Uwchraddiadau i Waith Trin Dŵr Gwastraff Trefynwy


Rydyn ni’n buddsoddi mewn ac o amgylch Trefynwy i uwchraddio a gwella’r asedau trin dwr gwastraff yn eich ardal.

Bydd y buddsoddiad hwn yn caniatau inni drin a gwaredu dŵr gwastraff yn fwy effeithiol o'n gweithfeydd trin cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i’r amgylchedd lleol.

Fel cwmni, rydyn ni’n dibynnu ar yr amgylchedd wrth ddarparu ein gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff hanfodol. Rydyn ni’n cymryd ein cyfrifoldebau dros ddiogelu’r amgylchedd o ddifrif, ac yn buddsoddi tua £1 miliwn y dydd i wella a chynnal ein rhwydweithiau.

Ond rydyn ni’n gwybod bod ein cwsmeriaid am i ni wneud rhagor, yn arbennig i helpu i amddiffyn ansawdd dŵr ein hafonydd, fel afon Gwy. Dyna pam ein bod ni’n cynnig buddsoddi tua er mwyn gwella sut mae’r Gorlif Storm Cyfunol (CSO) yn eich ardal leol yn gweithredu.

Beth yw’r broblem?

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n monitro ansawdd ein prif afonydd. Mae yna bryder am ansawdd dŵr afonol mewn rhannau o afon Gwy am nad ydynt yn cyflawni’r hyn a elwir yn statws ecolegol ‘da’. Mae hynny’n golygu bod yna ormod o gemegolion fel ‘ffosfforws’ yn yr afon, sy’n gallu achosi gordyfiant o algâu sy’n gallu effeithio ar faint o ocsigen sydd ar gael yn y dŵr a niweidio bywyd gwyllt.

Beth sy’n achosi hyn?

Mae yna nifer o ffactorau sy’n gallu cynyddu lefel y ffosffadau. Mae hyn yn cynnwys sut rydyn ni’n trin dŵr gwastraff cyn ei ddychwelyd i’r amgylchedd. Mae ein gwaith modelu ar afon Gwy, er enghraifft, yn dangos bod ein hasedau yn gyfrifol am rhwng 25% a 33% o’r ffosffadau yn y prif gyrff dŵr, a’r CSOs sydd i gyfrif am gwta 2% o hyn. Mae’r gweddill yn cael ei achosi gan ffactorau eraill fel dŵr ffo o dir amaeth a baw anifeiliaid, a thanciau septig preifat. Fodd bynnag, rydyn ni’n deall bod hyn yn fater pwysig i’n cwsmeriaid, ac rydyn ni wedi ymrwymo i chwarae ein rhan i wneud beth y gallwn ni i leihau ein heffaith ar afon Gwy.

Gwaith at safle Trin Dŵr Gwastraff Trefynwy

Bydd y gwaith yma’n digwydd mewn sawl cam. Bydd y cam cyntaf yn cynnwys gwaith sy’n canolbwyntio ar sicrhau bod digon o gapasiti yn ein carthffosydd i ddelio â’r gwastraff sy’n dod i mewn iddynt, ac yn ei drin cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i’r amgylchedd lleol. Ar ôl cwblhau hyn, byddwn ni’n cyflawni gwaith ychwanegol a fydd yn helpu i gyfoethogi’r broses drin eto fyth trwy dynnu mwy o’r ffosfforws, a bydd hyn, yn ei dro, yn helpu i hybu ansawdd y dŵr yn yr afon leol.

Bydd ein ardal gwaith i cefnogi’r prosiect wedi ei sefydlu ar ardal fach o’r Faes Sioe Sir Fynwy.

Bydd y prif adran or gwaith adeiladu yn dechrau o ganol Ionawr 2024 ac wedi ei gwblhau erbyn diwedd mis Medi 2024.

Maniffesto afonydd

Rydym yn cynllunio i wella perfformiad ein hadnoddau drwy anelu ein buddsoddiad at y rhai sydd â'r effaith fwyaf ar yr amgylchedd, boed hynny'n orlawnder trwch dros ben na fyddai'n hoffi neu'n rhy llawer o fosfforws yn gadael ein gwaith triniaeth. Dyna pam rydym wedi lansio ein Maniffesto dros Afonydd yng Nghymru sy'n amlinellu ein cynlluniau i helpu i wella ansawdd yr afonydd. Mae hyn yn cynnwys:

  • Buddsoddi £1.5 biliwn yn ystod y degawd nesaf hyd at 2025 yn ein system ddŵr gwastraff.
  • Buddsoddi'n sylweddol i wella golwernoedd storm, gyda £25m yn cael ei fuddsoddi rhwng 2020-2025, a chynlluniau pellach o £420m wedi eu cynllunio o 2025 i 2030.
  • Buddsoddi £60m ychwanegol yn benodol i leihau ffosffor mewn pum afon Ardaloedd Arbennig Cadwraeth (SAC) sy'n methu yn ein hardal weithredu.
  • Cyflawni rhaglen gynhwysfawr o uwchraddiadau i'n gweithfeydd triniaeth a fydd yn cael gwared ar 90% o'n rhyddhad ffosffor erbyn 2030.
  • Sut mae ein model gweithredu busnes wedi caniatáu i ni ddod â thros £100m o fuddsoddiad ychwanegol yn ein seilwaith ddŵr gwastraff, gan gyflymu buddsoddiad a fydd â manteision uniongyrchol i wella afonydd yng Nghymru erbyn 2025
Yn eich ardal

Yn Eich Ardal

Yn ogystal, gallwch fynd i in your area a chwilio am ‘Monmouth’.

Gwybod mwy