Mwy o amser i'r cyhoedd roi eu barn ar Strategaeth Cyflenwi Dŵr Cwm Taf gan Dŵr Cymru
16 Rhagfyr 2025
Bydd trigolion yn cael mwy o amser i roi eu barn ar Strategaeth Cyflenwi Dŵr Cwm Taf Dŵr Cymru – prosiect seilwaith mwyaf y cwmni erioed.
Bydd cymunedau lleol, rhanddeiliaid a chwsmeriaid yn gallu cyflwyno eu hadborth ar y cynlluniau tan ddydd Llun 5 Ionawr 2026, i ganiatau fwy o bobl leisio eu barn ar y strategaeth.
Mae'r cwmni ar hyn o bryd yn cynnal dau ymgynghoriad ar eu cynigion i fuddsoddi mewn gweithfeydd trin dŵr newydd a gwydn a chyfleusterau cefnogol.
Bydd Dŵr Cymru hefyd yn cynnal cyfarfod cyhoeddus ychwanegol ar ddydd Iau 18 Rhagfyr 2025 yn Ysgol Uwchradd Pen y Dre, Y Gurnos, Merthyr Tudful, yn dechrau am 3pm.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniad gan Dŵr Cymru ar y cynigion a bydd yn rhoi cyfle i drigolion gwrdd â thîm y prosiect a gofyn cwestiynau cyn i Dŵr Cymru gyflwyno ei gais cynllunio.
Mae un cynnig yn cynnwys adeiladu gweithfa drin dŵr newydd yn Fferm Dan-y-Castell ym Merthyr Tudful, ger yr A465, Ffordd Blaenau'r Cymoedd, ynghyd â gorsaf bwmpio dŵr newydd ym Mhontsticill, i gymryd lle’r Gweithfeydd Trin Dŵr Pontsticill presennol.
Mae'r cynnig arall yn cynnwys uwchraddio'r Gweithfeydd Trin Dŵr Llwyn-onn presennol, a fydd yn caniatáu ar gyfer datgomisiynu Gweithfeydd Trin Dŵr Cantref, a adeiladwyd yn 1926.
Gyda'i gilydd, bydd y cynlluniau'n moderneiddio'r rhwydwaith dŵr yfed ar draws De Cymru, gan ddisodli cyfleusterau trin canrif oed a chynyddu capasiti storio dŵr glân.
Bydd angen i Dŵr Cymru gyflawni'r ddau gynnig er mwyn cyflawni eu dyletswydd gyfreithiol i uwchraddio'r prosesau trin dŵr yn yr ardal. Mae'r buddsoddiad hwn yn gyfle i ddiogelu gwasanaethau dŵr yn yr ardal yn y dyfodol, gan sicrhau cyflenwad gwydn a chynaliadwy o ddŵr yfed glân a diogel i bobl ar draws Merthyr Tudful a'r ardaloedd cyfagos.
Lansiwyd dau ymgynghoriad statudol cyn cyflwyno cais cynllunio ym mis Hydref 2025 er mwyn casglu barn trigolion a rhanddeiliaid lleol ar gynlluniau'r cwmni, cyn i’r ceisiadau cynllunio cael eu cyflwyno i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Dywedodd Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr Dŵr, Cynllunio Asedau a Chyflenwi Cyfalaf Dŵr Cymru: "Rydyn ni'n cydnabod pwysigrwydd y prosiect hwn i gymunedau lleol ac rydyn ni wedi bod yn falch o gwrdd â chymaint o bobl yn y digwyddiadau cyhoeddus rydyn ni wedi'u cynnal hyd yma. Mae'r cyfarfodydd hyn wedi bod yn gyfle i ni glywed beth mae'r trigolion lleol yn ei feddwl o'n cynlluniau.
“Rydyn ni'n ymestyn yr ymgynghoriad am fis ychwanegol gan ein bod ni am sicrhau bod gan bawb gyfle i ddweud eu dweud ar y cynigion. Rydyn ni'n awyddus iawn i glywed gan ein cwsmeriaid a'r cymunedau lleol ynglŷn â sut y gallwn ni uchafu buddion amgylcheddol a chymunedol a lleihau aflonyddwch".
Gall aelodau’r cyhoedd adolygu deunyddiau’r ymgynghoriad a chyflwyno eu sylwadau trwy fynd i: dwrcymru.com/strategaethcwmtaf.