Dŵr Cymru a Heddlu Dyfed-Powys yn uno i rybuddio am beryglon nofio yng nghronfa ddŵr Swiss Valley
27 Mehefin 2023
Er gwaethaf nifer o rybuddion am beryglon cudd cronfeydd dŵr, mae grwpiau mawr o bobl yn parhau i ymgynnull yng Nghronfa Ddŵr Cwm Lliedi a rhai yn peryglu eu bywydau trwy fynd i mewn i'r dŵr.
Yn dilyn nifer o adroddiadau bod nofwyr heb awdurdod yn mynd i'r dŵr yng Nghronfa Ddŵr Cwm Lliedi yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae Dŵr Cymru wedi ymuno â Heddlu Dyfed-Powys i osod rhagor o arwyddion, camau diogelwch a helpu i gadw pobl leol yn ddiogel.
Mae digwyddiadau diweddar yn ymwneud â phlant ysgol ac oedolion ifanc yn mynd i Gronfa Ddŵr Cwm Lliedi heb awdurdod wedi tynnu sylw at y peryglon sylweddol sy'n gysylltiedig â mynd i mewn i gronfeydd dŵr. Mae digwyddiadau diweddar wedi gofyn am ymyrraeth gan yr heddlu, gan godi pryderon am ddiogelwch a lles plant a chanlyniadau posibl gweithredoedd o'r fath.
O'r wyneb, mae ein cronfeydd dŵr yn edrych yn brydferth. Ond mae peryglon cudd yn llechu o dan yr wyneb a gall nofio heb awdurdod fod yn farwol. Cronfa ddŵr weithredol yw un Cwm Lliedi ac mae sawl perygl yno gan gynnwys cerrynt peryglus, peiriannau cudd a risg o foddi oherwydd sioc dŵr oer. Mae swyddogion gorfodi'r gyfraith leol wedi bod yn rhan o ddigwyddiadau diweddar ac yn annog rhieni a gwarcheidwaid i addysgu eu plant am beryglon mynd heb awdurdod i gronfeydd dŵr.
Bydd y camau diogelwch cynyddol yn golygu y bydd parcmyn Dŵr Cymru a swyddogion yr heddlu yn patrolio'r gronfa yn rheolaidd i sicrhau bod ymwelwyr yn ymddwyn yn ddiogel ac yn gyfrifol.
Dywedodd Will Rees, rheolwr diogelwch Dŵr Cymru: "Rydym wedi bod yn bryderus iawn am yr adroddiadau o nofio heb awdurdod yng Nghronfa Cwm Lliedi. Mae'r tywydd cynnes wedi annog pobl i fynd i mewn i'r dŵr. Ond rydym am ddefnyddio Wythnos Atal Boddi a'n partneriaeth â Heddlu Dyfed-Powys, i atgoffa pobl bod llawer o beryglon cudd yn y dŵr a gall nofio heb awdurdod ladd."
Mae'r peryglon cudd mewn cronfeydd dŵr yn cynnwys gwrthrychau tanddwr a all anafu nofwyr, cerrynt cudd cryf a achosir gan beiriannau cudd a all dynnu nofwyr o dan yr wyneb, a cheryntau anrhagweladwy o ddŵr oer iawn. Mae'r peryglon hyn yn ddifrifol ac yn gallu lladd; y llynedd (2022), bu 48 o farwolaethau yn gysylltiedig â dŵr ledled Cymru - 22 o'r rhain yn achosion o foddi damweiniol mewn lleoliadau mewndirol ac arfordirol, 4 o'r rhain dan 20 oed, a 50% o'r achosion o foddi yn digwydd mewn safleoedd dŵr mewndirol fel afonydd a llynnoedd.
Dywedodd Sarjant Ian Roach, o Heddlu Dyfed-Powys: "Rydym eisoes yn gweld nifer cynyddol o alwadau i'r gronfa ddŵr, gydag adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol a phryderon am ddiogelwch pobl ifanc sy'n nofio yn y dŵr.
"Wrth i ni agosáu at wyliau'r haf, rydym yn disgwyl i alwadau o'r fath gynyddu eto. Os ydych chi'n gwybod neu'n credu bod eich plant yn bwriadu cwrdd yng Nghwm Lliedi, Cronfa Ddŵr Swiss Valley i nofio, mae’n hollbwysig eich bod yn eu haddysgu am beryglon hyn.
"Nid yn unig hynny, ond mae'r canlyniadau'n gysylltiedig â mynediad heb awdurdod a thresmasu ar eiddo cronfeydd dŵr, a byddwn yn gweithio'n agos gyda wardeniaid cronfeydd dŵr i atal unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol rhag digwydd.
"Rydym yn ymweld ag ysgolion uwchradd yn Llanelli i drosglwyddo'r negeseuon hyn, ond byddem yn gwerthfawrogi pe byddai sgyrsiau hefyd yn digwydd gartref."