelliannau o ran sut mae ein gweithfeydd trin dŵr gwastraff yn Sain Nicolas yn gweithredu. Mae hyn er mwyn sicrhau y gallwn drin y dŵr gwastraff ychwanegol a ddisgwylir yn sgil twf yr ardal leol, yn ogystal â bodloni’r amodau newydd o ran amonia a ffosfforws y mae ein rheoleiddwyr wedi eu pennu.

Cyn y gallwn barhau â’n cais cynllunio, rydyn ni am roi cyfle i chi fwrw golwg ar ein cynlluniau a rhannu eich adborth â ni. Byddem yn croesawu eich syniadau a’ch adborth ar ein gwaith arfaethedig ac ar y llwybr mynediad hefyd.

Beth ydyn ni’n bwriadu ei wneud?

Lleolir gweithfeydd trin dŵr gwastraff cyfredol Sain Nicolas ym mhentref Sain Nicolas, Bro Morgannwg. Maent ar ben Brook Lane ac yn derbyn dŵr gwastraff o dros 500 o gwsmeriaid ar hyn o bryd.

Er mwyn sicrhau y gallwn barhau i fodloni’r safonau uchel y mae ein cwsmeriaid yn eu disgwyl, ac er mwyn hwyluso twf yn y dyfodol, mae angen i ni uwchraddio ein gweithfeydd i ddarparu cyfleusterau trin a storio a fydd yn ein cynorthwyo ni i gynnal y gwasanaeth o’r safon uchaf a ddarparwn ar gyfer ein cwsmeriaid. I wneud hyn, mae angen i ni adeiladu prosesau sgrinio a thrin newydd ar y fewnfa ochr yn ochr â gweithfeydd trin dŵr gwastraff gwreiddiol Sain Nicolas. Bydd y broses drin newydd yma’n cael ei hadeiladu i’r dwyrain o’r gweithfeydd cyfredol a bydd yn cynnwys:

  • Twll archwilio newydd i ddal y llif ar y bibellwaith carthffosiaeth disgyrchiant sy’n dod i mewn.
  • Sgrin newydd ar y fewnfa i wasanaethu’r holl lif sy’n dod i mewn.
  • Gorsaf bwmpio godi newydd ar y fewnfa i godi’r llif trwy’r prif lif trin.
  • Addasiadau i siambr fwydo’r prif danc setlo.
  • Addasiadau i’r prif danciau setlo cyfredol.
  • Siambr ddosbarthu newydd ar gyfer y biohidlydd.
  • Biohidlydd mwynau ychwanegol.
  • Adfer y biohidlyddion mwynau cyfredol.
  • 2 danc setlo gweryd newydd gyda phympiau cylchdroi slwtsh gweryd.
  • Gwely brwyn awyredig newydd.
  • Gorsaf bwmpio ailgylchredeg newydd.
  • Tanc dal slwtsh newydd.
  • Arllwysfa newydd i’r tanc slwtsh / gorsaf bwmpio cylchdroi ar ddraeniau’r safle.
  • Gweithfeydd dosio fferrig newydd gyda chawod diogelwch.
  • Gweithfeydd dosio alcalinedd newydd.
  • Set hybu dŵr yfed newydd.
  • Siambr samplo elifiant terfynol newydd.
  • Gwaith uwchraddio trydanol gan gynnwys disodli trawsnewidydd LV ar bolyn.
  • Dadgomisiynu’r tanciau setlo gweryd cyfredol, yr orsaf bwmpio cylchdroi gyfredol a’r gwelyau sychu slwtsh cyfredol.

I hwyluso’r gwaith y mae angen ei gyflawni, bydd angen creu ffordd fynediad dros dro ar gyfer y cerbydau adeiladu trwy’r tir i’r dwyrain i’n safle hefyd.

Rydyn ni’n cynnig defnyddio’r tir i’r dwyrain i’r safle cyfredol, a darn o dir i’r de ac ymhellach i’r dwyrain fel ein safle gwaith dros dro ac fel lleoliad ffordd fynediad dros dro yn ystod y gwaith adeiladu. Ar ôl cwblhau’r gwaith adeiladu, byddwn ni’n cael gwared ar y ffordd fynediad dros dro a chaiff y darnau yma o dir eu hadfer a’u troi yn dir amaeth eto.

Cyhyd ag y bo’r cyfan yn mynd yn ôl y disgwyl, byddwn ni’n anelu at gyflawni’r gwaith i adeiladu’r ffordd fynediad dros dro ar gyfer y gwaith rhwng Chwefror ac Ebrill 2024, cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau o fewn y gweithfeydd trin dŵr gwastraff ei hun. Rydyn ni’n rhagweld y bydd y gwaith adeiladu a chomisiynu i uwchraddio’r gweithfeydd trin dŵr gwastraff newydd yn cymryd tua blwyddyn.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Hoffem rannu rhywfaint o’r wybodaeth a gasglwyd mewn perthynas â’n ffordd fynediad dros dro yn ystod y gwaith adeiladu â chi. Rydyn ni’n bwriadu cynnwys y wybodaeth yma yn ein cais cynllunio, a hoffem glywed eich safbwyntiau arni. Dyma’r dogfennau perthnasol:

Cyfeiriad/Dogfen/Darluniau

300745-DEL-XXX-DR-00001 P01 - St Nicholas WwTW Temporary Access Road

Lawrlwytho
660.4kB, PDF

300745-DEL-XXX-DR-00002 P01 - St Nicholas WwTW Temporary Access Road

Lawrlwytho
653.3kB, PDF

300745-DEL-XXX-DR-00003 P01 - St Nicholas WwTW Temporary Access Road

Lawrlwytho
628.4kB, PDF

300745-DEL-XXX-DR-00004 P01 - St Nicholas WwTW Temporary Access Road

Lawrlwytho
378.3kB, PDF

B10181-0AG964-ZZ-ZZ-AP-TA-AG0325 - Draft Planning Application Form

Lawrlwytho
487.2kB, PDF

B10181-0AG964-ZZ-ZZ-DR-CA-DI0239 - St Nicholas WwTW Landscape Planting Plan

Lawrlwytho
1.3MB, PDF

B10181-0AG964-ZZ-ZZ-DR-CA-DI0312 - Existing Site Plan

Lawrlwytho
315.4kB, PDF

B10181-0AG964-ZZ-ZZ-DR-TA-PN0235 - Planning location plan

Lawrlwytho
312.8kB, PDF

B10181-0AG964-ZZ-ZZ-ME-NB-ED0286 - St Nicholas WwTW Bat Tree Climbing Report

Lawrlwytho
401.6kB, PDF

B10181-0AG964-ZZ-ZZ-RP-CA-AL0241 - St Nicholas WwTW Archaeological Evaluation Project Design

Lawrlwytho
846.7kB, PDF

B101810AG964ZZZZRPCAFD0240 St Nicholas WwTW Flood Consequence Assessment FCA

Lawrlwytho
4.3MB, PDF

B101810AG964ZZZZRPGAGC0197 St Nicholas WwTW Ground Investigation Report GIR

Lawrlwytho
18.2MB, PDF

B101810AG964ZZZZRPNAED0132 St Nicholas WwTW Preliminary Ecological Appraisal PEA

Lawrlwytho
5.5MB, PDF

B10181-0AG964-ZZ-ZZ-RP-NB-ED0052 - St Nicholas WwTW Site Ecological Constraints Memo

Lawrlwytho
2.4MB, PDF

B10181-0AG964-ZZ-ZZ-RP-NB-ED0245 - St Nicholas WwTW Dormouse Survey Report

Lawrlwytho
1MB, PDF

B10181-0AG964-ZZ-ZZ-RP-NB-ED0246 - St Nicholas WwTW Bat Survey Report

Lawrlwytho
8.6MB, PDF

B10181-0AG964-ZZ-ZZ-RP-NB-ED0285 - St Nicholas WwTW Arboricultural Report

Lawrlwytho
6MB, PDF

B10181-0AG964-ZZ-ZZ-RP-TA-PN0319 - Planning Statement

Lawrlwytho
437.9kB, PDF

B10181-0AG964-ZZ-ZZ-RP-TA-PN0320 - Design Access Statement

Lawrlwytho
899.5kB, PDF

B10181-0AG964-ZZ-ZZ-RP-WB-CJ0321 - St Nicholas WwTW Construction Environmental Management Plan

Lawrlwytho
5.2MB, DOCX

B10181-0AG964-ZZ-ZZ-RP-WB-CJ0322 - Transport Management Plan

Lawrlwytho
2.4MB, PDF

B10181OAG964ZZZZDRTAPN0237 Elevation View through Northern Eastern Side

Lawrlwytho
522.1kB, PDF

B10181OAG964ZZZZDRTAPN0238 Elevation View through Southern Western Side

Lawrlwytho
730.3kB, PDF

B10181-OAG964-ZZ-ZZ-DR-TA-PN0295 - Planning Site General Arrangement

Lawrlwytho
4.5MB, PDF

Report 4366 - St Nicholas WwTW Archaeological Evaluation Report

Lawrlwytho
14.8MB, PDF

Yn ogystal, rydyn ni wrthi’n paratoi Datganiad Trafnidiaeth a Datganiad Seilwaith Gwyrdd a gaiff eu cyflwyno gyda’r cais cynllunio yn dilyn yr ymarfer ymgynghori yma.

Dywedwch eich dweud

Byddem yn croesawu unrhyw adborth sydd gennych i’w rannu am y cais cynllunio drafft cyn i ni ei gyflwyno i Gyngor Bro Morgannwg. Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, a fyddech cystal â gwneud hyn erbyn dydd Sul, 10 Rhagfyr 2023 trwy e-bostio chloe.jones@arcadis.com.