Lles Ymrwymiad
Ein Dyfodol: Ymrwymiad Dŵr Cymru i Les
Wrth ddatblygu ein Cynllun Busnes ar gyfer 2020-25, roeddem yn ymwybodol o’r posibiliadau ar gyfer ein hamcanion ein hunain ar gyfer y pum mlynedd nesaf a thu hwnt er mwyn cyfrannu’n sylweddol at y saith nod a gynhwysir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 — a oedd yn gosod dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru i ystyried effaith hirdymor eu penderfyniadau, ac i gydweithio i fynd i’r afael a phroblemau parhaus fel tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd.
Er nad yw’r Ddeddf yn gosod unrhyw ddyletswyddau statudol ar Ddŵr Cymru ei hun, rydym ni eisiau cydweithio a llawer o sefydliadau partner yng Nghymru ac yn Lloegr i sicrhau bod ein gweithredoedd yn esgor ar y buddion llesiant mwyaf posib.
Bydd cyhoeddi’r ymrwymiadau hyn ar ddechrau cyfnod buddsoddi nesaf Dŵr Cymru yn galluogi ein cwsmeriaid, ein Grŵp Herio a’n partneriaid eraill i farnu drostynt eu hunain pa gynnydd rydym yn ei wneud tuag at ein nodau llesiant, ac i ystyried sut y gallant weithio gyda ni yn yr ymdrech gyffredin hon.