Dŵr Cymru Welsh Water yn lansio Map Gorlifoedd Storm


15 Mai 2024

Fel rhan o’i ymrwymiad i fod yn agored ac yn dryloyw ynghylch perfformiad ei orlifoedd storm, mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi datblygu map rhyngweithiol sy’n darparu gwybodaeth bron â bod mewn amser real am weithrediad ei orlifoedd storm.

Aeth fersiwn beta’r map yn fyw ar 1 Chwefror 2024, ac mae hi wedi bod yn destun tri mis prawf cyn yr achlysur lansio cyhoeddus sy’n cyd-daro â dechrau’r tymor ymdrochi yn y DU yr wythnos hon.

Offeryn digidol yw’r map gorlifoedd storm a gellir ei gyrchu trwy wefan Dŵr Cymru yn www.dwrcymru.com/mapgorlifoeddstorm. Mae’n caniatáu i gwsmeriaid a defnyddwyr dyfroedd Cymru ganfod a yw’r offer sy’n monitro synwyryddion gorlif Dŵr Cymru’n dangos eu bod yn gweithredu, ddim yn gweithredu neu a ydynt wedi gweithredu’n ddiweddar (o fewn y 24 awr diwethaf).

Gellir cyrchu’r map ar ddyfeisiau symudol a dyfeisiau eraill, ac mae’n darparu gwybodaeth ddefnyddiol arall am bob ased, fel dyddiad ac amser y cofnod diwethaf o weithrediad y gorlif, ac unrhyw broblemau sy’n hysbys o ran cynnal-a-chadw’r gorlif.

Mae’r map yma’n adeiladu ar y gwaith y mae Dŵr Cymru’n ei gyflawni i sicrhau ei fod yn agored ac yn dryloyw ynghylch gweithrediad ei orlifoedd storm. Y gobaith yw y bydd y map, ynghyd ag unrhyw offer ac ystyriaethau cynllunio eraill - fel manylion y tywydd, amserau’r llanw ac ymweld â thudalen gwe dyfroedd ymdrochi Cyfoeth Naturiol Cymru, yn helpu nofwyr i wneud penderfyniadau gwybodus cyn mynd i’r dŵr.

Fodd bynnag, nid yw’r map yn cynnig gwybodaeth am ansawdd dŵr, am fod yna nifer o bethau sydd y tu hwnt i reolaeth Dŵr Cymru sy’n gallu effeithio ar ansawdd dŵr ymdrochi ac afonol. Mae hyn yn gallu cynnwys dŵr sy’n llifo oddi ar dir gwledig, dŵr ffo o briffyrdd a systemau carthffosiaeth preifat.

Datblygwyd map gorlifoedd storm Dŵr Cymru gyda mewnbwn gwerthfawr gan ddarpar-ddefnyddwyr. Ymgynghorwyd â dros gant o unigolion a sefydliadau wrth ddylunio’r map. Mae saithdeg o gyfranogwyr sy’n cynrychioli cyrff rheoliadol, grwpiau nofio dŵr agored, grwpiau ymgyrchu, awdurdodau lleol a chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi mynychu sesiynau demo, ac mae eu hadborth wedi helpu i lywio’r dyluniad yn ystod y broses ddatblygu.

Gwnaed cyhoeddiad i’r grŵp fod fersiwn beta’r map yn mynd yn fyw ar 1 Chwefror, ac mae hyn wedi rhoi cyfle i’r aelodau ddefnyddio, profi a rhoi adborth ar y map cyn ei lansio i’r cyhoedd.

Mynychodd cynrychiolwyr y rhwydwaith nofwyr dŵr agored y Bluetits un o’r sesiynau arddangos cynnar, ac mae eu haelodau wedi bod yn defnyddio’r map dros y tri mis diwethaf. .

Dywedodd Siân Richardson o’r Bluetits said: “Mae’r Bluetits yn croesawu’r ffaith fod Dŵr Cymru’n lansio’r map rhyngweithiol yma sy’n darparu gwybodaeth gyfredol i nofwyr a dipwyr am weithgarwch ei orlifoedd storm. Mae gwybodaeth o’r math yma’n helpu nofwyr dŵr agored fel ni i wneud penderfyniadau cyn mynd i’r dŵr.

“Fel sefydliad byd-eang, rydyn ni’n gobeithio’n fawr y daw hyn yn norm i gwmnïau dŵr fel bod yna fwy o dryloywder am berfformiad gorlifoedd storm ac fel bod eu gweithrediad yn fwy gweladwy i holl ddefnyddwyr y dŵr.”

Ar hyn o bryd, mae map gorlifoedd storm Dŵr Cymru’n dangos gweithgarwch yr asedau gorlif storm sy’n agos at ddyfroedd ymdrochi dynodedig, safleoedd nofio nad ydynt yn ddynodedig ond a glustnodwyd trwy arolwg nofio Dŵr Cymru, a safleoedd pysgod cregyn. Mae’r dull yma o weithredu’n bodloni ymrwymiadau rheoliadol amgylcheddol Dŵr Cymru.

Bydd mwy a mwy o orlifoedd storm mewndirol yn cael eu hychwanegu at y map fesul tipyn dros y misoedd nesaf nes bod pob un o 2,300 o asedau Dŵr Cymru wedi eu cynnwys erbyn Mawrth 2025.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Gwastraff Dŵr Cymru, Steve Wilson: “Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw’n dyfroedd arfordirol a’n hafonydd i’n cwsmeriaid, ac rydyn ni’n cymryd ein rôl wrth helpu i amddiffyn eu hansawdd o ddifri calon. Am ein bod ni wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw, rydyn ni am sicrhau bod ein gwybodaeth ar gael yn hwylus, felly rydyn ni wedi datblygu’r map gorlifoedd storm sy’n caniatáu i gwsmeriaid weld beth mae gorlif storm yn ei wneud, a hynny bron a bod mewn amser real.

“Mae lansio’r ap digidol newydd yma’n gam pwysig wrth rannu gwybodaeth gyda’n cwsmeriaid a defnyddwyr dŵr yng Nghymru, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd yr offeryn yma’n ddefnyddiol wrth eu galluogi i weld pryd mae gorlifoedd storm yn gweithredu.

“Rydyn ni’n ddiolchgar am y cymorth a’r adborth rydyn ni wedi ei gael gan amrywiaeth o sefydliadau ac unigolion yn ystod camau dylunio, datblygu a phrofi’r prosiect yma - mae hyn wedi ein cynorthwyo ni i sicrhau bod y map yn hwylus ac yn hygyrch.”