Cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien
Croeso i’n tudalen ynghylch ein cynlluniau cyffrous ar gyfer safle Cronfa Ddŵr Llys-faen a Llanisien. Ein gweledigaeth ar gyfer y safle yw creu canolfan ar gyfer hamdden, iechyd a lles – a darparu ardal yn ein prifddinas fywiog lle gall pobl ailgysylltu â dŵr a’n hamgylchedd hardd.
Cyflwyniad
Fe gymeron ni awenau cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien yn 2016 - a daethom yn warcheidwaid eu hanes a'u treftadaeth hynod.
Adeiladwyd y tirnod hwn o Oes Fictoria yn y 19eg ganrif, mae'n ymestyn dros 110 erw o ofod gwyrdd a glas ac mae’n gartref i gyfoeth o fflora a ffawna – yn werddon o lonyddwch ond ychydig filltiroedd o ganol dinas Caerdydd.
Dynodwyd Cronfa Ddŵr Llys-faen yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) oherwydd yr adar sy'n treulio'r gaeaf yno; a dynodwyd argloddiau'r ddwy gronfa'n SoDdGA am eu ffwng cap cwyr. Dynodwyd llawer o'r glaswelltir a'r coetiroedd prysgwydd y tu hwnt i'r SoDdGA yn Safleoedd o Bwys er Cadwraeth Natur (SoBeC)
Byth ers i ni gymryd awenau cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien yn 2016, rydyn ni wedi bod yn gweithio i'w hadfer i'w hen ogoniant. Wrth werthfawrogi pwysigrwydd ecolegol y safle, rydyn ni'n cydnabod potensial y safle i greu hyb ar gyfer hamdden, iechyd a lles hefyd – a darparu ardal yn ein prifddinas fywiog lle gall pobl ailgysylltu â'r dŵr a'n hamgylchedd prydferth. Nod ein cynigion yw cynnig cymaint o fynediad â phosibl i'r cyhoedd, wrth ddiogelu a chyfoethogi ecoleg y safle. Maent wedi cael eu dylunio mewn ymgynghoriad â'r rhanddeiliaid allweddol, a chan ddefnyddio adborth y gymuned leol.
Y gwaith hyd yn hyn...
Mae adfer y cronfeydd dŵr a dod â nhw nôl i ddefnydd gweithredol fel bod modd i bobl eu mwynhau am ddegawdau i ddod wedi bod yn gyfle unigryw.
Mae ecolegwyr wedi goruchwylio pob cam o'r broses yma er mwyn lleihau effeithiau'r gwaith ac amddiffyn y bywyd gwyllt eiconaidd sydd ym mhob cwr o’r safle - o'r ffwng cap cwyr i'r adar sy'n treulio'r gaeaf yno.
Ers i ni gymryd awenau'r safle yn 2016, rydyn ni wedi cyflawni llawer o waith hanfodol i adfer y cronfeydd. Mae hyn yn cynnwys:
- clirio llystyfiant o’r ddwy gronfa
- paratoi'r wyneb cerrig ar ran fewnol wal yr argae yng nghronfa ddŵr Llanisien
- trwsio a disodli'r falfiau a'r pibellau sy’n angenrheidiol i weithredu'r cronfeydd dŵr yn ddiogel
- ailgodi’r ffens o amgylch y safle
- draenio cronfa ddŵr Llanisien er mwyn cyflawni archwiliad trylwyr cyn ei hadlenwi'n ddiogel
- cyflwyno trefniadau torri gwaith newydd ar argloddiau'r cronfeydd er mwyn cyfoethogi'r tir ar gyfer y ffwng cap cwyr
Ym mis Ionawr 2022, dechreuodd y gwaith ar y ganolfan ddeulawr newydd sbon ym mhen gogleddol y safle. Disgwylir i’r gwaith ar yr adeilad gael ei gwblhau yn ystod haf 2023.
Yr Hyb i Ymwelwyr
Ein gweledigaeth yw creu hyb cymunedol y gall pobl leol ac ymwelwyr ei fwynhau. Ym mhen gogleddol y safle, byddwn ni'n creu hyb i ymwelwyr â golygfeydd godidog dros y ddwy gronfa. Bydd yr adeilad dwylawr yn cynnwys:
- Ystafelloedd newid, cawodydd a thai bach i hwyluso chwaraeon dŵr
- Ystafelloedd cyfarfod a hyfforddi
- Caffi â golygfeydd panoramig dros y cronfeyd
Fel y gallwch fwynhau'r golygfeydd a'r byd natur bendigedig o'n cwmpas - byddwn ni'n creu:
- Llwybrau cylchol o amgylch y cronfeydd
- Cuddfannau gwylio adar a golygfannau
- Ardaloedd cadwraeth
- Arwyddion a dehongli ar draws y safle, a llwybr natur
Hygyrchedd
Mae cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien yn boblogaidd iawn ar draws Caerdydd a'r ardal ehangach - felly rydyn ni am sicrhau bod y safle mor hygyrch â phosibl i'r gymuned leol a'r brifddinas ar led, a hynny wrth amddiffyn a chyfoethogi ecoleg unigryw'r safle.
Bydd pwyntiau mynediad newydd a llwybrau cylchol o amgylch y cronfeydd a'r safle’n ei gysylltu â chymunedau lleol a hawliau tramwy cyhoeddus. Rydyn ni wedi dylunio llwybrau i dywys ymwelwyr o gwmpas y safle ac i leihau'r effaith ar yr ardaloedd ecolegol sensitif ecoleg Bydd cuddfan gwylio adar sy'n addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn yn caniatáu i ymwelwyr ddod i wylio'r adar sy'n treulio'r gaeaf ar gronfa Llys-faen.
Bydd parcio ar gael i'r rhai sy’n gorfod teithio i’r safle mewn car wrth ymyl yr hyb i ymwelwyr. Rydyn ni'n gobeithio y bydd modd cynnig darpariaeth parcio a llwybr i bobl anabl gyrraedd man gwylio ar gronfa ddŵr Llanisien o Heol Rhyd-y-Pennau. Sefydliad Dementia Gyfeillgar ydyn ni ac rydyn ni wedi ymrwymo i gynnig Sailability.
Bydd mynediad i safle'r cronfeydd yn rhad ac am ddim, ac yn agored i'r cyhoedd 364 diwrnod y flwyddyn. Fodd bynnag, er mwyn amddiffyn yr adar sy'n treulio'r gaeaf yma, a'r ffwng cap cwyr, bydd mynediad i gronfa ddŵr Llys-faen yn gyfyngedig dros fisoedd y gaeaf.
Chwaraeon dŵr
Yn rhan o’n cynlluniau i drawsnewid y cronfeydd dŵr i fod yn hyb ar gyfer iechyd a llesiant, rydyn ni’n bwriadu dod â chwaraeon dŵr nôl i gronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien.
Mae ein cynlluniau’n cynnwys darparu gweithgareddau dŵr - fel rhwyf-fyrddio, canŵio, caiacio a mwy.
Bydd hwylio’n dychwelyd i gronfa ddŵr Llys-faen a Llanisien am y tro cyntaf ers 2010 hefyd. Roedd y safle’n arfer bod yn un o ganolfannau hyfforddi hwylio mwyaf blaenllaw a phoblogaidd Cymru, a’n bwriad yw dod â’r gamp yma nôl fel y gall pobl Caerdydd a de Cymru ei fwynhau unwaith eto.
Rydyn ni’n bwriadu dod â rhwyf-fyrddio, canŵio a chaiacio i’r gronfa hefyd - gan roi cyfle i bawb fwynhau amrywiaeth o chwaraeon dŵr a dysgu sgiliau newydd mewn amgylchedd mewndirol diogel.
Rydyn ni wedi cael nifer o sylwadau o blaid nofio dŵr agored ar y safle yn ystod ein cysylltiadau agored â chi dros y blynyddoedd diwethaf, ac rydyn ni wedi ymrwymo o hyd i ymchwilio i’r cyfle hwn ar gyfer y dyfodol.
Addysg
Yn Dŵr Cymru, rydyn ni'n credu mewn cysylltu pobl ifanc â’n gwaith am taw nhw fydd cwsmeriaid y dyfodol, ac am eu bod yn chwarae rôl allweddol wrth ein helpu ni i amddiffyn ein hadnoddau dŵr gwerthfawr.
Rydyn ni'n cynnig rhaglen addysg gynhwysfawr eisoes, a gyrhaeddodd mwy na 75,000 o blant yn 2019-2020 - ac mae ein rhaglenni addysg wedi cyrraedd mwy na hanner miliwn o blant ers iddynt gael eu sefydlu yn 2001. Mae Llys-faen a Llanisien yn cynnig potensial aruthrol i adeiladu ar y record yma, ac felly mae’r adnoddau addysgol yn rhan bwysig o'n cynlluniau.
Am hynny mae ein cynlluniau'n cynnwys:
- Gofalwyr ar y safle'n cynnig gweithgareddau i ymwelwyr, plant ysgol a grwpiau corfforaethol i'w haddysgu am arwyddocâd arbennig y cronfeydd
- Parth Dysgu â thŷ crwn Cymreig – a fyddai'n ategu rhaglenni Ysgol y Goedwig, ac a fyddai ar gael i grwpiau addysg, cymunedol a llesiant eu defnyddio
- Datblygu deunyddiau dysgu i ategu amcanion y cwricwlwm
- Cyfleoedd am brofiad gwaith, datblygu sgiliau a lleoliadau hyfforddi
- Hyfforddiant a chyrsiau chwaraeon dŵr
Y byd o'n cwmpas: Ecoleg
Rydyn ni'n cymryd ein cyfrifoldeb dros ddiogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol o ddifrif calon.
Ers i ni gymryd awenau'r cronfeydd dŵr, rydyn ni wedi bod yn ymwybodol iawn o werth ecolegol – a hanesyddol – hynod y safle, ac wedi cydweithio'n agos â Chyfoeth Naturiol Cymru, Cadw ac arbenigwyr eraill i adfer y cronfeydd a datblygu ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Mae'r safle'n adnodd naturiol unigryw â gwerth ecolegol sylweddol. Mae'n cynnwys dau Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) am ei ffwng cap cwyr a’r adar sy'n treulio'r gaeaf yno. Mae Coedwig Gwern-y-Bendy a Choedwig Rhyd-y-Pennau ill dwy yn Safleoedd o Bwys i Gadwraeth Natur hefyd.
Cyflawnwyd amrywiaeth o astudiaethau – gan gynnwys astudiaethau o ran ecoleg, cludiant, mynediad a llifogydd. Mae'r astudiaethau hyn a'u canfyddiadau wedi bod yn rhan o'r wybodaeth rydym wedi ei chyflwyno yn rhan o'r cais cyn- cynllunio. Gallwch weld yr holl adroddiadau a dogfennau cysylltiedig isod.
Er mwyn diogelu ecoleg unigryw'r safle, mae ein cynigion yn cynnwys:
- Parth Cadwraeth Gaeafol ar gronfa ddŵr Llys-faen i amddiffyn yr adar sy'n treulio'r gaeaf yno
- Ynysoedd arnofiol ar Lys-faen i greu lloches i'r adar
- Cuddfannau gwylio adar ar arglawdd Llys-faen
- Parth Cadwraeth yng Nghoedwig Gwern-y-Bendy
Iechyd a lles
Yn ogystal â chynnig gweithgareddau dŵr ac addysg, rydyn ni'n cydnabod potensial y safle fel hyb ar gyfer iechyd a lles.
Datblygwyd ein prosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles yng Nghymru (ENRaW) trwy bartneriaeth arloesol, ac fe'i hariennir gan Lywodraeth Cymru.
Bydd hyn yn ein gweld ni'n gweithio gyda Grŵp Gweithredu'r Gronfa, Cyngor Caerdydd a Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, ynghyd ag amrywiaeth o sefydliadau eraill i gynnig gweithgareddau er lles iechyd pawb, a hynny wrth helpu i gyfoethogi amgylchedd a bioamrywiaeth y safle.
Bydd y prosiect yn hwyluso creu:
- llwybrau o amgylch y cronfeydd dŵr a chuddfan gwylio adar sy'n addas i gadeiriau olwyn
- Parth Dysgu â thŷ crwn Cymreig
- grŵp Cyfeillion i weithio gyda ni i gyfoethogi bioamrywiaeth a helpu i ofalu am y safle yn y dyfodol
- rhaglen i gysylltu’r gymuned gan weithio gyda phartneriaid a sefydliadau lleol
- prosiect treftadaeth gymunedol i gasglu atgofion ar gyfer y cynllun dehongli ac arwyddion newydd
- cyfleoedd ar gyfer presgripsiynau cymdeithasol gan weithio mewn partneriaeth â'r sector gofal iechyd
Gwirfoddoli yn Llys-faen a Llanisien
Mae Dŵr Cymru yn cydnabod bod Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yn ganolog i’r gymuned leol, ac yn cydnabod y rhan bwysig a chwaraeodd pobl leol i ddiogelu’r safle er budd cenedlaethau’r dyfodol. I helpu i gyflawni ein gweledigaeth o greu canolfan drefol ar gyfer iechyd a llesiant rydym wedi cefnogi’r broses o ffurfio Cyfeillion Cronfeydd Dŵr Caerdydd i helpu pobl i ymgysylltu â’r cronfeydd a threftadaeth y safle.
Cyn i’r safle agor i’r cyhoedd, bydd gan aelodau’r grŵp gyfle i weithio gyda Dŵr Cymru a chyd-greu digwyddiadau gwirfoddol a fydd yn helpu gyda gweithgareddau rheoli cadwraeth i warchod a gwella ecoleg unigryw’r safle. Ar ôl i’r safle agor i’r cyhoedd bydd y Grŵp Cyfeillion yn parhau i gefnogi Dŵr Cymru i helpu i ofalu am y safle i’r dyfodol.
Gweithio
mewn Partneriaeth
Mae Dŵr Cymru wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau sy’n creu cyfleoedd i gynyddu ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad pobl a chymunedau lleol i ofalu am yr amgylchedd.
Mewn cydweithrediad â Chyfeillion Cronfeydd Dŵr Caerdydd a gyfansoddwyd yn annibynnol, treialir rhaglenni gwirfoddoli yn ein Cronfeydd Dŵr yng Nghaerdydd, yn Llys-faen a Llanisien.
Cymerwch ran a gwirfoddolwch gyda Chyfeillion Cronfeydd Dŵr Caerdydd
Lisvane & Llanishen Newyddlenni
PDF, 3.9MB
Darganfyddwch ychydig mwy am y gwaith sydd wedi bod yn cael ei wneud a’r hyn sydd wedi’i gynllunio ar gyfer y misoedd nesaf.