Mike Davis i adael ei swydd fel Prif Swyddog Cyllid Dŵr Cymru


10 Ebrill 2025

Heddiw mae Dŵr Cymru, y cwmni nid-er-elw, yn cyhoeddi y bydd Mike Davis yn gadael ei rôl fel Prif Swyddog Cyllid (CFO) a Chyfarwyddwr Gweithredol ar y Bwrdd ar 30 Mehefin 2025 ar ôl dros 20 mlynedd o wasanaeth i’r cwmni.

Ymunodd Mike â’r cwmni yn 2001 ac mae e wedi cyflawni nifer o rolau, gan gynnwys Rheolwr Ariannol, Cyfarwyddwr Rheoleiddio, ac ers 2020, rôl Prif Swyddog Cyllid.

Dywedodd Peter Perry, Prif Weithredwr y Grŵp: “Ar ran fy holl gydweithwyr ar draws Dŵr Cymru, hoffwn ddiolch i Mike am ei gyfraniad sylweddol yn ystod ei gyfnod hir gyda ni fel aelod o’r Tîm Gweithredol a’n Bwrdd yn ei rôl Prif Swyddog Cyllid ers 2020. Mae effaith Mike ar Ddŵr Cymru wedi bod yn aruthrol wrth ein harwain trwy bedair proses adolygu prisiau a diogelu gwerth dros £3bn o gyllid i ariannu ein rhaglenni buddsoddi uchelgeisiol ers 2020. Mae Mike wedi dangos arweinyddiaeth gadarn ar draws y busnes, ac rydyn ni’n ddiolchgar dros ben am ei ddiwydrwydd, ei angerdd, ei waith caled a’i effaith.”

Ychwanegodd Jane Hanson CBE, Cadeirydd y Bwrdd: “Mae Mike wedi chwarae rhan allweddol yn Dŵr Cymru ers dros 20 mlynedd. Yn ogystal â’i gyngor cadarn a doeth i’r Bwrdd, mae ei arweinyddiaeth dros y swyddogaeth Cyllid a’i angerdd dros bwrpas a gwerthoedd Dŵr Cymru wedi bod yn amlwg. Mae’r Bwrdd wedi gwerthfawrogi ymrwymiad a chyflawniadau Mike yn fawr iawn, a hoffem ddiolch o waelod calon iddo am ei gyfraniad sylweddol at y busnes.”

Wrth i’r cwmni ddechrau chwilio am olynydd i Mike, bydd Samantha James yn parhau yn ei rôl fel CFO dros dro a gychwynnodd ym mis Tachwedd 2024.