TarddLe


Gofalu am y tir, afonydd a chronfeydd dŵr er mwyn diogelu eich dŵr yfed am flynyddoedd i ddod.

Beth mae TarddLe yn ei wneud?

Rydym yn cydweithio â phartneriaid i ofalu am ein ffynonellau dŵr yfed ac i sicrhau bod ein gweithfeydd trin dŵr yn parhau i fod yn effeithiol yn y dyfodol.

Beth mae TarddLe yn ei wneud?

Gyda phwy rydym yn gweithio?

Dyma rai o’r partneriaid rydym wedi gweithio gyda nhw hyd yma i feddwl am y syniadau gwych sy’n ein helpu i ddiogelu ein dalgylchoedd.

Pam ydym ni’n Rheoli Dalgylchoedd?

Mae dŵr yn mynd ar dipyn o siwrnai cyn cyrraedd eich tap. O’r cymylau yn yr awyr, mae pob diferyn o law yn llifo dros y tir ac yn llifo i’n nentydd, ein hafonydd a’n cronfeydd dŵr.

Ar hyd y ffordd, mae dŵr yn codi pethau sy'n effeithio ar ei burdeb sy'n golygu nad yw'r dŵr sy'n llifo i'n ffynonellau mor bur ag y gallai fod. Felly, mae'n rhaid i ni ddefnyddio mwy a mwy o gemegau ac ynni i'w wneud yn berffaith i'n cwsmeriaid ei yfed. Mae hyn yn costio mwy o arian a gall niweidio ein hamgylchedd.

Dyna pam rydym yn gweithio gyda rheolwyr tir, grwpiau cymunedol a chwsmeriaid i newid y ffordd rydym yn gofalu am y tir i warchod ein dalgylchoedd dŵr. TarddLe yw ein henw ar hyn.

Rydym wedi ymrwymo i ofalu am ein dalgylchoedd dŵr yn awr ac am flynyddoedd i ddod, yr uchelgais gyntaf yn ein Strategaeth 2050 yw diogelu dŵr yfed glân drwy reoli dalgylchoedd.

Er mwyn gwneud hyn, rydym wedi chwilio ym mhedwar ban y byd am y syniadau gorau, ac rydym yn rhoi cynnig ar rai o'n syniadau newydd ein hunain er mwyn helpu i wella ansawdd ein dŵr cyn iddo gyrraedd ein ffynonellau.

Bydd hyn yn golygu y gallwn ddefnyddio llai o gemegau ac ynni i drin dŵr yfed. Mae hyn y newyddion da i'n cwsmeriaid ac i'n hamgylchedd prydferth.

Cynlluniau Diogelwch Dŵr Yfed

Mae Cynlluniau Diogelwch Dŵr Yfed (DWSP) yn asesiadau technegol ar gyfer nodi a rheoli risg i ansawdd dŵr yfed o'n ffynhonnell dŵr yr holl ffordd i dapiau ein cwsmeriaid.

Maent yn ofyniad rheoliadol ar bob cwmni dŵr yng Nghymru a Lloegr i sicrhau dŵr yfed glân diogel nawr ac yn y dyfodol.

Mae ein methodoleg DWSP yn dilyn canllawiau arfer gorau Sefydliad Iechyd y Byd ac yn mabwysiadu dull amlddisgyblaethol o ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid a chasglu gwybodaeth ar draws y gadwyn cyflenwi dŵr. Defnyddir yr allbynnau o’r cynlluniau hyn i flaenoriaethu a llywio ein rhaglenni buddsoddi cyfalaf gan sicrhau ein bod yn buddsoddi arian ein cwsmeriaid mewn atebion a mentrau costeffeithiol.

Mae ein dull rhagweithiol yn golygu y gallwn nodi a lliniaru risgiau presennol a phosibl yn y dyfodol, gan ein helpu i roi mesurau rheoli effeithiol ar waith a fydd yn diogelu ansawdd dŵr a’r amgylchedd heddiw ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Our Catchment Areas

Ble mae

ein dalgylchoedd?

Darganfyddwch a ydych yn byw ger un o'n dalgylchoedd dŵr yfed ar y map hwn.

Rydym yn cymryd dŵr o dros 100 o wahanol ffynonellau, sef cymysgedd o ddŵr daear, afonydd a chronfeydd dŵr. Mae ein dalgylchoedd yn cwmpasu tua 11,000km2.

Yr hyn y mae ein partneriaid yn ei ddweud

A oes gennych syniad am brosiect neu a oes angen rhagor o wybodaeth arnoch?

Hoffem glywed gan unrhyw ffermwr, perchennog tir neu reolwr tir sydd â syniad am ffyrdd newydd ac arloesol o weithio a fydd o fudd i’r amgylchedd dŵr yn ein dalgylchoedd. Mae gennym hefyd gyfoeth o wybodaeth a chyngor y gallwn eu rhannu â chi.

Mae ein tîm Dalgylch Dŵr Yfed allan yn rheolaidd yn ystod misoedd yr haf yn mynychu sioeau a digwyddiadau amaethyddol. Byddwch yn gallu siarad â ni yn y digwyddiadau hyn yn 2024, chwiliwch am faner TarddLe!

1. Ways you can contact us

Gyrrwch neges i ni drwy Gyfryngau Cymdeithasol

Gallwn helpu gydag ymholiadau o ddydd i ddydd trwy Neges Uniongyrchol ar Facebook a Twitter.

A oes gennych syniad yr hoffech ei rannu?

Os oes gennych syniad neu os hoffech chi siarad â ni, cysylltwch â ni yn: WaterSource@dwrcymru.com.