Gair am ein gwaith
Er mwyn sicrhau y gallwn barhau i gyflenwi dŵr yfed o’r safon uchaf i’n cwsmeriaid bob tro yr agorant y tap, rydym yn buddsoddi dros £8 miliwn yn creu cronfa wasanaeth newydd ar y tir ger y gronfa wasanaeth bresennol.
Bydd yn rhoi mwy o le i ni storio dŵr a bydd ein cwsmeriaid ym Merthyr Tudful a’r cylch yn llai tebygol o gael toriadau yn eu cyflenwad.
Bydd y gwaith yn dechrau yn y gwanwyn ac, os aiff popeth yn iawn, caiff ei gwblhau yn ystod hydref 2022. Byddwn yn ysgrifennu at gwsmeriaid sy’n byw gerllaw yn nes at yr amser i ddweud beth y gallant ei ddisgwyl.
Mae Cronfa Wasanaeth bresennol Pengarnddu ym mhentref Pengarnddu, Merthyr Tudful. Mae ger Stad Ddiwydiannol Pengarnddu, oddi ar yr A465, ac mae’n cyflenwi dŵr yfed ffres i dros 10,000 o gwsmeriaid.
Caiff y gronfa wasanaeth newydd ei hadeiladu ar dir Dŵr Cymru, i’r gorllewin o’r gronfa wasanaeth bresennol. Bydd y gwaith yn cynnwys:
- Adeiladu cronfa wasanaeth 61m x 50m yn y dirwedd, yn rhannol o dan y ddaear.
- Gosod pibellau newydd i gysylltu’r gronfa newydd â’r rhwydwaith cyflenwi dŵr presennol.
- Adeiladu cwt falfiau unllawr fel y gellir cyrraedd at y pibellau cyflenwi a’r falfiau i’w trin.
- Creu llwybrau troed fel y gellir mynd at y gronfa newydd a’r siambrau o’i chwmpas i wneud gwaith arnynt.
- Ymestyn heol fynediad y safle.
- Symud rhan o derfyn y safle presennol a chodi ffensys newydd, diogel ar ei hyd.
- Creu canolfan reoli newydd mewn ciosg, ger y gronfa bresennol.
- Adfer y tir o gwmpas y gronfa newydd i fod fel y borfa ar y safle presennol.
Byddwn defnyddio darn o dir er ein hardal weithio fel compownd y safle dros dro. Ar ôl cwblhau’r gwaith adeiladu, caiff y darn hwn o dir ei adfer a’i droi yn ôl fel yr oedd.
Tra byddwn yn gwneud y gwaith, bydd y llwybrau cyhoeddus gerllaw yn dal ar agor. Fodd bynnag, gallech sylwi bod rhwystrau’n cael eu codi o gwmpas rhai mannau. Er eich diogelwch chi y codir y rhwystrau hyn a gofynnwn yn garedig i chi beidio â mynd i fannau sydd wedi’u cau fel hyn.
Ni ddylai’r gwaith amharu ar eich cyflenwad dŵr na’ch gwasanaeth dŵr gwastraff.
Rheoli traffig
Byddwn yn cydweithio â Mott MacDonald Bentley a’u his-gontractwyr ac felly gallech weld eu cerbydau nhw yn yr ardal. Byddant yn mynd a dod i’r safle trwy Stad Ddiwydiannol Pengarnddu, gan rannu heol fynediad Asda gerllaw.
Oriau gweithio
Byddant yn gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 7am a 6pm, ond gall fod angen iddynt weithio y tu allan i’r oriau hyn weithiau er mwyn gorffen y gwaith yn gyflym.