Dŵr Cymru yn atgoffa'r cyhoedd i aros allan o gronfeydd dŵr wrth i dymereddau cynnes gael eu rhagweld ar gyfer penwythnos Gŵyl y Banc


26 Mai 2023

Mae Dŵr Cymru yn annog pobl o bob oed i aros allan o gronfeydd dŵr wrth i'r tymheredd godi dros yr wythnos nesaf.

  • Mae Dŵr Cymru yn atgoffa pobl o beryglon nofio mewn cronfeydd dŵr cyn penwythnos cynnes gŵyl y banc a hanner tymor.
  • Y llynedd (2022), bu 48 o farwolaethau yn gysylltiedig â dŵr ledled Cymru. Roedd 22 o'r rhain yn achosion o foddi damweiniol mewn lleoliadau mewndirol ac arfordirol a 4 o'r rhain dan 20 oed(1).
  • Digwyddodd 50% o’r achosion o foddi mewn safleoedd dŵr mewndirol fel afonydd a llynnoedd. (2)

Mae Dŵr Cymru yn annog pobl o bob oed i aros allan o gronfeydd dŵr wrth i'r tymheredd godi dros yr wythnos nesaf.

Bob blwyddyn, mae nifer fawr o unigolion a theuluoedd yn mynd i'r dŵr i nofio, padlo, neu ddefnyddio teganau aer mewn cronfeydd dŵr ledled Cymru, gan beryglu eu bywydau eu hunain a phobl eraill.

Y llynedd, bu 48 o farwolaethau yn gysylltiedig â dŵr ledled Cymru. Digwyddodd 50% o'r rhain mewn safleoedd dŵr mewndirol fel afonydd, llynnoedd a chamlesi. Mae peryglon nofio mewn cronfeydd dŵr yn cynnwys:

  • Peirianwaith cudd o dan wyneb y dŵr sy'n gallu gweithredu heb rybudd.
  • Dŵr dwfn, rhewllyd a all achosi i nofwyr cryf hyd yn oed gael eu hunain mewn trafferthion.
  • Llai o siawns o achub oherwydd bod llawer o gronfeydd dŵr mewn mannau anghysbell, heb fawr ddim signal ffôn symudol, os o gwbl.

Mae gweithgareddau nofio dŵr agored sydd wedi'u trefnu ar gael mewn nifer fach o'n safleoedd Atyniadau i Ymwelwyr lle ystyrir ei bod yn ddiogel ac yn briodol i nofio. Mae'r sesiynau nofio dŵr agored hyn yn cael eu rheoli a'u goruchwylio gan achubwyr bywyd dŵr agored cymwys RLSS.

Dywedodd Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr Dŵr, Cynllunio Asedau a Chyflawni Cyfalaf yn Dŵr Cymru "Gyda thywydd cynnes a heulog yn cael ei ragweld ar gyfer penwythnos gŵyl y banc a’r gwyliau hanner tymor sydd i ddod, mae'n hynod bwysig bod pobl yn ymwybodol o'r peryglon o fynd i mewn i'r dŵr yn ein cronfeydd. Mae ein safleoedd yn brydferth, ac rydym am annog pawb i'w mwynhau gyda ffrindiau a theulu - ond cadwch yn ddiogel wrth wneud hynny.

"Rydyn ni'n gwybod y gall y dŵr eich temtio, ond mae nofio heb awdurdod nid yn unig yn peryglu eich bywyd eich hun, mae hefyd yn peryglu bywydau pobl a allai geisio eich helpu. Gall sioc dŵr oer, peirianwaith cudd a cheryntau marwol achosi i hyd yn oed y cryfaf o nofwyr fynd i drafferthion yn y dŵr.

"Mae parcmyn yn patrolio ac yn goruchwylio ein cronfeydd dŵr er mwyn diogelu y cyhoedd a byddwch yn gweld mwy ohonom allan yn ystod misoedd yr haf ac os cewch eich dal yn y dŵr, gofynnir i chi ddod allan. Gan mai y llynedd y gwelwyd y nifer uchaf o farwolaethau sy'n gysylltiedig â dŵr ymhlith pobl ifanc yng Nghymru ers i gofnodion ddechrau, gobeithiwn y bydd y neges hon yn cyrraedd unrhyw un a allai gael eu temtio i fynd i mewn i gronfa ddŵr. Dydyn ni ddim yma i sbwylio eich hwyl - rydyn ni yma i wneud yn siŵr eich bod chi'n cadw'n saff."


Bydd ymgyrch ddiogelwch 'Prydferthwch sy’n Lladd' Dŵr Cymru yn cael ei lansio ddechrau'r haf a bydd yn annog pobl yng Nghymru i addysgu eu hunain am y peryglon sy’n cuddio o dan wyneb prydferth rhai o fannau hardd Cymru.

Dywedodd Chris Cousens, Cadeirydd Diogelwch y Dŵr yng Nghymru: ‘Yn ôl data a ryddhawyd yn ddiweddar bu farw 22 o bobl trwy ddamweiniau boddi yng Nghymru yn 2022. Er bod hyn yn is na 2021, mae hi’n dal i fod yn uwch nag y byddem yn dymuno ac mae llawer o’r pethau hyn yn digwydd dros fisoedd yr haf.

‘Rwy’n cefnogi ymdrechion Dŵr Cymru i sicrhau bod pobl yn cadw’n ddiogel wrth ymweld â chronfeydd.’

‘Mae Dŵr Cymru’n aelod o Ddiogelwch y Dŵr yng Nghymru, sy’n credu bod un person yn boddi yn un yn ormod. Hoffem annog pobl i ddeall y risgiau sy’n gysylltiedig â dŵr agored ac i alw am gymorth os oes angen.

‘Rydyn ni’n annog unrhyw un sydd mewn trafferth mewn dŵr agored i arnofio i fyw ac i ffonio 999 neu 112 mewn unrhyw argyfwng a gofyn am y gwasanaeth tân ac achub os ydynt mewn lleoliad dŵr mewndirol.’


Os bydd unigolyn yn mynd i drafferthion yn y dŵr, mae'r RNLI (Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub) yn annog pobl i Arnofio i Fyw. Dylai pobl frwydro yn erbyn yr ysfa i fynd i banig ac ymlacio ac arnofio ar eu cefn nes bod effeithiau sioc dŵr oer yn pasio a gall yr unigolyn achub ei hun neu alw am help.

  • Os ydych chi'n mynd i drafferthion yn y dŵr dylech Arnofio i Fyw.
  • Pwyswch yn ôl a defnyddiwch eich breichiau a'ch coesau i'ch helpu i arnofio, yna sicrhewch eich bod yn cael rheolaeth ar eich anadlu cyn galw am help neu nofio i ddiogelwch.
  • Os ydych chi'n gweld rhywun arall mewn trafferthion yn y dŵr, ffoniwch 999 neu 112. Os ydych chi mewn cronfa ddŵr, afon, camlas neu leoliad mewndirol arall, gofynnwch am y Gwasanaeth Tân ac Achub. Os ydych chi ar yr arfordir, gofynnwch am Wylwyr y Glannau.

Ewch i dwrcymru.com/diogelwchcronfeydd am fwy o wybodaeth.


(1) Y nifer uchaf ers i ddata cymharol ddod ar gael o Gronfa Ddata Digwyddiad Dŵr (WAID) y Fforwm Diogelwch Dŵr Cenedlaethol yn 2015.
(2) Mewnwelediad WAID 2022, a gynhelir gan NWSF (Fforwm Diogelwch Dŵr Cenedlaethol) Cymru.