Fframwaith Dwr Projectau Cyfarwyddiadau


Mae cynllun ariannu Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (WFD) Dŵr Cymru yn darparu cyfraniadau ariannol er mwyn galluogi sefydliadau dielw i gyflawni prosiectau i wella afonydd, llynnoedd a chyrsiau dŵr Cymru.

Y nod yw creu amgylchedd mwy llewyrchus ac iach i bobl a bywyd gwyllt.

Cafodd y cynllun cychwynnol gwerth £400,000 ei lansio yng Ngorffennaf 2012 i gyd-fynd â chronfa sy’n cael ei gweithredu gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Ar ôl gweld manteision y cynllun, ychwanegodd Dŵr Cymru £150,000 pellach ym mis Gorffennaf 2013. Nod y cynllun ariannu yw helpu i roi Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yr Undeb Ewropeaidd ar waith yn ardal weithredol Dŵr Cymru. Nod y gyfarwyddeb yw gwella afonydd, llynnoedd, dyfroedd morydol, a dyfroedd arfordirol yn holl aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd, a sicrhau eu hansawdd da.

Mae’r Panel Ymgynghori Amgylcheddol Annibynnol (IEAP) wedi bod yn cynghori Dŵr Cymru ar rinweddau’r prosiectau a gyflwynwyd i’w hariannu. Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr IEAP YMA.

Dyma’r prosiectau sydd wedi cael eu cymeradwyo ar gyfer cyllid hyd yn hyn:

 

Dywedodd Dr Emma Edwards-Jones o Eryri Bywiol;

“Mae Eryri Bywiol wedi bod wrth ei fodd i weithio mewn partneriaeth â Dŵr Cymru i gyflawni Caru ein Llyn, gyda chefnogaeth Adnoddau Naturiol Cymru. Trwy gydweithio, rydyn ni wedi llwyddo i ddathlu rhan brydferth a phoblogaidd o Gymru, ac wedi harneisio’r egni positif hwnnw er mwyn annog pobl i wneud newidiadau bychain yn eu ffyrdd o fyw er mwyn helpu i wella ansawdd y dŵr yn Llyn Padarn. Mae Caru ein Llyn yn brosiect unigryw ar y cyd lle mae sefydliadau preifat, cyhoeddus a’r trydydd sector yn cydweithio er mwyn cyflawni manteision amgylcheddol.”

Mae Dŵr Cymru yn parhau i wahodd ceisiadau am gyllid ar gyfer prosiectau a fydd, yn ein barn ni, yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol o ran y WFD, a’r gwerth gorau i bobl ac amgylchedd Cymru. Rhaid i’r ymgeiswyr;

  • ddisgrifio sut y mae eu cynnig yn ymwneud â gweithrediadau neu asedau Dŵr Cymru;
  • gallant fod yn gysylltiedig yn uniongyrchol â lleihau effeithiau / canlyniadau gweithredu’r asedau neu’r arllwysiadau,
  • neu gynnwys gwaith ‘i fyny’r llif’, neu waith arall a allai leihau’r baich neu’r risg sydd ynghlwm wrth y gwelliannau sydd eu hangen yn asedau Dŵr Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, i drafod syniadau ar gyfer prosiectau, neu i gael ffurflen gais, e-bostiwch wfd@dwrcymru.com.