Ymgynghoriad yn dechrau ar brosiect seilwaith mwyaf erioed Dŵr Cymru


30 Hydref 2025

Mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi lansio ymgynghoriad ar y prosiect seilwaith mwyaf yn hanes y cwmni – Strategaeth Cyflenwi Dŵr Cwm Taf.

Bydd y cynlluniau’n moderneiddio’r rhwydwaith dŵr yfed ar draws y de trwy ddisodli cyfleusterau trin canrif oed, a chynyddu’r capasiti ar gyfer storio dŵr glan.

Mae cynigion Dŵr Cymru’n cynnwys adeiladu gweithfeydd trin dŵr newydd yn Fferm Dan-y-Castell, Merthyr Tudful ger yr A465, Ffordd Blaenau’r Cymoedd. Mae’r cynlluniau’n cynnwys creu gorsaf bwmpio newydd ym Mhontsticill hefyd i gymryd lle’r gweithfeydd trin dŵr sydd ar y safle ar hyn o bryd.

Mae’r cynigion yn cynnwys uwchraddio Gweithfeydd Trin Dŵr Llwyn-onn, a fydd yn caniatáu ar gyfer dadgomisiynu Gweithfeydd Trin Dŵr Cantref a adeiladwyd nôl ym 1926.

Bydd angen i Ddŵr Cymru gyflawni’r ddau gynnig er mwyn cyflawni eu dyletswydd gyfreithiol i uwchraddio’r prosesau trin dŵr yn yr ardal.

Mae’r buddsoddiad yma’n gyfle i ddiogelu gwasanaethau dŵr yn yr ardal at y dyfodol, gan sicrhau cyflenwad gwydn a chynaliadwy o ddŵr yfed glân a diogel ar gyfer bron i hanner sylfaen cwsmeriaid y cwmni.

Lansiwyd dau ymgynghoriad statudol cyn cyflwyno cais cynllunio er mwyn casglu safbwyntiau trigolion a rhanddeiliaid lleol ar gynlluniau’r cwmni cyn i’r ceisiadau cynllunio gael eu cyflwyno i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Dywedodd Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr Dŵr, Cynllunio Asedau a Chyflawni Cyfalaf Dŵr Cymru: “Rydyn ni’n wynebu her ddifrifol o ran diogelwch dŵr yng Nghymru. Nid yw seilwaith sy’n heneiddio’n gallu ymdopi â sialensiau modern - mae’r strategaeth unwaith mewn cenhedlaeth yma’n gyfle i newid hynny.

“Rhaid i ni sicrhau y gallwn barhau i ddarparu cyflenwad diogel a dibynadwy o ddŵr yfed ar gyfer ein cwsmeriaid bob un dydd o’r flwyddyn yn wyneb newid hinsawdd, twf yn y boblogaeth a seilwaith sy’n heneiddio.

“Mater o droi system ganrif oed yn ateb ar gyfer yr 21ain ganrif yw hi. Mae’r ymgynghoriad ar y cynlluniau bellach wedi agor, ac rydyn i am glywed eich safbwyntiau chi.

“Rydyn ni’n awyddus i glywed gan ein cwsmeriaid a chymunedau lleol am sut y gallwn sicrhau’r manteision amgylcheddol a chymunedol gorau posibl a chadw’r anghyfleustra i’r lefel isaf bosibl.”

Mae’r ddau ymgynghoriad yn gyfle i’r gymuned leol, rhanddeiliaid a chwsmeriaid adolygu’r cynlluniau a dogfennau drafft y cais cynllunio, a chyflwyno sylwadau arnynt cyn i’r cwmni gyflwyno’i gais cynllunio.

Gall aelodau’r cyhoedd adolygu deunyddiau’r ymgynghoriad a chyflwyno eu sylwadau trwy fynd i: dwrcymru.com/strategaethcwmtaf

Cynhelir digwyddiadau cymunedol hefyd er mwyn rhoi cyfle i drigolion gwrdd â thîm y prosiect a chlywed rhagor am y cynlluniau.

Cynhelir y rhain:

  • Dydd Iau, 6 Tachwedd — 3pm-6pm, Neuadd Goffa Pontsticill CF48 2RU
  • Dydd Iau 13 Tachwedd — 2pm-7pm, Neuadd Gymunedol Cefncoedycymer, CF48 2NA
  • Dydd Mercher 26 Tachwedd — 3pm-6pm, Gwesty’r Nant Ddu Lodge & Spa, CF48 2HY
  • Dydd Iau 4 Rhagfyr — 1pm-5:30pm, Llyfrgell Ganolog Merthyr Tudful, CF47 8AF