Prosiect Nentydd Clir Abertawe, Fforwm Amgylcheddol Abertawe


Prif nod Nentydd Clir yw hyrwyddo amgylchedd dyfrol mwy glân ac iach er budd pobl, cymunedau a bywyd gwyllt, nawr ac yn y dyfodol.

Er bod ansawdd dŵr ac iechyd cyffredinol afonydd a chyrff dŵr yn Abertawe yn gwella, mae sawl un yn dal i fod yn llygredig ac yn methu ag ennill statws ‘da’ WFD.

Darparodd Dŵr Cymru gyllid ar gyfer prosiect Nentydd Clir Abertawe er mwyn lleihau faint o ddŵr wyneb sy’n llifo i’r system garthffosiaeth, ac er mwyn newid agweddau ac ymddygiad o ran yr amgylchedd dŵr. Mae’r prosiect yn cynnwys ymgysylltu’r cymunedau domestig a busnes.

Y prif ddulliau a ddefnyddir i leihau faint o ddŵr sy’n llifo i’r system garthffosiaeth yw gosod casgenni a phyllau dŵr, y mae’r naill a’r llall yn boblogaidd iawn yn y gymuned leol. Mae’r prosiect yn cysylltu â busnesau ger cyrff dŵr sy’n methu hefyd er mwyn sbarduno dialog am sut i reoli dŵr yn dda.

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect YMA.