Newid Hinsawdd
Mae'r hinsawdd yn newid ar draws y byd i gyd, ac mae hyn yn achosi problemau i bobl ym mhob man.
Effeithiau'r Newid yn yr Hinsawdd
Mae newid hinsawdd yn golygu y byddwn ni’n gweld stormydd glaw trymach, a hynny’n amlach, a gallai hynny achosi mwy o lifogydd a mwy o ddŵr yn ein carthffosydd. Mae disgwyl i’r hafau fod yn fwy poeth a sych, a allai olygu bod llai o ddŵr ar gael, er bod ei angen ar ragor o bobl.
GlawLif
Yn Dŵr Cymru, rydyn ni’n dod o hyd i ffyrdd clyfar o atal gormod o ddŵr glaw rhag mynd i’n carthffosydd. Mae hyn yn helpu i atal llifogydd ac yn cadw popeth yn gweithio fel y dylai. Rydyn ni’n ceisio dal y glaw, ei symud i rywle arall, neu arafu ei lif cyn iddo gyrraedd y pibellau.
Dyma gipolwg ar rai o’r pethau rydyn ni wedi eu gwneud yn barod trwy ein gwaith GlawLif, a beth yw’r syniad y tu ôl i’r peth.
Deunydd a gwybodaeth i’w lawrlwytho
- Stori GlawLif
- GlawLif (PDF)
Os ydych chi'n awyddus i ddysgu rhagor am newid hinsawdd, dewch i'n gweld ni yn un o'n canolfannau darganfod.