Cyfle olaf i gymryd rhan yng nghynigion cynnar Dŵr Cymru ar gyfer gweithfeydd trin dŵr Merthyr
5 Medi 2024
Mae ymgynghoriad Dŵr Cymru ar ei gynigion ar gyfer gweithfeydd trin dŵr newydd ym Merthyr Tudful yn dod i ben ddydd Llun 9 Medi.
Mae ymgynghoriad Dŵr Cymru ar ei gynigion ar gyfer gweithfeydd trin dŵr newydd ym Merthyr Tudful yn dod i ben ddydd Llun 9 Medi.
Ar hyn o bryd mae’r cwmni dŵr nid-er-elw yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ei gynigion diwygiedig i fuddsoddi mewn gweithfeydd trin dŵr newydd a chydnerth – gan ddiogelu’r cyflenwad dŵr yfed yn y dyfodol i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Mae’r cwmni’n galw ar y cyhoedd i ymateb ac i roi eu barn ar y cynnig i uwchraddio Gwaith Trin Dŵr Llwyn-onn a datblygu gwaith trin dŵr newydd yn Fferm Dan-y-Castell, wrth ymyl Ystad Ddiwydiannol Pant. Maent yn croesawu adborth gan gynifer o bobl â phosibl i helpu i lunio’r cynigion ymhellach, cyn cam nesaf yr ymgynghoriad.
Gan fod Dŵr Cymru yn awyddus i gydweithio â’r gymuned leol, mae cyfle hefyd i anfon eich syniadau ar gyfer prosiectau y gall eu cefnogi gan gynnwys mentrau sydd o fudd yn lleol i’r amgylchedd a bioamrywiaeth.
Mae angen y buddsoddiad gan fod tri gwaith trin dŵr yn yr ardal, Pontsticill, Cantref a Llwyn-onn, yn heneiddio ac yn agosáu at ddiwedd eu hoes weithredol. Mae dyletswydd gyfreithiol newydd wedi’i gosod ar Dŵr Cymru gan yr Arolygiaeth Dŵr Yfed i adeiladu gwaith trin dŵr newydd.
Mae’r cynigion diwygiedig wedi dod yn sgil adolygiad 2 flynedd gan y cwmni i ddatblygu datrysiad arall i’r cynnig gwreiddiol y gwnaethant ymgynghori arno gyda’r gymuned leol yn 2022.
Roedd yr adborth a gafwyd, yn 2022, o gymorth wrth lunio’r cynigion newydd, ac nid yw cynnig blaenorol Fferm y Gurnos yn cael ei ystyried erbyn hyn, ac nid oes angen pibellau newydd – na’r tarfu cysylltiedig mwyach ym Mharc Cyfarthfa, Georgetown a’r Gurnos.
Dywedodd Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr Dŵr, Cynllunio Asedau a Chyflenwi Cyfalaf Dŵr Cymru:
"Roeddem yn gwerthfawrogi’n fawr yr adborth a gawsom yn dilyn ein hymgynghoriad yn 2022, rydyn ni nawr yn falch o rannu’r cynnydd yr ydym wedi’i wneud a gofyn am farn y gymuned leol, sy’n werthfawr iawn, a fydd yn ein helpu ni i lunio’n cynigion ymhellach cyn iddyn nhw gael eu cwblhau.
Mae’r prosiect hwn yn hanfodol er mwyn i ni barhau i ddarparu cyflenwad diogel a dibynadwy o ddŵr yfed i’n cwsmeriaid yn yr ardal am bris fforddiadwy. Rydyn ni eisiau gweithio mewn partneriaeth â’r gymuned a rhanddeiliaid, nid yn unig i fuddsoddi yn y rhwydwaith dŵr, ond hefyd yn y gymuned leol.
Rydyn ni’n annog eich cydweithrediad a’ch adborth ac rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed eich syniadau."
Y cam nesaf fydd ymgynghoriad statudol, a’r disgwyl ar hyn o bryd yw y bydd yn ddechrau yn gynnar yn 2025, lle bydd y gymuned leol unwaith eto’n cael cyfle i ddweud eu dweud ar y cynlluniau manylach cyn i Dŵr Cymru gyflwyno ceisiadau cynllunio.
Mae Dŵr Cymru wedi datblygu ystafelloedd ymgynghori rhithwir gyda’r holl wybodaeth ddiweddaraf yn ymwneud â’r cynigion y mae modd eu gweld yma
Gallwch lenwi ffurflenni adborth ar-lein drwy’r ystafelloedd ymgynghori rhithwir neu ofyn am gopi. Mae angen dychwelyd pob sylw i Dŵr Cymru erbyn dydd Llun 9 Medi 2024.