Cynllun Mesuryddion Clyfar Abergele – cwestiynau cyffredin
Rydyn ni’n gosod mesuryddion newydd ac yn disodli rhai hŷn â thechnoleg newydd yn Abergele.
Bydd hyn yn ein galluogi ni i ganfod a thrwsio gollyngiadau’n gynt, a fydd yn ein helpu ni i wella ein rhwydwaith ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Rydyn ni eisoes wedi dechrau'r gwaith paratoi, a’r bwriad yw dechrau gosod y mesuryddion ym mis Hydref 2024.
Byddwn ni’n gosod y mesurydd y tu allan i’ch cartref (ar eich stoptap allanol) lle bo modd. Os nad oes modd gwneud hynny, byddwn ni’n cysylltu i drafod y peth â chi.
Nac oes fel arfer, ond byddwn ni’n rhoi gwybod i chi os oes angen trefnu apwyntiad â chi.
Mae gosod mesurydd yn cymryd ychydig funudau fel arfer, ond mae’n gallu cymryd mwy na hynny mewn ambell i achos. Fe wnawn ni bopeth y gallwn ni i darfu cyn lleied â phosibl arnoch chi.
Bydd angen i ni droi’r cyflenwad dŵr ffwrdd am ychydig funudau er mwyn gosod y mesurydd. 10-15 munud fel arfer, a byddwn ni’n curo ar y drws i roi gwybod i chi cyn dechrau.
Rhowch wybod i ni, y ffordd orau o gysylltu â ni yw trwy e-bost yn abergele@dwrcymru.com
Na chewch fel rheol, ond os cysylltwch â ni, gallwn ddweud wrthych a yw hynny’n bosibl ai peidio. E-bostiwch ni yn abergele@dwrcymru.com
Ein contractwyr yw IES (IES (Intregral Energy Solutions). Bydd gan y gweithwyr gardiau adnabod Dŵr Cymru.
Gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost y prosiect sef abergele@dwrcymru.com, a byddwn ni’n cyfeirio eich cwestiwn at yr adran briodol. Neu gallwch fynd i’n tudalen cysylltiadau.
Anfonwch e-bost atom yn abergele@dwrcymru.com a byddwn ni’n cysylltu i roi gwybod i chi a yw hyn yn bosibl yn eich eiddo ai peidio.
Nid yw casglu dŵr wyneb mewn casgen ddŵr yn gymwys am ostyngiad am nad yw’n strwythur parhaol.
Bydd, ni fyddwn ni'n codi unrhyw dâl am y mesurydd.
Rydyn ni’n disgwyl y bydd angen i ni osod siambr stoptap newydd er mwyn gosod ein mesuryddion mewn un eiddo ym mhob pump. Ein bwriad yw cloddio pob twll newydd â llaw, felly ni fyddwn ni’n defnyddio cerbydau cloddio.
Na fydd, a dweud y gwir, gallwch arbed arian os yw bod ar fesurydd yn rhatach i chi!
Na, gan y bydd angen i n osod mesurydd, ond cysyllwch â ni os oes gennych chi unrhyw brydron ar abergele@dwrcymru.com. Ni fyddwn ni’n defnyddio y mesurydd i’ch bilio os nad ydych chi’n dymuno, a gallwch gadw at eich taliadau anfesuredig. Dim ond os ydych chi’n credu y gallai bod o fantais i chi y byddwch chi’n newid.
Gellir darllen y mesuryddion newydd o bell a byddan nhw’n ein helpu ni i ganfod a thrwsio gollyngiadau’n gynt, a fydd yn ein helpu ni i wella ein rhwydwaith ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Nac oes. Dydyn ni ddim yn tynnu mesuryddion. Gall cwsmeriaid sydd eisoes wedi newid i fesurydd ddychwelyd at daliadau anfesuredig cyn pen 2 flynedd, ond bydd y mesurydd yn aros yn y ddaear i’n cynorthwyo ni i ganfod gollyngiadau.
Yn rhan o’r prosiect, byddwn ni’n ceisio rhannu’r cyflenwad a darparu cysylltiad newydd sbon ar eich cyfer, ond bydd angen cyflawni arolwg cyn gwneud hynny. Byddwn ni’n cysylltu â chi os ydyn ni’n meddwl bod hyn yn berthnasol i chi.
Bydd y batri yn y mesurydd yn para 10 i 15 mlynedd.
Os na allwn ni osod y mesurydd yn allanol, byddwn ni’n siarad â chi i drefnu bod un o’n plymwyr yn dod i osod y mesurydd yn fewnol.
Os ffeindiwn ni fod dŵr yn gollwng, byddwn ni’n ymchwilio i’r peth ac yn cysylltu â chi.
Am gyngor ar ollyngiadau, ewch i’n gwefan neu e-bostiwch ni ar abergele@dwrcymru.com
Na fydd, ond os oes gennych gyflenwad anfesuredig ond eich bod am gael eich bilio ar sail y mesurydd, cysylltwch â ni.
Byddwch. Byddwch chi’n aros ar y tariff cymdeithasol, a byddwn ni’n defnyddio’r mesurydd i helpu i ddod o hyd i ollyngiadau.
Ydyn, mae’r mesuryddion wedi eu calibro yn ôl safonau rhyngwladol gan sicrhau eu bod nhw’n bodloni’r gofynion o ran cywirdeb.
Rydyn ni’n canolbwyntio ar Abergele am y tro, ond mae’n ddigon posibl y byddwn ni’n ehangu'r peth i ardaloedd eraill yn y dyfodol.
Cewch. Cewch ddychwelyd at daliadau anfesuredig hyd at 2 flynedd ar ôl newid i filiau mesuredig.
Cewch. Cewch gyflwyno darlleniad o’r mesurydd bob 6 mis trwy FyNghyfrif ond fe fydd modd i ni gymryd darlleniadau’r mesurydd o bell ac ni fydd angen i ni alw mwyach, ond os oes unrhyw broblem, byddwn ni’n cysylltu â chi.
Ydy. Nid yw ein mesuryddion yn rhannu eich gwybodaeth. Y cyfan maen nhw’n ei wneud yw anfon data am eich defnydd atom ni’n ddiogel fel eich bod chi’n cael biliau cywir.
Na fydd. Batri sy’n gyrru’r mesurydd ac mae’n ased Dŵr Cymru felly ni fydd yn defnyddio cyflenwad ynni eich cartref.
Byddwn ni yn yr ardal, a bydd diweddariadau cyson ar gael trwy ein gwefan yn dwrcymru.com/Abergele
Byddwn ni’n casglu gwybodaeth am leoliad eich stoptap allanol, ac yn cymryd darlleniadau rheolaidd o’r mesurydd. Os sylwn ni fod yna newid sylweddol a allai fod yn arwydd fod dŵr yn gollwng, mae’n bosibl y byddwn ni’n cysylltu i ofyn a yw hyn yn rhywbeth sy'n ddisgwyliedig ai peidio.
Ni fydd angen i chi fonitro’ch cartref, ond caiff y darlleniadau eu hanfon atom ni’n awtomataidd.
Na allwn, mae’r mesurydd yn cofnodi'ch defnydd o ddŵr yn unig ac nid yw’n cyfyngu dim. Gallwch ddefnyddio eich darlleniadau i helpu i leihau eich defnydd o ddŵr a helpu i arbed yr adnodd naturiol yma.
Byddwn. Byddwn ni’n ôl-ddyddio’r taliadau i ddyddiad y darlleniad diwethaf o'r mesurydd.
Ni ddylai gael unrhyw effaith, ond os oes problem gyda phwysedd eich dŵr, rhowch wybod i ni a byddwn ni’n ymchwilio i’r peth. Gallwch adael i ni wybod os oes problem drwy glicio yma.
Na fydd, ni chewch ddyfais yn eich cartref fel sy’n digwydd gyda’ch nwy a’ch trydan.
Cewch. Cysylltwch â ni i er mwyn i ni gael diweddaru eich cyfrif ac eich bilio gyda’r mesurydd newydd.