Ar ôl tair blynedd o wasanaeth fel Cyfarwyddwr Anweithredol i Glas Cymru, y cwmni nid-er-elw sy’n berchen ar Dŵr Cymru, mae Lila Thompson wedi penderfynu ymddiswyddo o’r Bwrdd ar unwaith.
Mae hynny oherwydd gofynion cynyddol ei swydd fel Prif Weithredwr British Water a’i rolau eraill.
Dywedodd Lila: “Rydw i wedi mwynhau gweithio gyda thîm ymroddgar Dŵr Cymru trwy gyfnod ymestynnol iawn i’r sector yn fawn iawn. Gyda diwygiadau helaeth ar y gorwel, ynghyd ag ymrwymiadau cynyddol, nawr yw’r amser gorau i mi gamu nôl. Mae gen i bob ffydd y bydd Dŵr Cymru’n llewyrchu yn y blynyddoedd sydd i ddod o dan arweiniad Prif Weithredwr newydd y cwmni, Roch Cheroux, a fydd yn adeiladu ar sylfaen cryf Pete Perry o arweinyddiaeth gadarn.”
Dywedodd Cadeirydd Glas Cymru, Jane Hanson CBE: “Mae Lila wedi rhannu cyfoeth o brofiad, dirnadaeth a gwybodaeth sydd wedi bod o fudd mawr i’r cwmni. Ar ran y Bwrdd, hoffwn ddiolch iddi am ei chyfraniad dros y tair blynedd diwethaf, gan ddymuno pob llwyddiant iddi at y dyfodol.”