Trefynwy


Rydym yn buddsoddi yn ein gwasanaethau a’n seilwaith ledled Cymru a Henffordd a gennym newyddion pwysig i’w rhannu â chi am ein gwaith yn Nhrefynwy.

Byddwn ni’n buddsoddi £11 miliwn yn ein hasedau dŵr a dŵr gwastraff dros y 2 flynedd nesaf. Ar y dudalen hon fe welwch chi ychydig o wybodaeth am y gwaith a sut y gallai effeithio arnoch chi.

Beth ydyn ni’n ei wneud?

Uwchraddio’r rhwydwaith dŵr

Rydyn ni’n uwchraddio dros 28km o bibellau dŵr glân yn Nhrefynwy a’r ardaloedd cyfagos. Bydd ein gwaith yn cynnwys disodli 14.6km, glanhau 10.3km a dadgomisiynu 3.3km o bibellau dŵr. Yn ogystal â helpu i wella ansawdd y dŵr yfed ar gyfer y cymunedau o dan sylw, bydd hyn yn helpu i sicrhau diogelwch y cyflenwadau ac yn lliniaru’r problemau sy’n effeithio ar rai cwsmeriaid yn yr ardal o ran colli cyflenwadau neu bwysedd dŵr isel hefyd.

Byddwn ni’n defnyddio cyfuniad o ddulliau traddodiadol ac arloesol i gyflawni’r gwaith cyn gynted â phosibl, ac fe wnawn ein gorau glas i darfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned.

Dechreuodd y gwaith yma yn Hydref 2023 a chaiff ei gwblhau erbyn Mawrth 2025.

Uwchraddio ein hasedau dŵr gwastraff

Rydyn ni’n gwybod bod ein cwsmeriaid am i ni wneud rhagor, yn arbennig i helpu i amddiffyn ansawdd dŵr ein hafonydd, fel afon Gwy. Dyna pam ein bod ni’n bwriadu uwchraddio’r asedau yng Ngweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff Trefynwy, a fydd yn caniatáu i ni drin a gwaredu’r dŵr gwastraff o’n gweithfeydd trin yn fwy effeithiol cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i’r amgylchedd.

Yn eich ardal

Yn Eich Ardal

Yn ogystal, gallwch fynd i in your area a chwilio am ‘Monmouth’.

Gwybod mwy

Cymorth eraill sydd ar gael

Weithiau, mae angen ychydig o help ychwanegol ar ein cwsmeriaid. Os bydd angen help i arbed arian ar eich biliau misol, trwsio toiled sy’n gollwng neu’ch cofrestru ar gyfer ein cofrestr gwasanaethau blaenoriaeth, rydym yma i helpu. Gwelwch rai o'r gwasanaethau sydd ar gael i chi isod.