Cynhadledd TarddLe 23


Cynhaliwyd Dangos Cynnydd Cadarnhaol dydd Mercher, 4 Hydref 2023 yng Ngwesty’r Marriott, Caerdydd.

Nod y gynhadledd oedd arddangos ambell un o’r mentrau cydweithredol cyffrous rydyn ni wrthi’n eu cyflawni gyda’n partneriaid i amddiffyn ein ffynonellau dŵr yfed, yn ogystal â darparu buddion niferus a fydd yn helpu i fynd i’r afael â’r Argyfyngau Natur a Hinsawdd sy’n ein hwynebu ni.

Mynychodd dros 70 o bobl o Lywodraeth Cymru, ein Rheoleiddwyr, Cyrff Anllywodraethol a sefydliadau allweddol eraill yr achlysur, lle cawsant glywed am amrywiaeth eang o’n prosiectau, popeth o’r technolegau diweddaraf ar gyfer monitro ansawdd dŵr yn y maes, gwaith ymchwil academaidd hollol fodern i Flas ac Arogl, ymgyrchoedd amlgyfrwng i lywio newid ymddygiadol, a dulliau arloesol o gydweithio â ffermwyr a rheolwyr tiroedd i sefydlu arferion gorau o ran rheoli tir.

Traddodwyd y prif anerchiad gan Debra Bowen-Rees, un o Gyfarwyddwyr Anweithredol Dŵr Cymru, Mark Davies, y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr groesawodd pawb, a Tony Harrington, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd oedd y cyflwynydd ac arweinydd yr achlysur.