Hamdden a Dŵr


Rydyn ni’n gwybod bod pobl wrth eu bodd yn yr awyr agored, ond wrth dreulio amser yn ein dalgylchoedd mae hi’n bwysig helpu i ddiogelu dŵr wyneb a’r amgylchedd ehangach.

Mae’r dirwedd brydferth yn ein dalgylchoedd dŵr yfed yn eu gwneud nhw’n fannau poblogaidd dros ben gyda phobl sy’n cymryd rhan mewn amryw o weithgareddau hamdden sy’n cyfrannu at yr economi twristiaeth lleol.

Mae gadael i bobl ac anifeiliaid anwes fwynhau’r tir a’r dŵr mewn ffordd gyfrifol yn bwysig er mwyn cael effaith gadarnhaol ar ansawdd dŵr ac yn amddiffyn cynefinoedd sensitif yn yr ardaloedd hyn.

Mae cymunedau lleol a sefydliadau wedi gwneud ymdrechion sylweddol mewn blynyddoedd diweddar i godi ymwybyddiaeth am arferion gorau er mwyn lleihau’r effaith ar ansawdd dŵr. Rydyn ni am helpu i ledu’r negeseuon hyn am arferion gorau i ymwelwyr er mwyn helpu i amddiffyn ansawdd dŵr yfed a’r amgylchedd ehangach.

Parhewch i ddarllen er mwyn dysgu sut y gall unrhyw un sy’n treulio amser yn ein dalgylchoedd chwarae eu rhan i amddiffyn ansawdd dŵr a’r amgylchedd ehangach.

Mynediad Cyfrifol at Dir

Mae gweithgareddau fel heicio, gwersylla, tanau/barbeciws a gyrru diarffordd yn gallu creu sbwriel, achosi tanau gwyllt a tharfu ar y pridd a llystyfiant. Mae hyn yn gallu achosi mwy o erydiad yn y pridd a chreu gwaddodion sy’n effeithio ar gynefinoedd dyfrol a chyrsiau dŵr lleol.

Defnyddiwch lwybrau a safleoedd dynodedig at ddibenion heicio, gwersylla neu yrru diarffordd bob tro er mwyn lleihau erydiad y pridd. Cofiwch waredu gwastraff a sbwriel mewn ffordd briodol. Peidiwch â chynnau tanau a barbeciws y tu hwnt i’r ardaloedd dynodedig. Dilynwch y Cod Cefn Gwlad bob amser.

Mynediad Cyfrifol at Ddŵr

Gall gweithgareddau fel mynd allan mewn cwch, pysgota, a nofio gyflwyno llygryddion fel olew, tanwydd a sbwriel i’r dŵr. Mae’r halogyddion hyn yn cael effaith negyddol ar ansawdd y dŵr ac maen nhw’n gallu golygu bod angen cyflawni prosesau ychwanegol yn y gweithfeydd trin i lawr y llif. Yn ogystal, defnyddiwch y cyfleusterau hylendid a ddarperir bob tro er mwyn osgoi cyflwyno pathogenau i’r dŵr gan effeithio ar ei ansawdd.

Gwaherddir nofio heb awdurdod yn ein holl gronfeydd dŵr, ac mae’n gallu bod yn beryglus dros ben - mae rhagor o fanylion yn ein Hymgyrch Un Anadl Olaf. Cynhelir sesiynau nofio dŵr agored pwrpasol ar ambell i safle ac mae’r rhain yn cael eu rheoleiddio dan oruchwyliaeth dynn ein tîm hollol hyfforddedig. Mae rhagor o fanylion yma.

Peidiwch â gadael i anifeiliaid anwes sy’n cael triniaeth am chwain a throgod fynd i’r dŵr am fod deunyddiau trin yn gallu ymledu i’r dŵr gan effeithio ar ansawdd dŵr a bioamrywiaeth.