Yr hyb ymwelwyr newydd yng nghronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien yn dod yn ei flaen


25 Ionawr 2023

Mae’r gwaith adeiladu yn dod yn ei flaen yn dda ar hyb ymwelwyr newydd sbon Dŵr Cymru yng nghronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien y mae cyffro mawr yn ei gylch.

Dechreuodd gwaith adeiladu’r cwmni dŵr nid-er-elw ym mis Ionawr 2022, a bydd yn cynnwys hyb ymwelwyr deulawr â golygfeydd bendigedig ar draws y ddwy gronfa. Bydd yn cynnwys ystafelloedd newid, cawodydd a thoiledau ar gyfer chwaraeon dŵr, ystafelloedd hyfforddi at ddefnydd y gymuned leol, a chaffi â golygfeydd godidog dros y ddwy gronfa.

Mae’r cwmni lleol o Gaerdydd, BECT Building Contractors, wedi bod yn cyflawni’r gwaith adeiladu ar gyfer y prosiect cyffrous yma. Cwblhawyd uwchstrwythur yr adeilad newydd, ac mae gwaith wedi dechrau y tu fewn i’r adeilad.

Yn rhan o uchelgeisiau amgylcheddol y cwmni, mae dyluniad y ganolfan ymwelwyr yn ymgorffori elfennau i wella ei nodweddion gwyrdd a lleihau ei ôl troed carbon. Mae hyn yn cynnwys paneli ffotofoltaidd (PV) solar mawr ar y to, defnyddio nwy ‘gwyrdd’ a gaiff ei gynhyrchu trwy brosesau trin carthffosiaeth Dŵr Cymru, system ddraenio cynaliadwy â lle draenio danddaear, a gardd law i ddal a hidlo’r dŵr glaw. Bydd ganddo system awyru adfer gwres yn yr ystafelloedd newid, a sylfeini cawod sy’n adfer gwres o ddŵr gwastraff hefyd.

Ar ôl cwblhau’r gwaith, bydd safle Dŵr Cymru’n cynnig amrywiaeth o chwaraeon dŵr, gan gynnwys rhwyf-fyrddio, canŵio, caiacio a chychod picnic trydan.

Ychwanegiad cyffrous arall at y safle yw datblygiad y ganolfan addysg. Bydd hyn yn cynnwys creu Parth Dysgu gydag ystafell ddosbarth awyr agored a thŷ crwn Cymreig a fydd yn cynnig gweithgareddau addysg yng ngofal gofalwyr y safle, a chyfleoedd i wirfoddoli a chael profiad gwaith.

Bu Jo Stevens, Aelod Seneddol Canol Caerdydd, yn ymweld â’r safle yn gynharach yn y mis. Dywedodd: "Mae cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien yn brosiect cyffrous a fydd yn dod â llwyth o fanteision i’r gymuned leol. Trwy’r amrywiaeth o weithgareddau a chyfleoedd gwirfoddoli a fydd ar gael, mae ganddo’r potensial i fod yn hyb eiconaidd ar gyfer gweithgareddau dŵr ac awyr agored, a bydd yn rhoi cyfle i bobl fwynhau manteision bod allan yn yr awyr agored o ran eu hiechyd a’u llesiant."

I gael rhagor o wybodaeth am y datblygiad newydd cyffrous yma wrth galon Caerdydd, ewch i dwrcymru.com/llysfaenallanisien.