Caru ein Llyn, Eryri Bywiol


Yn 2009, dioddefodd Llyn Padarn ordyfiant o algae gwenwynig, a achosodd ddifrod helaeth i amgylchedd y cylch a’r economi lleol. Y prif ffactor a gyfrannodd at y gordyfiant oedd bod gormod o faetholion yn y llyn.

Mae’r prosiect ‘Caru ein Llyn’ yn gweithio gyda’r cymunedau yng nghyffiniau Llyn Padarn er mwyn lleihau faint o ffosfforws sy’n mynd i’r llyn; “gall pob un ohonom ni wneud newidiadau syml yn ein gweithgareddau pob dydd er mwyn lleihau’r maetholion niweidiol sy’n cyrraedd y llyn.”. Mae’r prosiect yn codi ymwybyddiaeth yn y gymuned leol trwy raglenni addysg mewn ysgolion, deunyddiau gwybodaeth, y cyfryngau cymdeithasol a gweithgareddau cymunedol. Mae copi o ganllawiau Eryri Bywiol ar ‘Ofalu am eich tanc septig’ YMA.

“Trwy ‘Caru ein Llyn’ rydym ni am adnabod a hyrwyddo’r camau syml hynny a fydd yn cael yr effaith fwyaf llesol ar ansawdd dŵr y llyn.”

Darparodd Dŵr Cymru 100% o gostau’r prosiect o’i gronfa WFD. Ar ôl cwblhau’r prosiect cychwynnol, roedd hi’n amlwg y gellid atgyfnerthu llwyddiant y prosiect. Felly er mwyn cynnal y momentwm a datblygu ymgysylltiad y gymuned, fe gytunodd Dŵr Cymru i ddarparu cyllid ychwanegol i ymestyn y prosiect. Agwedd bellach o’r prosiect yw datblygu protocol cyfathrebu yn achos gordyfiant o algae yn y dyfodol, a hynny er mwyn lleihau’r effaith tymor hir ar yr economi lleol.

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect YMA.