Hwb £1bn Dŵr Cymru i economi Cymru


19 Mehefin 2023

Heddiw, mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi cyhoeddi ei ganlyniadau ariannol blynyddol ynghyd ag Asesiad o Effaith Economaidd gan Uned Ymchwil i Economi Cymru Prifysgol Caerdydd, sy’n dangos bod y cwmni’n cyfrannu mwy nag £1 biliwn at economi Cymru bob blwyddyn, ac yn cynnal mwy na 9,100 o swyddi ledled Cymru, sef 50% yn fwy o gyflogeion uniongyrchol ac anuniongyrchol o gymharu â degawd yn ôl. Mae ei gyfraniad o ran Gwerth Ychwanegol Gros (GVA – sef mesur o wir ‘werth’ y gweithgarwch economaidd i Gymru) wedi cynyddu mwy nag 20% ers 2013.

  • Y cwmni’n cyflawni ei wasanaethau craidd ac yn pwmpio mwy nag £1 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn
  • 58% o’r gwariant yn aros yng Nghymru – sydd gyfwerth â bron i £400m (i fyny o £214m yn 2013)
  • Cynnal 50% yn fwy o bobl yn y gwaith ledled Cymru o gymharu â 2013 – gan gynnwys 50 o brentisiaid eleni yn unig
  • Y cwmni i gyflwyno cynllun newydd i gynorthwyo aelwydydd sy’n gweithio yn ystod yr argyfwng costau byw

Mae’r adroddiadau hyn yn dilyn blwyddyn ymestynnol i’r cwmni a’i bobl, a oedd yn cynnwys gwneud popeth yn ei allu i leihau effaith sychder yr haf diwethaf a’r rhew a’r dadmer cyflym yn y gaeaf ar gwsmeriaid. Yn ogystal, mae disgwyliadau uwch cwsmeriaid, o ran perfformiad amgylcheddol yn benodol, wedi gosod mwy o sylw byth ar y sector, ac mae’r cwmni wedi ymateb trwy gyhoeddi ei Faniffesto ar gyfer Afonydd yng Nghymru a buddsoddiad amgylcheddol uwch nag erioed.

Gyda’r cwmni’n buddsoddi mwy nag £1 miliwn y dydd yn ei brosiectau cyfalaf, mae’n chwarae rhan allweddol wrth gynnal iechyd yr economi yng Nghymru.

Tynnodd yr adroddiad sylw at y twf yn GVA y cwmni hefyd, gan amcangyfrif bod £1 miliwn o GVA uniongyrchol Dŵr Cymru’n cynnal gwerth £1.27 miliwn pellach o GVA mewn rhannau eraill o’r economi.

Ar ôl cyflawni asesiad cyflawn o effaith y cwmni ar economi Cymru, daeth yr adroddiad i’r casgliad, yn ogystal â pharhau i fod yn gwmni angori yng Nghymru, mae Dŵr Cymru yn parhau i fod yn gwmni sy’n angori cwmnïau angori eraill yng Nghymru.

Mae canlyniadau ariannol y cwmni ar gyfer y flwyddyn yn dangos y buddsoddwyd £400 miliwn mewn prosiectau cyfalaf yn ystod y flwyddyn. Dros y 12 mis diwethaf, mae’r cwmni wedi cadarnhau ei fod wedi defnyddio gwerth £113 miliwn o gronfeydd ychwanegol a wnaed yn bosibl diolwch i’w fodel perchnogaeth “nid-er-elw”, swm a fyddai, mewn rhai cwmniau, wedi cael ei dalu i gyfranddeiliaid ar ffurf buddrannau. Mae £13 miliwn o’r cyllid ychwanegol yma wedi cael ei ddyrannu i gynorthwyo tariffau cymdeithasol, ac mae’r £100 miliwn sy’n weddill wedi cael ei ddyrannu i wella ansawdd dŵr afonol (cynllun a gyhoeddwyd yn Awst 2022).

Dywedodd Alistair Lyons, Cadeirydd Glas Cymru: “Yn dilyn blwyddyn ymestynnol dros ben i’r cwmni, a chyfnod cythryblus i’r sector cyfan, rydw i wrth fy modd i weld yr effaith gadarnhaol barhaus y mae Dŵr Cymru yn ei chael ar economi Cymru. Fel cwmni sydd â’i wreiddiau yng Nghymru, rydyn ni’n gallu sicrhau bod y mwyafrif o’n gwariant yn aros yng Nghymru, creu swyddi’n lleol a dod â gwerth economaidd a chymdeithasol ehangach i’r cymunedau a wasanaethwn.

“Wrth i ni baratoi ein cynllun ar gyfer yr adolygiad nesaf o brisiau, PR24, mae ein ffocws ar liniaru ein heffaith ar yr amgylchedd, ac yn benodol ar ansawdd ein dyfroedd afonol, ac ar wella ein gwasanaeth ar gyfer ein cwsmeriaid, lleihau gollyngiadau a thoriadau mewn cyflenwadau, ac osgoi problemau gydag ansawdd y dŵr a gyflenwn.”

Dywedodd yr Athro Max Munday o Uned Ymchwil i Economi Cymru Prifysgol Caerdydd: "Mae Dŵr Cymru’n parhau i chwarae rôl bwysig yn economi Cymru. Yn ogystal â chynnal cyflogaeth, ansawdd y gyflogaeth y mae’n ei chynnal yn uniongyrchol ac yn uniongyrchol yw’r peth pwysig sy’n gwneud cymaint i hybu cyfraniad y cwmni at yr economi rhanbarthol”.

Er bod gweithgarwch economaidd y cwmni’n parhau i gefnogi economi Cymru, mae’r cwmni’n dal i fod yn ymwybodol iawn o’r sialensiau ariannol y mae llawer o’i gwsmeriaid yn eu hwynebu.

Gan adeiladu ar y tariffau fforddiadwyedd y mae’n eu cynnig i gwsmeriaid sy’n ei chael hi’n anodd talu, sy’n gynhwysfawr eisoes, mae’r cwmni bellach yn ymestyn cynllun newydd i gynorthwyo aelwydydd sy’n gweithio ac na fyddai’n gymwys ar gyfer un o’r tariffau fel arall. Nod “Cymuned” yw helpu aelwydydd sy’n gweithio lle mae o leiaf un oedolyn mewn cyflogaeth ond sy’n ei chael hi’n anodd fforddio’r hanfodion, fel eu biliau dŵr.

Yn dilyn treialon llwyddiannus yn Rhondda Cynon Taf a Sir Ddinbych, mae’r cwmni’n cyflwyno’r cynllun ar draws ei ardal weithredol i gyd.

Mae Dŵr Cymru eisoes yn darparu cymorth ariannol ar gyfer nifer fwy o gwsmeriaid nag unrhyw gwmni dŵr arall yng Nghymru a Lloegr yn gyfrannol â’i faint.

Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry: “Rydyn ni’n gwybod bod llawer o’n cwsmeriaid yn cael pethau’n anodd ar hyn o bryd, a dyna pam ein bod ni wedi ymrwymo i fuddsoddi £13 miliwn i ehangu ein cymorth ariannol i 50,000 o aelwydydd ychwanegol trwy ein cynllun “tariffau cymdeithasol” a’n cronfa Cymuned.

“Gyda llawer o’r aelwydydd sy’n gweithio rydym yn eu gwasanaethu’n ffeindio bod eu biliau’n fwy na’u hincwm, gallai ein cronfa Cymuned ddarparu cymorth y mae mawr angen amdano. Bydd aelwydydd cymwys yn cael cyfnod o dri mis ‘heb dâl’, sef disgownt o tua £100-£120 ar sail y bil blynyddol cyfartalog. Ein cyngor ni i gwsmeriaid bob tro yw cysylltu â ni ar unwaith pan fo’r bil yn achosi pryder, fel y gallwn wneud ein gorau glas i ddarparu cymorth i leddfu’r gofid.”

Ym mis Mai, cyhoeddodd y cwmni y bydd pob cwsmer yn cael ad-daliad o £10 yn sgil yr angen i ailddatgan data am berfformiad o ran gollyngiadau a defnydd fesul pen o’r boblogaeth ar gyfer 2020 a 2021. Rhoddodd Dŵr Cymru wybod i Ofwat am y mater, ac mae’r rheoleiddiwr bellach yn ymchwilio i ganfod a oes angen cymryd camau pellach.

Generic Document Thumbnail

Adroddiad Effaith Economaidd

PDF, 349.6kB