Dod yn Aelod
Nid oes unrhyw gyfranddeiliaid gennym, ond yn hytrach mae gennym ryw 56 o Aelodau annibynnol sy'n cyflawni rôl craffu a llywodraethu hanfodol.
Pwy ydym ni?
Mae Dŵr Cymru yn gwmni dielw sy’n unigryw yn y sector cyfleustodau. Mae ein rhiant-gwmni, Glas Cymru Holdings Cyfyngedig, yn gwmni a ffurfiwyd at y diben o berchen ar Dŵr Cymru, ei ariannu a’i reoli.
Nid oes gennym gyfranddalwyr, ond yn hytrach mae gennym tua 60 o Aelodau annibynnol sy’n cyflawni swyddogaeth graffu a llywodraethu hanfodol.
Mae unrhyw arian dros ben yn cael ei gadw er budd ein cwsmeriaid ac yn cael ei ail-fuddsoddi i ofalu am eich dŵr a’r amgylchedd.
Yr hyn y byddwch yn ei wneud
Fel Aelod, byddwch yn...
- Dwyn ein Bwrdd Cyfarwyddwyr i gyfrif am berfformiad y cwmni
- Helpu i sicrhau safonau uchel o lywodraethu corfforaethol
- Cyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn (gan gynnwys ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol) gyda dau gyfarfod rhanbarthol ychwanegol yn cael eu cynnal ledled y rhannau o Gymru a Lloegr yr ydym yn eu gwasanaethu
Yr hyn y byddwch yn ei gael
- Mae’r swyddogaeth yn ddi-dâl – ond bydd eich treuliau’n cael eu had-dalu
- Cyfle i helpu i lunio llywodraethiant un o gwmnïau mwyaf Cymru
- Cyfle i helpu i oruchwylio gwaith un o’n gwasanaethau cyhoeddus mwyaf hanfodol
- Cyfle i wneud cysylltiadau ag Aelodau eraill a datblygu’n bersonol a chael mewnwelediad ar y diwydiant dŵr
I adlewyrchu’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu ledled Cymru ac mewn rhannau o Loegr, rydym yn awyddus i benodi Aelodau o wahanol oedrannau â sgiliau, cefndiroedd a phrofiadau amrywiol. Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr yn y diwydiant dŵr – dim ond eich bod wedi ymrwymo i lwyddiant y diwydiant hanfodol hwn yn ein cymunedau a chynigir cefnogaeth i unrhyw Aelodau sy’n newydd i lywodraethu drwy’r rhaglen sefydlu a chyfarfodydd rhanbarthol. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan ymgeiswyr i fod yn Aelodau o rannau o’n hardal gyflenwi sydd wedi’u tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys Gogledd Cymru, Henffordd a Chaer.
Dyma’r hyn sydd gan ein Haelodau presennol i’w ddweud am y swyddogaeth:
Ceisiadau
I wneud cais, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn esbonio pam rydych yn dymuno bod yn Aelod o Glas i company.secretary@dwrcymru.com erbyn dydd Llun 9 Medi 2024.
Ynghyd â’ch cais, dylech hefyd gwblhau a dychwelyd y ffurflen Cyfle Cyfartal sydd wedi’i hatodi a fydd yn cael ei defnyddio at ddibenion monitro yn unig.
Cyfweliadau a Dyddiadau Allweddol
Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad personol ddydd Llun 14 Hydref neu ddydd Mercher 23 Hydref. Bydd lleoliad y cyfweliadau yn cael ei benderfynu gan nifer y ceisiadau a dderbynnir o’r ardal honno.
Bydd penodiadau’n cael eu gwneud tua diwedd mis Hydref a bydd diwrnod cynefino yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 5 Tachwedd cyn i chi gael eich gwahodd i’ch cyfarfod Aelodau cyntaf ddydd Gwener, 6 Rhagfyr 2024.