Ein Prisiau
Bob blwyddyn rydym yn gosod ein taliadau yn unol â therfynau prisiau a bennir gan ein rheoleiddiwr Ofwat bob pum mlynedd.
Anfesuredig
Rydym yn defnyddio gwerth ardrethol eich eiddo ac yn cyfrifo'r gost am y flwyddyn ymlaen llaw.
Defnyddiwyd Gwerthoedd Ardrethol ar gyfer bil pawb hyd at 1990 ac fe'u pennwyd gan Swyddfa Brisio Cyllid y Wlad. Cafodd gwerth ardrethol ei rewi ym 1990 ac mae wedi aros yr un fath ers hynny a gall fod yn wahanol i bob cartref.
Gellir dod o hyd i fanylion ein taliadau Anfesuredig yma
Gall pob cwsmer anfesuredig ofyn am gael mesurydd wedi’i osod yn rhad ac am ddim. Gallwch wneud cais am fesurydd yma
Gallwch gael gwybod faint y gallech fod yn ei arbed trwy ddefnyddio ein cyfrifiannell amcangyfrif mesurydd yma
Mesuredig
Byddwn yn anfon bil atoch ddwywaith y flwyddyn yn seiliedig ar y dŵr rydych chi'n ei ddefnyddio.
Gellir dod o hyd i fanylion ein taliadau mesuredig yma
Taliadau Mesuredig ar Sail Asesiad
Os ydych wedi gwneud cais am fesurydd dŵr ond nad ydych wedi gallu cael un wedi'i osod, efallai y bydd gennych hawl i fynd ar Dâl Mesuredig ar Sail Asesiad. Gellir dod o hyd i wybodaeth am y taliadau yma
Mae ein Rhestr Prisiau, sy'n pennu'r prisiau rydym yn eu codi am y gwahanol wasanaethau a ddarparwn ar gyfer gwahanol fathau o gwsmeriaid, isod. Mae'r Rhestr Prisiau'n cynnwys y taliadau a godir ar ddefnyddwyr, gan gynnwys yr elfennau cyfanwerthu ac adwerthu.
Mae Taliadau Cyfanwerthu i Adwerthwyr wedi'u cynnwys yn y ddogfen Taliadau Cyfanwerthu.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am y taliadau sy'n berthnasol i Benodiadau ac Amrywiadau Newydd (NAV) yma.
Rydym hefyd yn cyhoeddi datganiadau sicrwydd i gadarnhau bod ein Bwrdd yn fodlon bod systemau a phrosesau priodol ar waith i sicrhau bod yr wybodaeth yn ein cyhoeddiadau taliadau yn gywir ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol.
Os oes angen y dogfennau arnoch mewn fformat gwahanol fel print bras neu braille, ffoniwch ein tîm cymorth arbenigol ar 0330 0413394 a fydd yn trefnu copi mewn fformat sy’n gweithio i chi.