Dŵr Glân
Rydym yn benthyg dŵr o'r gylchred dŵr ac yn ei storio mewn cronfeydd dŵr. Mae dŵr o gronfeydd dŵr ac afonydd yn cael ei drin mewn gweithfeydd trin, a'i gludo i'ch cartref trwy bibellau yn barod i chi ei ddefnyddio.
Oeddech chi'n gwybod?
- Bod dŵr yn gorchuddio 75% o'r ddaear.
- Er y gall person fyw am fwy na mis heb fwyd, ni all fyw mwy na rhyw wythnos heb ddŵr.
- Dŵr yw 75% o ymennydd person, a dŵr yw 75% o goeden fyw.
- Rydyn ni'n defnyddio 3 gwaith cymaint o ddŵr nawr nag yr oedden ni ym 1950.
Diogelwch Cronfeydd Dŵr
Llyn artiffisial sy'n cael ei ddefnyddio i storio dŵr glaw yw cronfa ddŵr. Mae 65 o gronfeydd dal a chadw gennym yn rhai o ardaloedd mwyaf prydferth Cymru.
Mae dŵr yn hynod o ddiddorol! Gall fod yn hwyl, ond mae'n gallu bod yn beryglus hefyd. Cronfeydd Dŵr. Llynnoedd. Afonydd. Camlesi. Y môr. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel o gwmpas dŵr yn yr adran hon.
Deunydd a gwybodaeth i’w lawrlwytho:
- Sut rydyn ni'n glanhau eich dŵr yfed (PDF)
- Ble mae'ch dŵr yn cael ei lanhau (PDF)
- Taith yr Afon (PDF)
- Pam na ddylech chi BYTH nofio mewn cronfa ddŵr (PDF)
Os ydych chu'n awyddus i ddysgu rhagor am drin dŵr glân, galwch heibio i un o'n canolfannau darganfod.