Mae Mesuryddion Clyfar yn dod i Abergele


Mae Dŵr Cymru’n cyflwyno prosiect Mesuryddion Clyfar yn Abergele!

Does dim angen i chi wneud dim, ac ni fydd hyn yn effeithio dim ar sut y cewch eich bilio.

Dewiswyd Abergele fel y lleoliad cyntaf i ni fod yn fwy clyfar! Bydd ein cydweithwyr o Ddŵr Cymru’n ymweld ag Abergele dros y misoedd nesaf i osod mesuryddion newydd a disodli hen fesuryddion â thechnoleg newydd. Does dim angen i chi wneud dim, ac ni fydd hyn yn effeithio dim ar sut y cewch eich bilio.

Ar ôl gosod y mesuryddion, bydd modd i ni gyrchu data mwy cywir a chyfredol o lawer a fydd yn ein galluogi ni i ddod o hyd i ollyngiadau a’u trwsio’n gyflym. Yn y dyfodol, fe fydd rhagor o wybodaeth ar gael i chi, fel faint o ddŵr rydych chi’n ei ddefnyddio a phryd, ac os nad oes mesurydd gennych ar hyn o bryd, bydd modd i chi gymharu a gweld faint y gallech ei arbed trwy newid i fesurydd.

Pam Abergele?

Pam lai? Mae gan dros 75% o’n cwsmeriaid yn yr ardal fesurydd dŵr eisoes — mae hynny bron i 25% yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol! Mae hynny’n golygu bod cwsmeriaid yn yr ardal eisoes yn ymwybodol o fanteision cael mesurydd, a byddan nhw’n gallu monitro eu defnydd a deall sut mae gweithgareddau pob dydd yn dylanwadu ar gost dŵr.

Beth y gallwch ei ddisgwyl

Mae ein timau eisoes o gwmpas yr ardal yn cyflawni arolygon ar ein holl gysylltiadau dŵr, felly mae’n bosibl y byddwch wedi ein gweld ni. Y cam nesaf yn y broses yw gosod ac uwchraddio mesuryddion ar gyfer holl gartrefi a busnesau Abergele.

Os oes mesurydd dŵr gennych chi’n barod, yna’r cyfan y bydd angen i ni ei wneud yw cyfnewid eich hen fesurydd am un newydd. Ni ddylai hyn gymryd mwy nag ychydig funudau, ac am fod y rhan fwyaf o fesuryddion y tu allan i eiddo, mae’n siŵr na fyddwch chi’n sylwi arnom ni’n cyflawni’r gwaith hyd yn oed. I gwsmeriaid sydd â mesurydd ond sy’n talu tâl sefydlog, fel ein tariffau HelpU neu Watersure Cymru, ni fydd hyn yn newid dim ar sut rydych chi’n talu am eich dŵr.

Hyd yn oed os nad oes mesurydd dŵr gennych nawr, fel arfer bydd modd i ni osod eich mesurydd yn ddidrafferth. Bydd hyn y tu allan i’ch eiddo fel rheol, ni ddylai gymryd mwy nag ychydig funudau i ni, ac nid oes angen i chi wneud dim. Mewn ambell i achos, bydd gosod y mesurydd ychydig bach yn fwy cymhleth, ond fe wnawn ein gorau glas i darfu cyn lleied â phosibl arnoch o hyd.

Cadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, neu os hoffech chi gael rhagor o fanylion am y prosiect, e-bostiwch: abergele@dwrcymru.com

Beth arall fyddwn ni’n ei wneud yn Abergele?

Wrth gyflawni’r prosiect yma yn Abergele, rydyn ni’n gobeithio dod â manteision eraill i gwsmeriaid yn yr ardal yr un pryd.

Bydd ein tîm addysg wrth law i ymweld ag ysgolion yn yr ardal i gyflwyno gweithdai rhyngweithiol am ddim. Byddan nhw’n cysylltu ag ysgolion yn yr ardal maes o law, ond hoffech chi glywed rhagor am ein gweithdai addysg, cysylltwch â ni ar education@dwrcymru.com

Bydd ein Tîm Cymunedau Bregus ym Manc Bwyd Abergele pob mis i sicrhau bod cwsmeriaid ar y tariff gorau iddyn nhw, ac i drafod sut y gall cwsmeriaid arbed arian ar eu biliau dŵr. I gael rhagor o fanylion am ein gwahanol dariffau, cliciwch yma.

Bydd y tîm ym Manc Bwyd Abergele -

  • Dydd Iau 12 Medi 10am – 2pm
  • Dydd Iau 10 Hydref 10am – 2pm
  • Dydd Iau 24 Hydref 10am – 2pm
  • Dydd Mercher 6 Tachwedd 10am – 2pm
  • Dydd Iau 21 Tachwedd 10am – 2pm
  • Dydd Iau 5 Rhagfyr 10am – 2pm
  • Dydd Iau 19 Rhagfyr 10am – 2pm

2025

  • Dydd Iau 16 Ionawr 10am – 2pm
  • Dydd Iau 30 Ionawr 10am – 2pm
  • Dydd Iau 13 Chwefror 10am – 2pm
  • Dydd Iau 13 Mawrth 10am – 2pm
  • Dydd Iau 27 Mawrth 10am – 2pm

Rydyn ni’n awyddus hefyd i gynorthwyo grwpiau, prosiectau a mentrau lleol trwy ein Cronfa Gymunedol a thrwy ein diwrnodau gwirfoddoli i staff. Os ydych chi’n ymwybodol o unrhyw gyfleoedd i wirfoddoli yn yr ardal y gallwn ni gymryd rhan ynddynt, cysylltwch â ni ar community@dwrcymru.com.