Strategaeth Cyflenwad Dŵr Cwm Taf


Diolch am ymweld â'n tudalen sy’n nodi cynlluniau ar gyfer diogelu ein cyflenwad dŵr i'n cwsmeriaid ar draws Merthyr Tudful a'r cyffiniau ar gyfer y dyfodol. Bydd ein gweledigaeth, sy’n cynnwys gwaith trin dŵr newydd a chadarn, yn gwasanaethu dŵr yfed ffres a glân i’n cwsmeriaid am ddegawdau i ddod.

Rydym yn datblygu cynllun i adeiladu gwaith trin dŵr newydd a chyfleusterau cysylltiedig i ddisodli ein gwaith presennol yn Llwyn Onn, Cantref a Phontsticill sy'n agosáu at ddiwedd eu hoes weithredol. Mae hyn yn eu gwneud yn fwy heriol a chostus i'w gweithredu, a dyna pam mae angen ateb newydd ac arloesol fel bod cyflenwadau dŵr i gwsmeriaid yn cael eu diogelu ar gyfer y dyfodol.

Yn ogystal â darparu prosesau trin dŵr newydd a gwell, bydd y gwaith newydd hefyd yn darparu digon o le i storio dŵr i ddarparu ar gyfer y twf yn y boblogaeth yn y dyfodol a hefyd yn gwella’i allu i wrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Bydd y prosiect yn sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu cyflenwad o'r radd flaenaf i gwsmeriaid bob tro y byddant yn agor eu tapiau.

Ein cynigion sy'n dod i'r amlwg

Mae ein cynigion sy'n dod i'r amlwg yn cynnwys:–

  • Cyfleusterau gwaith trin dŵr newydd ger Merthyr Tudful.
  • Piblinellau dŵr crai newydd i gario dŵr o gronfeydd dŵr presennol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i'r gwaith trin dŵr newydd.
  • Piblinellau dŵr wedi'i drin newydd i gario dŵr wedi'i drin o'r gwaith trin dŵr newydd i'r rhwydwaith presennol ac ymlaen i gwsmeriaid.
  • Gorsafoedd pwmpio newydd ac wedi'u huwchraddio i roi hwb i bwysau dŵr a sicrhau y gall dŵr gyrraedd ein cwsmeriaid.

Mae angen y cyfleusterau newydd i ddarparu’r canlynol:

  • Prosesau trin dŵr newydd a gwell i ddarparu dŵr o ansawdd uchel yn gyson.
  • Capasiti storio dŵr ychwanegol er mwyn sicrhau bod gennym gyflenwad dibynadwy.
  • Cyfleusterau sydd wedi'u diogelu ar gyfer y dyfodol i ddarparu ar gyfer twf yn y boblogaeth ac i wrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Diogelu'r Amgylchedd

Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb dros ddiogelu'r amgylchedd o ddifrif, a dyna pam rydym wedi bod yn cynnal nifer o arolygon er mwyn sicrhau bod y prosiect – os rhoddir sêl bendith iddo – yn cael yr effaith leiaf posibl ar yr amgylchedd lleol. Mae'r arolygon hyn yn cynnwys rhai ecolegol ac archeolegol, er mwyn i ni allu deall yn llawn nodweddion yr ardaloedd a gynigir ar gyfer y gwaith.

Rydym hefyd yn cymryd gofal mawr i sicrhau bod ein cynlluniau'n cael cyn lleied o effaith â phosibl ar yr amgylchedd lleol, gan gynnwys ystyried ymddangosiad gweledol ynghylch sut olwg sydd ar adeiladau a sut maent yn rhan o’r dirwedd.

Beth sy'n digwydd nawr?

Cynhaliwyd cyfnod ymgynghori anstatudol o chwe wythnos i gyflwyno ein syniadau dylunio a’n meddyliau cynnar i’r gymuned leol. Cynhaliwyd y cyfnod ymgynghori rhwng 28 Chwefror 2022 ac 8 Ebrill 2022, ac roedd yn cynnwys cynnal digwyddiadau gwybodaeth yn y gymuned leol. Gwnaethom hefyd lansio ystafell arddangos rithwir, a gellir ei gweld o hyd yma.

Yn ystod ein cyfnod ymgynghori anstatudol, gofynnwyd i bobl roi adborth i ni ar ein cynlluniau cychwynnol, a hoffem ddiolch i'r rhai a fanteisiodd ar y cyfle i wneud hynny. Roedd yr adborth a gawsom yn ddefnyddiol iawn, ac ers i ni gynnal yr ymgynghoriad anstatudol, rydym wedi bod wrthi’n adolygu’r adborth er mwyn sicrhau bod hyn yn helpu i lywio ein cynlluniau, lle y bo’n bosibl.

Nodwyd gennym yn wreiddiol ein bod yn awyddus i gyflwyno ein cais tuag at ddiwedd 2022. Fodd bynnag, rydym wedi penderfynu cymryd rhywfaint o amser ychwanegol er mwyn sicrhau y rhoddir ystyriaeth lawn i gydbwyso adborth y gymuned leol â’r angen i adeiladu seilwaith ddŵr newydd cyn cwblhau ein cynlluniau.

Ym mis Mawrth 2023, anfonwyd llythyr diweddariad at gwsmeriaid yn ardal Merthyr Tudful i esbonio’r sefyllfa bresennol o ran ein cynlluniau a phryd y byddwn yn disgwyl rhannu rhagor o wybodaeth. Mae copi o’r llythyr ar gael i’w ddarllen yma.

Yn dilyn ein hymgynghoriad anstatudol, gwnaethom lunio dogfen Cwestiynau Cyffredin sy'n ateb y cwestiynau a ofynnwyd amlaf. Dyma ddolen i'r ddogfen, a gobeithiwn y bydd o ddefnydd i helpu chi i ddeall ein cynlluniau yn well.

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau yn y cyfamser, cysylltwch â ni drwy e-bostio cwmtafproject@dwrcymru.com.