Tariff Water Sure yn lifeline i deulu o Ystum Taf


2 Tachwedd 2023

Cwsmer Dŵr Cymru o Ystum Taf yw Rachel Spencer. Mae’n gweithio dros Ofal Canser Tenovus ac mae’n fam brysur i ddau o blant, Jake a Phoebe.

Chwe blynedd yn ôl, ganed Jake, mab Rachel, ag anhwylder y coluddyn. Nid oedd ei goluddyn bach wedi tyfu’n iawn a bu angen tynnu’r rhan fwyaf ohono. Methodd ei goluddyn o ganlyniad i hynny, oedd yn golygu nad oedd yn gallu prosesu digon o faetholion.

Dywedodd Rachel: “Oherwydd ei anhwylder, roedd Jake yn cael ei fwydo trwy lein ganolog fewnwythiennol nes ei fod yn dair oed. Mae e’n dal i gael ei fwydo trwy PEG nawr, ac mae ganddo broblemau parhaus â’i goluddyn. I’w gadw’n iach, mae angen i ni ddefnyddio llawer o dŵr i olchi a glanhau’n rheolaidd iawn, sy’n golygu y byddai ein bil dŵr nodweddiadol yn uchel iawn.”

Diolch i’r drefn, cysylltodd Rachel â Dŵr Cymru i ofyn a oedd yna unrhyw beth y gallent ei wneud i leihau ei bil dŵr am fod defnydd y teulu y tu hwnt i’w rheolaeth. Siaradodd Rachel ag Arweinydd y Tîm Cymorth gyda biliau, a ymchwiliodd i’r posibilrwydd o’i chynorthwyo’n ariannol.

“Am fy mod i a fy ngŵr mewn cyflogaeth, roeddwn i wedi tybio nad oedd unrhyw gymorth ariannol ar gael i ni gyda’n bil dŵr. Roeddwn i mor falch pan ddaeth Tracey nôl a dweud wrtha’i ein bod ni’n gymwys ar gyfer Water Sure Cymru,” ychwanegodd Rachel.

Mae tariff Water Sure Cymru Dŵr Cymru’n gosod cap ar swm biliau mesuredig cwsmeriaid cymwys fel nad ydynt yn talu mwy na swm penodol ar gyfer y flwyddyn, waeth beth fo lefel eu defnydd. Mae’r cynllun ar gael i gwsmeriaid sydd â mesurydd dŵr eisoes, neu sy’n dewis gosod mesurydd dŵr.

I fod yn gymwys ar gyfer Water Sure Cymru, rhaid i gwsmeriaid fod yn derbyn budd-dal neu gredyd treth cymwys, a bod naill ai â 3 neu ragor o blant o dan 19 oed y gallant hawlio budd-dal plant ar eu cyfer yn byw gartref, neu fod â rhywun ar yr aelwyd ag anhwylder meddygol sy’n gofyn am ddefnydd ychwanegol sylweddol o ddŵr.

Dywedodd Rachel: “Roedd y broses yn un syml. Roedd angen i ni lenwi ffurflen gais a chael meddyg Jake i’w llofnodi i gadarnhau bod ganddo anhwylder meddygol.

Gyda phrisiau ynni mor anwadal, a chostau byw yn cynyddu, mae cael y tawelwch meddwl y bydd cost ein bil dŵr yr un fath bob mis wedi bod yn gymaint o ryddhad i ni. Mae hi’n hyfryd ein bod ni’n gwybod lle’r ydyn ni gyda’r taliadau hyn o leiaf, mae hi’n un peth yn llai i boeni amdano. Byddwn i’n argymell bod unrhyw un sy’n poeni am dalu eu biliau dŵr yn cysylltu â Dŵr Cymru, maen nhw wedi bod yn gymaint o help i ni.”

Dywedodd Sam James, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid Domestig Dŵr Cymru: “Byddwn i’n annog unrhyw un sy’n poeni am dalu eu bil dŵr i siarad â ni, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae hi’n hyfryd clywed am y rhyddhad y mae’r tariff Water Sure Cymru wedi ei roi i Rachel a’i theulu. Dim ond un o lawer o wahanol opsiynau cymorth ariannol sydd gennym ar gyfer ein cwsmeriaid yw hwn, gan gynnwys ein cronfa Cymuned newydd sbon, sydd wedi cael ei ddatblygu i gynorthwyo aelwydydd sy’n gweithio.

“Mae gennym hanes da o gynorthwyo cwsmeriaid gyda’u biliau dŵr; ar hyn o bryd rydyn ni’n darparu cymorth ariannol ar gyfer dros 140,000 o bobl, a fy nghyngor i yw ei bod hi’n well gweithredu’n gynnar, yn hytrach na gadael i ddyled gronni. R’yn ni yma i chi.”

Os ydych chi’n poeni am dalu eich bil dŵr, gall Dŵr Cymru fod â chymorth ariannol a allai’ch helpu chi. Ewch i www.dwrcymru.com/costofliving am fanylion Water Sure Cymru a’r opsiynau eraill sydd ar gael.