Amrywiadwy/bonws Gweithredol am flwyddyn ariannol 2022-23


11 Mai 2023

Mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi cadarnhau na fydd y Prif Weithredwr, Peter Perry, a’r Prif Swyddog Cyllid, Mike Davis, yn derbyn amrywiadwy/bonws am flwyddyn ariannol 2022-23.

Dywedodd Mr Perry: "Fel darparydd gwasanaeth hanfodol, ein prif ffocws yw darparu gwasanaeth da ar gyfer ein cwsmeriaid a chynorthwyo’r cymunedau a wasanaethwn. Fodd bynnag, rwy’n cydnabod cryfder teimladau’r cyhoedd am ansawdd dŵr afonol ar hyn o bryd, ac yn dilyn blwyddyn ymestynnol dros ben yn sgil nifer o ddigwyddiadau tywydd, roeddwn i eisoes wedi penderfynu na fyddwn i’n derbyn bonws eleni.

"Gallaf sicrhau cwsmeriaid ein bod ni wedi ymrwymo’n llwyr o hyd i amddiffyn yr amgylchedd. Rydyn ni ar y trywydd i gyflawni gwerth dros £840m o welliannau i’n rhwydwaith dŵr gwastraff erbyn 2025, ac £1.4bn pellach erbyn 2030.

"Er bod 41% o’r afonydd yng Nghymru’n cyflawni statws ecolegol ‘da’ o gymharu ag 14% yn Lloegr, rydyn ni’n gwybod bod angen i ni gyflymu ein buddsoddiad yn hyn o beth. Dyna pam fod ein Maniffesto ar gyfer Afonydd a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn datgan ein cynlluniau i leihau ein llygredd ffosfforws sy’n effeithio ar afonydd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yng Nghymru 90% erbyn 2030, a’n bwriad yw cyflawni 100% erbyn 2035. Ein nod fydd sicrhau nad yw cyrff dŵr yng Nghymru’n methu â chyflawni statws ‘da’ oherwydd effeithiau gorlifoedd storm cyfun."