Arweiniad am Ddim


Er bod rhai o'n mentrau ar gael mewn dalgylchoedd penodol yn unig, mae ein gweithdrefnau a'n canllawiau arferion gorau ar gael i bawb. Dyma ddolenni i gyngor ac arweiniad ar storio, defnyddio a gwaredu plaladdwyr yn ddiogel.

Ein Cyhoeddiadau

 

Sefydliadau Eraill

 

Cyswllt Ffermio

Yn cynnig cyngor, cymorth a hyfforddiant i ffermwyr a choedwigwyr yng Nghymru

www.businesswales.gov.wales/farmingconnect

Menter Wirfoddol

Cyngor, arweiniad a hybu defnydd cyfrifol o blaladdwyr

www.voluntaryinitiative.org.uk/en/home

Gwlad ar-lein

Newyddion, arweiniad a gwybodaeth i bobl sy'n gysylltiedig â’r byd amaeth yng Nghymru

gov.wales/topics/environmentcountryside/gwlad/

 

Adolygu

Aseswch yr angen am reoli’r brwyn, a yw hi’n hyfyw ac yn gost-effeithiol.

Ystyriwch:

Y Tir – a yw hi’n wlyb yn naturiol? Gall newid y dulliau draenio yn y cae effeithio ar lif y dŵr trwy’r tir a thrwy’r dalgylch.

Rhywogaeth
– mae rhai brwyn yn darparu cynefinoedd gwerthfawr ar gyfer bywyd gwyllt. Efallai y gallech geisio cyfoethogi hyn, trwy gynlluniau e.e. Glastir.

Caniatâd
– os yw’r tir yn gynefin pwysig e.e. SoDdGA, yna mae’n bosibl y bydd gwaharddiad ar waith rheoli, a gall fod angen i chi gael caniatâd ymlaen llaw.

 

Deall

Dewch i adnabod a deall pam fod brwyn yn llewyrchu, a chynnal yr amodau er mwyn helpu i’w hatal rhag ymsefydlu.

  • Profwch y pridd yn gyson, a dilynwch gynllun rheoli maetholion.
  • Cynhaliwch system ddraenio’r cae.
  • Osgowch wneud niwed i’r isbridd a strwythur y pridd.
  • Cynhaliwch strwythur pridd da.
  • Aseswch eich trefniadau pori. Mae gor-bori yn y gaeaf neu dan-bori yn y gwanwyn yn gallu hybu plâu.

 

Datrys

Gwnewch newidiadau i’ch technegau ar gyfer rheoli’r tir er mwyn creu amodau llai ffafriol i’r brwyn dyfu.

  •  Wella strwythur y pridd e.e. trwy aredig yr isbridd neu dwrch-ddraenio.
  • Codi pH y pridd gan ddefnyddio calch.
  • Gosod neu glirio hen ddraeniau yn y cae er mwyn gwella’r draenio.
  • Clustnodi’r rhywogaethau o laswellt ac ystyried rhaglen ail-hau arwynebol neu gyflawn.
  • Gofyn am gyngor ymgynghorydd cymwys BASIS er mwyn canfod lefelau priodol ar gyfer ffosffadau, potash a magnesiwm.
  • Addasu’r trefniadau pori er mwyn osgoi tan-bori neu or-bori.

Trin

Mae defnyddio technegau trin tymhorol yn gallu darparu ateb cyflym, ond dim ond yn y tymor byr y gall y rhain ymdrin â phlâu. Gellir defnyddio dulliau trin effeithiol ar y cyd â dulliau o ddatrys a gwella amodau’r tir.

Mecanyddol - gall tocio/torri’r brwyn ychydig cyn iddynt fwrw hadau ffrwyno eu twf. Gall tocio ar ôl i’r planhigyn fwrw hadau ledu’r pla ymhellach.

Cemegol - dylech feddwl yn ofalus cyn defnyddio unrhyw chwynladdwyr am eu bod yn gallu peryglu ansawdd y dŵr, ac yn enwedig yn yr afonydd y codir dŵr yfed ohonynt.

 

Chwistrellau Chwyn

Opsiwn 1

  • Yr opsiwn risg is. Mae’n defnyddio llai o lawer o chwynladdwr am eu bod yn chwistrellu’r frwynen yn uniongyrchol.

Sbot-Chwistrellu

Opsiwn 2

  • Risg o ledu’r chwynladdwr ar y gwynt. Gellir defnyddio cemegolyn risg is. Yn addas ar gyfer plâu graddfa fach yn unig.

Chwistrellu â Thrawst

Opsiwn 3

  • Risg uchel o ledu ar y gwynt. Yn defnyddio MCPA yn aml, sy’n cymryd mwy o amser o lawer i ddadelfennu yn yr amgylchedd. Opsiwn mwy costus.