Lôn Pont-y-felin


Fel cwmni, rydyn ni’n dibynnu ar yr amgylchedd wrth ddarparu ein gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff. Rydyn ni’n cymryd ein cyfrifoldebau dros ddiogelu’r amgylchedd o ddifrif, ac yn buddsoddi tua £1 miliwn y dydd er mwyn gwella a chynnal ein rhwydweithiau.

Rydyn ni’n gwybod hefyd bod ein cwsmeriaid am i ni wneud rhagor, yn arbennig er mwyn helpu i amddiffyn ansawdd ein hafonydd, fel afon Wysg. Dyna pam ein bod ni’n bwriadu buddsoddi tua £8 miliwn i wella’r ffordd y mae ein CSO yn Lôn Pont-y-felin, Torfaen, yn gweithredu.

Ar y dudalen hon, fe ffeindiwch chi ychydig o wybodaeth am y sialensiau sy’n ein hwynebu a’n cynigion i wella’r CSO, ynghyd â gwybodaeth am sut y gallwch chi rannu eich adborth ar ein cynlluniau.

Beth yw’r broblem?

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n monitro ansawdd ein prif afonydd. Mae yna bryder am ansawdd dŵr afonol mewn rhannau o afon Wysg, am nad ydynt yn cyflawni’r hyn a elwir yn statws ecolegol ‘da’. Mae hynny’n golygu bod yna ormod o gemegolion fel ‘ffosfforws’ yn yr afon, sy’n gallu achosi gordyfiant o algâu sy’n gallu effeithio ar faint o ocsigen sydd ar gael yn y dŵr, a niweidio bywyd gwyllt.

Mae yna nifer o ffactorau sy’n gallu cynyddu lefelau’r ffosffadau. Mae hyn yn cynnwys sut rydyn ni’n trin dŵr gwastraff cyn ei ddychwelyd i’r amgylchedd. Mae ein gwaith modelu ar afon Wysg, er enghraifft, yn dangos bod ein hasedau (h.y. ein gweithfeydd trin a’n Gorlifoedd Storm Cyfunol neu CSOs) yn gyfrifol am rhwng 21% a 23% o’r ffosffadau yn y prif gyrff dŵr, a’r CSOs sydd i gyfrif am gwta 1% o hyn. Ffactorau eraill sy’n achosi’r gweddill - dros 75% - fel dŵr ffo o dir amaeth a baw anifeiliaid, draenio dŵr wyneb trefol, draeniau sydd wedi eu cam-gysylltu, a thanciau septig preifat.

Fodd bynnag, rydyn ni’n deall bod hyn yn fater pwysig i gymunedau, ac rydyn ni wedi ymrwymo i chwarae ein rhan a gwneud beth y gallwn ni i leihau ein heffaith ar afonydd lleol.

CSO Pont-y-felin

Mae ein CSOs yn chwarae rôl hanfodol wrth atal llifogydd mewn cartrefi yn sgil glaw a stormydd, am fod y rhan fwyaf o’n rhwydwaith yn defnyddio system gyfunol sy’n casglu dŵr wyneb yn ogystal â dŵr gwastraff. Mae gweithrediad ein CSOs - sy’n rhyddhau’r dŵr wyneb sy’n llifo i’n carthffosydd yn sgil glaw yn bennaf - yn cael ei reoleiddio’n dynn. Gallwch ddarllen rhagor am ’sut maen nhw’n gweithredu ymaac yn yr animeiddiad isod.

Er na allwn ni ddileu’r CSOs o’n system yn llwyr, am y byddai cost hynny rhywle rhwng £9 ac £14 biliwn, ac am y byddai’n golygu cloddio ym mhob stryd yng Nghymru bron â bod, mae ein CSOs yn gweithredu yn ôl y bwriad ac fel a ganiateir i bob pwrpas. Fodd bynnag, gyda’r ddeddfwriaeth amgylcheddol yn tynhau, a disgwyliadau cwsmeriaid yn newid, rydyn ni’n cydnabod bod angen gwneud rhagor i wella’u perfformiad.

Mae gennym CSO o dan y ddaear ar Lôn Pont-y-felin, ac mae’n rhyddhau i Afon Lwyd. Rydyn ni’n bwriadu buddsoddi tua £8 miliwn i uwchraddio’r CSO yma gan ddefnyddio ateb sy’n seiliedig ar natur a fydd yn helpu i leihau nifer y troeon y mae’r gorlif yn rhyddhau, ac yn hybu ansawdd y dŵr yn afon Lwyd ac afon Wysg.

Datblygu atebion

Penodwyd Arup, ymgynghorwyr peirianegol blaenllaw, i archwilio’r opsiynau gorau i’n helpu ni i gyflawni ein nod o leihau’r gorlif heb ei drin o’n Gorlif Storm Cyfunol (CSO) a hybu ansawdd dŵr afonol yn yr ardal leol. Fe gyflawnon nhw astudiaeth fanwl i asesu amrywiaeth o ddewisiadau, ac amlinellir y rhain.

Opsiwn Deilliant
Optimeiddio’r system gyfredol Ehangu’r bibellwaith gyfredol i lawr y llif o’r CSO er mwyn cynyddu faint o lif sy’n pasio trwy Brif Garthffos Ddwyreiniol y Cwm cyn gorlifo o’r CSO. Er y byddai’r opsiwn yma’n lleihau’r gorlif o’r CSO yma, ystyriwyd na fyddai’n hyfyw oherwydd capasiti cyfredol y rhwydwaith o garthffosydd. Ni fyddai’n ein helpu ni i gyflawni’r deilliannau amgylcheddol dymunol chwaith.
Dileu’r llif Atal dŵr storm rhag mynd i mewn i’r rhwydwaith wrth ei darddle (er enghraifft, trwy ddatgysylltu’r pibellau dŵr wyneb o’r rhwydwaith dŵr budr, neu trwy osod pibellwaith newydd i gludo’r dŵr wyneb i ffwrdd). Mae ein hymchwiliadau’n dangos bod y rhan fwyaf o’r dŵr wyneb ffo yn dod o eiddo unigol. Byddai dargyfeirio’r dŵr o nifer fechan o eiddo’n costio swm sylweddol o arian, yn tarfu’n ddifrifol ar ein cwsmeriaid ac ni fyddai’n cyflawni’r deilliant amgylcheddol dymunol..
Atebion llwyd Dargyfeirio’r dŵr storm i danc storio er mwyn ryddhau i’r rhwydwaith yn ddiweddarach ar ôl i’r llif ostegu. Byddai hyn yn golygu adeiladu tanc storio 1300m3 wrth ymyl y CSO a fyddai’n addas ar gyfer y lle sydd ar gael. Dangosodd ein gwaith modelu y byddai angen i’n tanc storio fod tua 20 gwaith yn fwy er mwyn lleihau nifer y gorlifoedd yn sylweddol. Ni fyddai’n cyflawni’r deilliannau amgylcheddol dymunol chwaith.
Ateb sy’n seiliedig ar natur Trin y dŵr storm i ansawdd boddhaol gan ddefnyddio atebion sy’n seiliedig ar natur cyn ei ryddhau i’r afon. Mae’r defnydd o welyau brwyn a gwlyptiroedd adeiledig wedi profi’n llwyddiannus wrth drin dŵr gwastraff o fewn y diwydiant ar led. Mae’r ateb yma’n cynnig cyfle i gyfoethogi’r lle â seilwaith gwyrdd at ddefnydd y gymuned hefyd.

Ein hateb dewisol

Ar ôl asesu’r gwahanol opsiynau, cafodd yr ateb sy’n seiliedig ar natur ei glustnodi fel y dewis gorau er mwyn gwella ansawdd dŵr yn yr afon, cyfoethogi’r amgylchedd lleol, a darparu manteision cymdeithasol-economaidd ar gyfer y gymuned leol.

Byddai’r ateb yma’n cynnwys creu:

  • Gwelyau brwyn wedi eu hawyru, a fyddai’n trin llif y dŵr storm cyn ei rhyddhau nôl i’r amgylchedd.
  • Dau wlyptir, gyda phontŵn dec arsylwi.
  • Safle gwaith, a fydd yn cynnwys siambrau sgrinio a fydd yn helpu i ddal unrhyw ddarnau mawr o wastraff fel clytiau a weips, chwythwyr awyru ar gyfer y gwelyau brwyn, siambr gorlif o dan y ddaear ac ardaloedd cynnal a chadw i wasanaethu pob un o’r asedau hyn.
  • Traciau mynediad a chynnal a chadw, a fyddai’n caniatáu i gerbydau cynnal-a-chadw gyrraedd yr asedau ac a fyddai ar gael at ddefnydd cyffredinol cerddwyr.
  • Llwybrau cerdded a rhodfeydd er mwyn caniatáu mynediad i gerddwyr rhwng gwahanol bwyntiau mynediad y safle.
  • Ardaloedd amwynder, seilwaith ac addysgol, gan gynnwys ardaloedd eistedd a dosbarth awyr agored er mwyn caniatáu i’r gymuned ymgysylltu â’r amgylchedd.
  • Gwelliannau i fioamrywiaeth, fel gwestai chwilod, blychau ystlumod, plannu coed a hadu glaswelltir.

Ymhlith manteision posibl yr ateb hwn mae:

  • Gwella’r dirwedd gyfredol
  • Creu safleoedd i gyfoethogi bioamrywiaeth ac ecoleg
  • Darparu cyfleoedd addysgol er mwyn i bobl ddysgu am yr amgylchedd
  • Lleihau’r perygl o lifogydd mewn eiddo cyfagos
  • Dal llif y dŵr storm cyn iddo gyrraedd y cwrs dŵr
  • Annog y gymuned leol i dreulio mwy o amser yn yr awyr agored
  • Gwella’r cyfleusterau hamdden cyfredol
  • Trin y dŵr gwastraff sy’n dod allan o’r CSO, gan wella ansawdd dŵr yr afon yn lleol yn ei dro

Dywedwch eich dweud

Bydd ein hymgynghoriad cyhoeddus yn rhedeg rhwng dydd Llun, 20 Mawrth a dydd Sul, 16 Ebrill 2023. Mae ein cynlluniau ar gael i’w darllen ar lein isod, neu yn ein hachlysur rhithiol i ymgynghori â’r cyhoedd, lle cewch rannu eich adborth hefyd.

Bydd copïau caled o’n cynlluniau ar gael yn Cyngor Cymuned Pont-y-pŵl, 35A Stryd Fasnachol, Pont-y-pŵl, NP4 6JQ rhwng 20 Mawrth tan 16 Ebrill 2023.

Gwybodaeth ddefnyddiol

AIA AMS - Treescene

785.8kB, PDF

Asesiad Effaith Coedyddiaeth - Treescene

3.5MB, PDF

Asesiad Canlyniad Llifogydd

3.9MB, PDF

Cynllun Lleoliad Safle

350.8kB, PDF

Cynllun Cyfansawdd

1.9MB, PDF

Gweddïau Cyfansawdd

10MB, PDF

Safle Draenio

2.1MB, PDF

Adran Tirwedd A-A

15.6MB, PDF

Trefniant Cyffredinol

3.3MB, PDF

Cynllun y Safle Presennol

435.8kB, PDF

Cofrestr Mater

198.5kB, PDF

Asesiad Cydymffurfiaeth Rheoliadau'r Amgylchedd Dŵr

4.3MB, PDF

Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA)

10.6MB, PDF

Asesiad Effeithiau Ecolegol (EcIA)

8.4MB, PDF

Asesiad Arogleuon

2.3MB, PDF

Cynllun Gwarchod Coed - Treescene

3.4MB, PDF

Arolwg Coed - Treescene

771.1kB, PDF

Planning Design and Access Statement

2.1MB, PDF

Placemaking Design Report Appendix A

34.4MB, PDF