Arweiniad am Ddim
Er bod rhai o'n mentrau ar gael mewn dalgylchoedd penodol yn unig, mae ein gweithdrefnau a'n canllawiau arferion gorau ar gael i bawb. Dyma ddolenni i gyngor ac arweiniad ar storio, defnyddio a gwaredu plaladdwyr yn ddiogel.
Ein Cyhoeddiadau
Sefydliadau Eraill
Cyswllt Ffermio
Yn cynnig cyngor, cymorth a hyfforddiant i ffermwyr a choedwigwyr yng Nghymru
www.businesswales.gov.wales/farmingconnect
Menter Wirfoddol
Cyngor, arweiniad a hybu defnydd cyfrifol o blaladdwyr
www.voluntaryinitiative.org.uk/en/home
Gwlad ar-lein
Newyddion, arweiniad a gwybodaeth i bobl sy'n gysylltiedig â’r byd amaeth yng Nghymru
gov.wales/topics/environmentcountryside/gwlad/
Adolygu
Aseswch yr angen am reoli’r brwyn, a yw hi’n hyfyw ac yn gost-effeithiol.
Ystyriwch:
Y Tir – a yw hi’n wlyb yn naturiol? Gall newid y dulliau draenio yn y cae effeithio ar lif y dŵr trwy’r tir a thrwy’r dalgylch.
Rhywogaeth – mae rhai brwyn yn darparu cynefinoedd gwerthfawr ar gyfer bywyd gwyllt. Efallai y gallech geisio cyfoethogi hyn, trwy gynlluniau e.e. Glastir.
Caniatâd – os yw’r tir yn gynefin pwysig e.e. SoDdGA, yna mae’n bosibl y bydd gwaharddiad ar waith rheoli, a gall fod angen i chi gael caniatâd ymlaen llaw.
Deall
Dewch i adnabod a deall pam fod brwyn yn llewyrchu, a chynnal yr amodau er mwyn helpu i’w hatal rhag ymsefydlu.
- Profwch y pridd yn gyson, a dilynwch gynllun rheoli maetholion.
- Cynhaliwch system ddraenio’r cae.
- Osgowch wneud niwed i’r isbridd a strwythur y pridd.
- Cynhaliwch strwythur pridd da.
- Aseswch eich trefniadau pori. Mae gor-bori yn y gaeaf neu dan-bori yn y gwanwyn yn gallu hybu plâu.
Datrys
Gwnewch newidiadau i’ch technegau ar gyfer rheoli’r tir er mwyn creu amodau llai ffafriol i’r brwyn dyfu.
- Wella strwythur y pridd e.e. trwy aredig yr isbridd neu dwrch-ddraenio.
- Codi pH y pridd gan ddefnyddio calch.
- Gosod neu glirio hen ddraeniau yn y cae er mwyn gwella’r draenio.
- Clustnodi’r rhywogaethau o laswellt ac ystyried rhaglen ail-hau arwynebol neu gyflawn.
- Gofyn am gyngor ymgynghorydd cymwys BASIS er mwyn canfod lefelau priodol ar gyfer ffosffadau, potash a magnesiwm.
- Addasu’r trefniadau pori er mwyn osgoi tan-bori neu or-bori.
Trin
Mae defnyddio technegau trin tymhorol yn gallu darparu ateb cyflym, ond dim ond yn y tymor byr y gall y rhain ymdrin â phlâu. Gellir defnyddio dulliau trin effeithiol ar y cyd â dulliau o ddatrys a gwella amodau’r tir.
Mecanyddol - gall tocio/torri’r brwyn ychydig cyn iddynt fwrw hadau ffrwyno eu twf. Gall tocio ar ôl i’r planhigyn fwrw hadau ledu’r pla ymhellach.
Cemegol - dylech feddwl yn ofalus cyn defnyddio unrhyw chwynladdwyr am eu bod yn gallu peryglu ansawdd y dŵr, ac yn enwedig yn yr afonydd y codir dŵr yfed ohonynt.
Chwistrellau Chwyn
Opsiwn 1
- Yr opsiwn risg is. Mae’n defnyddio llai o lawer o chwynladdwr am eu bod yn chwistrellu’r frwynen yn uniongyrchol.
Sbot-Chwistrellu
Opsiwn 2
- Risg o ledu’r chwynladdwr ar y gwynt. Gellir defnyddio cemegolyn risg is. Yn addas ar gyfer plâu graddfa fach yn unig.
Chwistrellu â Thrawst
Opsiwn 3
- Risg uchel o ledu ar y gwynt. Yn defnyddio MCPA yn aml, sy’n cymryd mwy o amser o lawer i ddadelfennu yn yr amgylchedd. Opsiwn mwy costus.